Ysgoloriaethau
Mae'r Coleg yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau penodol yn rhannol, neu'n gyfan gwbl, drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fanylion llawn am yr ysgoloriaethau, ewch i wefan y Coleg
Prif Ysgoloriaethau
Mae'r Prif Ysgoloriaethau werth £3000, ac ar gael i fyfyrwyr sy'n llwyddo yn arholiad mynediad Prifysgol Bangor ac yn ymrwymo i astudio 80 credyd o'u cwrs yn Gymraeg bob blwyddyn.