Gwasanaethau Cymraeg Clir

Gwasanaeth Cyfieithu a Golygu

Mae Uned Cymraeg Clir yn cynnig gwasanaeth masnachol llawn ar gyfer cyfieithu a golygu. Gall staff y gwasanaeth:

  • gyfieithu eich holl ddogfennau cyhoeddus o’r Saesneg i Gymraeg Clir
  • golygu dogfennau Cymraeg neu rai sydd wedi’u cyfieithu’n barod.

Bydd marc Cymraeg Clir i’w weld yn awtomatig ar bob dogfen a gafodd ei chyfieithu neu ei golygu gan staff y gwasanaeth.

Cysylltwch ag Eleri Jones, Prif Olygydd, i holi am y gwasanaeth cyfieithu a golygu.