Project Digido (DECHE)
Project DECHE (Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig)
Daeth y project hwn i ben ddiwedd Gorffennaf 2016.
Project i ailgyhoeddi llyfrau Cymraeg allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg sydd allan o brint ar ffurf e-lyfrau oedd DECHE, ac fe’i ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ynghyd â diogelu’r cyhoeddiadau academaidd hyn i’r dyfodol a’u gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr a staff prifysgol, cyhoeddwyd yr e-lyfrau ar ffurf EPUB, MOBI (ar gyfer Kindle) a PDF.
Mae’r e-lyfrau i’w gweld yn Llyfrgell y Coleg.