Newyddion: Awst 2020
Y Sefydliad Dyfodol Niwclear wedi'i enwi fel rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR)
Mae Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor yn rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR) gwerth £10M dan arweiniad Westinghouse. Wrth i'r wlad ymdrechu i gynhyrchu Sero CO2, mae ynni niwclear yn cael ei ddefnyddio fel un o'r adnoddau mwyaf blaenllaw sy'n darparu trydan cyson dibynadwy, cynaliadwy, CO2 isel.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2020