Newyddion: Medi 2020
Cyfrifiadureg Bangor yn Ennill Statws GitHub
.Mae Prifysgol Bangor wedi dod yn un o ddim ond saith prifysgol yn y DU sydd â chynghorydd GitHub ardystiedig ar y campws, yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2020
Academyddion yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020
Bu academyddion o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020, a gynhaliwyd ddydd Iau 10 a dydd Gwener 11 Medi 2020 ar Zoom. Rita Borgo ac Alfie Abdul-Rahman (King’s College Llundain) oedd yn cynnal y gynhadledd a hon oedd y 38ain gynhadledd graffeg cyfrifiadurol, delweddu a chyfrifiadureg gweledol flynyddol a drefnwyd gan yr Eurographics UK Chapter.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2020
Graddedigion yn sicrhau cyflogaeth yn ystod perthynas fusnes 20 mlynedd
Mae cwmni biotechnoleg a phrifysgol yn dathlu mwy na dau ddegawd o bartneriaeth a arweiniodd at nifer o gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion. Dechreuodd Bee Robotics a Phrifysgol Bangor weithio gyda'i gilydd gyntaf ym 1998 a bu'r berthynas yn allweddol i'r ddau sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2020
Cyflogwyr - a oes gennych ddiddordeb mewn uwchsgilio'ch gweithlu?
Mae gan Brifysgol Bangor ynghyd â Grŵp Llandrillo Menai bortffolio o gymwysterau wedi'u hariannu'n llawn yn cynnwys Peirianneg Meddalwedd , Seiberddiogelwch , Gwyddor Data a Pheirianneg Fecanyddol a Drydanol .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2020