Module SCS-3013:
Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas
Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas 2025-26
SCS-3013
2025-26
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Cynog Prys
Overview
Diben y modiwl hwn yw astudio’r consensws a’r gwrthdaro o fewn cymdeithas, gan gwestiynnu’r modd y mae grymoedd cymdeithasol yn dylanwadu ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn codi cwestiynau ynglŷn â sut mae normau a gwerthoedd cymdeithasol yn cael ei gyfreithloni, gan gwestiynu buddiannau pwy sy’n cael ei gynrychioli gan y gwerthoedd hyn. Byddwn felly yn trafod y berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas, gan gloriannu’r dadleuon rhwng galluedd yr unigolyn a dylanwad strwythurau cymdeithas ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn gorffen drwy ystyried enghreifftiau o synthesis theoretaidd rhwng y ddau safbwynt.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i rai o theoretwyr cymdeithasegol y cyfnod modern, gan adeiladau ar ei dealltwriaeth o theory gymdeithasegol glasurol. Cychwynnir drwy astudio’r modd y datblygodd y traddodiad Marcsaidd gan dalu sylw penodol at gyfraniad Antonio Gramsci. Wrth drafod gwaith Gramsci byddwn yn canolbwyntio ar ei gysyniad o hegemoni, rheolaeth gymdeithasol a chydsyniad.
Yna byddwn yn astudio damcaniaeth gwrthdaro, a chyfraniad meddylwyr yr Ysgol Frankfurt (e.e. Marcuse, Adorno, Hokenhimer, a Habermas). Fel Gramsci, roedd y theoretwyr hyn yn ysgrifennu yn y traddodiad Marcsaidd gyda diddordeb mewn pŵer a rheolaeth gymdeithasol. Astudiwn y modd yr oedd y theoretwyr amrywiol o fewn yr YF yn dehongli’r modd yr oedd y system yn tra-arglwyddi dros unigolion, yn gorchymyn, manipiwleiddio, dallu a thwyllo unigolion i gynnal ac atgynhyrchu strwythur cymdeithas.
Bydd y modiwl yn cloi drwy ystyried cyfraniad Pierre Bourdieu a’i ymgais i gynhyrchu synthesis o alluedd yr unigolyn a dylanwad strwythur cymdeithas. Trafodir cysyniadau Bourdieu o habitus, cyfalaf, a meysydd, gan drafod y modd cudd y mae Bourdieu yn gweld pŵer yn dylanwadu ar ein bywydau beunyddiol. Byddwn hefyd yn ystyried defnydd ffeministiaid o gysyniadau Bourdieu o ran theory ymgorfforiad.
Learning Outcomes
- Adeiladu ar ei dealltwriaeth o theori gymdeithasegol glasurol (SCS 2007).
- Cyflwyno syniadau’r theoretwyr hyn mewn modd clir a rhesymegol.
- Dadansoddi'n feirniadol gysyniadau a theorïau cymdeithasegol gyfoes e.e. Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt a Bourdieu.
- Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o dystiolaeth a dadleuon cymhleth trwy astudiaeth annibynnol
- Gwerthuso'r dylanwadau ar gysyniadau’r theorwetwyr cymdeithasegol dan sylw.