Module SCY-1004:
Cyflwyniad i Droseddeg
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Gwenda Jones
Overall aims and purpose
Mae troseddeg yn faes astudio hynod ddiddorol. Mae'r maes troseddeg fel pwnc disgyblaeth yn benthyg o feysydd eraill megis cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, gwyddoniaeth wleidyddol, daearyddiaeth, seicoleg a hanes yn ogystal â'r gyfraith, cyfiawnder troseddol ac astudiaethau'r heddlu. Ymdrinir â safbwyntiau theoretaidd gwahanol sy'n egluro troseddu a rheolaeth gymdeithasol ac ymddygiad droseddol. Olrheinir gwreiddiau troseddeg hyd at drafodaeth o safbwyntiau mwyaf cyfoes.
Course content
Troseddeg, trosedd a gwyredd: gosod y cyd-destun Yr Ysgol Glasurol a Chlasuriaeth gyfoes Positifistiaeth Biolegol Positifistiaeth Seicolegol Anrhefn Gymdeithasol ac Anomie Theori Straen Gymdeithasol a Diwylliannol Theori Labelu Troseddeg Radical a Beirniadol Theori Rheolaeth Troseddeg Rhealaeth Troseddeg Ffeministiaeth
Assessment Criteria
threshold
Aseiniad: Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o rai o brif theorïau trosedd ynghyd â phroblemau methodolegol; gallu cymharu a gwrthgyferbynnu theorïau; gallu cyflwyno deunydd clir gan ganolbwyntio ar bwyntiau allweddol a thrafod ffynhonellau'n sylfaenol a chyffredinol. Prawf Dosbarth: Dangos dealltwriaeth sylfaenol o'r prif gysyniadau a chynnig cymhariaeth syml, boddhaol.
good
Aseiniad: Dangos ymwybyddiaeth gadarn o achosion trosedd a phrif theorïau trosedd; gallu cymharu a gwrthgyferbynnu theorïau'n glir a beirniadol ynghyd âr amryw ddiffiniadau o drosedd a phroblemau methodolegol; gallu trafod hanes trosedd, cyfraith a chyfiawnder troseddol a systemau cosb. gallu cyflwyno deunydd clir gan ganolbwyntio ar bwyntiau allweddol a thrafod ffynhonellau'n drylwyr a beirniadol.
Prawf Dosbarth: Dangos dealltwriaeth dda a beirniadol o'r prif gysyniadau a chynnig cymhariaeth a gwrthgyferbyniaeth ystyrlon, glir.
excellent
Aseiniad: Dangos ymwybyddiaeth drylwyr a chynhwysfawr o achosion a phrif theorïau trosedd. Yn gallu egluro a dadansoddi'r prif theorïau'n drylwyr a chynhwysfawr, gan arddangos gwreiddioldeb meddwl wrth werthuso a chymhwyso theori i bolisi a thu draw. Gallu dadansoddi hanes trosedd ac ehangder diffiniadau, cyfiawnder a systemau cosb. Gallu cyflwyno dadl wedi ei saernïo'n grefftus ac ystod eang o ffynhonellau i gefnogi'r ddadl. Prawf Dosbarth: Dangos dealltwriaeth reymegol o'r prif gysyniadau, a thrafodaeth ragorol ddisglair wrth gymharu a gwrthgyferbynnu.
Learning outcomes
-
Archwilio effaith troseddu ar gymdeithas, gan gynnwys dioddefwyr troseddau.
-
Dangos y gallu i leoli, dehongli a gwerthuso'n feirniadol (ar lefel gychwynnol) lenyddiaeth a thystiolaeth berthnasol sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol a gwyredd.
-
Dangos dealltwriaeth glir o wreiddiau troseddeg.
-
Gallu cymharu a gwrthgyferbynnu prif bersbectifau troseddeg.
-
Dangos dealltwriaeth o'r ffyrdd y mae troseddu wedi'i diffinio a'i hadeiladu mewn cyd-destunau cyfreithiol, cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Aseiniad | 60.00 | ||
Prawf Dosbarth | 40.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Seminar | 1 awr seminar x 12 |
12 |
Lecture | Darlith 1 awr yr wythnos x 24 wythnos Rhoddir darlithoedd i fynu ar Blackboard unwaith y traddodir hwy, ynghyd ag adnoddau cefnogol eraill. |
12 |
Private study | Astudiaeth Breifat am o leiaf 176 awr yn darllen ar destynau darlithoedd a seminarau; gwaith paratoi aseiniadau. |
176 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Dealltwriaeth o ddulliau ymchwil ynghyd a dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau darnau o ymchwil a’u defnydd
- Y gallu i lunio ac ymchwilio i gwestiynau sydd wedi seilio ar ddamcaniaeth a gwaith empirig mewn cymdeithaseg.
- Gwybodaeth ymarferol ynghylch defnydd o safbwyntiau damcaniaethol mawr a chysyniadau cymdethiasegol er mwyn deall bywyd cymdeithasol.
- Y gallu i ddadansoddi, asesu a throsglwyddo gwybodaeth gymdeithasegol empirig
- Y gallu i ymgysylltu ag amrywiaeth o strategaethau ymchwil ansoddol a meintiol a’r dulliau sydd yn terddu o’r ddau ddynesiad
- Y gallu i gynnal ymchwil polisi cymdeithasol neu gymdeithasegol annibynnol
Courses including this module
Compulsory in courses:
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 1 (BA/CCCJ)
- M931: BA Criminology & Criminal Justice with International Exp year (BA/CJIE)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 1 (BA/PCCCJ)
Optional in courses:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 1 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 1 (BA/APIPC)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 1 (BA/HSW)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 1 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 1 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 1 (BA/SPWWH)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 1 (BA/SWWH)