Module VPC-2404:
Iddewiaeth yn y Byd Modern
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Gareth Evans Jones
Overall aims and purpose
Amcan y modiwl hwn yw darparu myfyrwyr â gwybodaeth eang a thrylwyr o’r grefydd Iddewig, ei datblygiad, a’i hymarfer yn y byd modern. Bydd y modiwl yn dechrau ag archwiliad o’r Beibl Hebraeg drwy werthuso cysyniadau canolog y ffydd Iddewig, gan gynnwys y cyfamod a’r mitzvot. Awn ymlaen i drafod rhai digwyddiadau hanesyddol arwyddocaol yn natblygiad y ffydd Iddewig, gan gynnwys chwalu’r Ail Deml ac esblygiad Iddewiaeth y Gwasgariad. Yn y cyswllt hwn, ystyrir detholiad o feddylwyr Iddewig pwysig er mwyn gwerthfawrogi’r modd y bu iddynt ddylanwadu ar natur ac ymarfer Iddewiaeth heddiw, gan gynnwys Moses Maimonides a Moses Mendelssohn. Wedi gwneud hynny, bydd y modiwl yn trafod y modd yr ymarferir Iddewiaeth mewn cymdeithas gyfoes drwy ganolbwyntio ar agweddau penodol, sef defodau tyfiant, deddfau bwyd, gwyliau a defodau crefyddol. Bydd y modiwl hefyd yn astudio’r enwadau amrywiol o fewn Iddewiaeth a’r modd y maent yn ymateb i bynciau penodol, gan gynnwys datblygiad ffeministiaeth Iddewig. Pwrpas y modiwl, felly, yw darparu trosolwg eang o’r hanes a’r credoau sydd wedi siapio Iddewiaeth fodern.
Course content
Bydd y modiwl yn archwilio meysydd amrywiol, megis: Cefndir hanesyddol Iddewiaeth; Y Tanakh (Y Beibl Hebraeg) ac elfennau canolog y grefydd Iddewig, gan gynnwys y cyfamod, y mitzvot, a chysyniad ‘cenedl etholedig Duw’; effaith chwalu’r Ail Deml ar ddatblygiad Iddewiaeth y Gwasgariad; meddylwyr Iddewig dylanwadol: Moses Maimonides a Moses Mendelssohn; Ymarfer Iddewiaeth gyfoes: defodau tyfiant, deddfau bwyd, gwyliau a defodau crefyddol; Yr enwadau amrywiol o fewn Iddewiaeth fodern; Iddewiaeth fodern a materion penodol: ffeministiaeth ac amgylcheddaeth.
Assessment Criteria
good
Da iawn B- i B+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
excellent
Ardderchog A- i A*
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
C- to C+
Da C- i C+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
threshold
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
Learning outcomes
-
• Dangos ymwybyddiaeth o’r traddodiadau diwinyddol a diwylliannol amrywiol sy’n bodoli mewn Iddewiaeth gyfoes.
-
• Cymhwyso mewnwelediad ac athroniaethau Iddewig i amrediad o faterion cymdeithasol a gwyddonol.
-
• Dangos gallu i archwilio’r berthynas rhwng Iddewiaeth a materion gwleidyddol y byd.
-
• Cyflwyno gwybodaeth am bwnc perthnasol i Iddewiaeth mewn modd eglur a chydlynol.
-
• Trafod a dangos gwybodaeth o’r testunau Iddewig amrywiol sy’n bodoli a gwerthfawrogi’r modd y gallent gael eu cymhwyso i sefyllfaoedd amrywiol y byd cyfoes.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Geirfa termau allweddol | 30.00 | ||
Cyflwyniad Llafar | 30.00 | ||
Traethawd | 40.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | Bydd disgwyl i blant fynychu 33 awr o ddarlithoedd. |
33 |
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â lefel o astudiaeth annibynnol i gyd-fynd â'r darlithoedd. Rhoddir rhestr ddarllen ddefnyddiol i'r myfyrwyr. |
167 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Articulacy in identifying underlying issues in a wide variety of debates.
- Precision of thought and expression in the analysis and formulation of complex and controversial problems.
- Sensitivity in interpretation of religious and philosophical texts drawn from a variety of ages and/or traditions.
- Clarity and rigour in the critical assessment of arguments presented in such texts.
- The ability to use and criticise specialised religious and philosophical terminology.
- The ability to abstract and analyse arguments, and to identify flaws in them, such as false premises and invalid reasoning.
- The ability to construct rationally persuasive arguments for or against specific religious and philosophical claims.
- The ability to move between generalisation and appropriately detailed discussion, inventing or discovering examples to support or challenge a position, and distinguishing relevant and irrelevant considerations.
- The ability to consider unfamiliar ideas and ways of thinking, and to examine critically presuppositions and methods within the disciplines of philosophy and religion.
- preparing effective written communications for different readerships
- making effective and appropriate forms of visual presentation
- making effective and appropriate use of relevant information technology
- making critical and effective use of information retrieval skills using paper-based and electronic resources
- collaborating effectively in a team via experience of working in a group
- appreciating and being sensitive to different cultures and dealing with unfamiliar situations
- critical evaluation of one's own and others' opinions
- engaging with relevant aspects of current agendas such as global perspectives, public engagement, employability, enterprise, and creativity
Courses including this module
Optional in courses:
- VV41: BA Herit, Archae & Hist year 2 (BA/HAH)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 2 (LLB/LPR)