Module VPR-3055:
Athroniaeth Fodern: Mudiadau'r
Athroniaeth Fodern: Mudiadau'r Meddwl 2025-26
VPR-3055
2025-26
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Mae’r modiwl hwn yn olrhain datblygiad y meddwl athronyddol o’r cyfnod modern cynnar i’r oes fodern hyd at y feirniadaeth ôl-fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ffigyrau a symudiadau allweddol a luniodd, ac a heriodd, syniadau am resymeg, bodolaeth, moeseg, a chymuned.
Gan ddechrau gyda meddylwyr sylfaenol fel Descartes a Kant, mae’r modiwl yn archwilio gwreiddiau rhesymegol ac empiraidd athroniaeth. Yna, mae’n archwilio’r newidiadau moesegol a seismig a ddaeth yn sgil meddylwyr megis Rousseau a Schopenhauer, gan bwysleisio eu cyfraniadau i syniadau am ryddid, moesoldeb, a’r cyflwr dynol.
Mae rhan olaf y modiwl yn mynd i’r afael â datblygiadau modern ac ôl-fodernaidd, gan gynnwys syniadau ieithyddol Wittgenstein, athroniaeth foesol Elizabeth Anscombe ac athroniaeth ddeialogaidd Buber.
Drwy ymgysylltu â’r meddylwyr hyn, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y datblygodd traddodiadau athronyddol i fynd i’r afael â materion hunaniaeth, cymuned, iaith, a moeseg mewn byd sy’n cyson newid.
Mae’r modiwl hwn yn olrhain datblygiad y meddwl athronyddol o’r cyfnod modern cynnar i’r oes fodern hyd at feirniadaeth ôl-fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ffigyrau a symudiadau allweddol a luniodd, ac a heriodd, syniadau am reswm, bodolaeth, moeseg, a chymuned.
Gan ddechrau gyda meddylwyr sylfaenol fel Descartes a Kant, mae’r modiwl yn archwilio gwreiddiau rhesymegol ac empiraidd athroniaeth. Yna, mae’n archwilio’r newidiadau moesegol a seismig a ddaeth yn sgil meddylwyr megis Rousseau a Schopenhauer, gan bwysleisio eu cyfraniadau i syniadau am ryddid, moesoldeb, a’r cyflwr dynol.
Mae rhan olaf y modiwl yn mynd i’r afael â datblygiadau modern ac ôl-fodernaidd, gan gynnwys syniadau ieithyddol Wittgenstein, athroniaeth foesol Elizabeth Anscombe ac athroniaeth ddeialogaidd Buber.
Drwy ymgysylltu â’r meddylwyr hyn, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y datblygodd traddodiadau athronyddol i fynd i’r afael â materion hunaniaeth, cymuned, iaith, a moeseg mewn byd sy’n cyson newid.
Assessment Strategy
Trothwy: D- i D+
Mae’r gwaith a gyflwynir yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o sgil fel a ganlyn: - Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi'u hepgor. - Gwneir honiadau heb dystiolaeth neu resymeg ategol glir. - Mae gan y gwaith fframwaith ond mae diffyg eglurder ac felly mae'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau. - Defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
Da: C- i C+
Mae'r gwaith a gyflwynir yn gelfydd drwyddo draw ac o bryd i'w gilydd ceir arddull a dull rhagorol a dewis ardderchog o ddeunyddiau ategol. Mae'n dangos: - Fframwaith da a dadleuon wedi'u datblygu'n rhesymegol. - Mae'n defnyddio, yn rhannol o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudiaeth annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. - Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. - Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
Da iawn: B- i B+
Mae’r gwaith a gyflwynir yn gelfydd drwyddo draw a gallwch weld arddull a dull a dewis o ddeunyddiau ategol sy’n rhagori. Mae'n dangos: - Fframwaith da iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. - Yn defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudiaeth annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. - Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth a rhesymu cadarn. - Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
Ardderchog: A- i A*
Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol: - Mae'n cynnwys esboniadau gwreiddiol gyda syniadau'r myfyriwr ei hun yn amlwg. - Mae'n rhoi tystiolaeth glir o astudiaeth annibynnol helaeth a pherthnasol. - Cyflwynir dadleuon yn glir gan alluogi’r darllenydd i ystyried cam wrth gam er mwyn dod i gasgliadau.
Learning Outcomes
- Cymhwyso dulliau deongliadol a dadansoddol uwch i destunau athronyddol cynradd, gan ddangos dealltwriaeth gynnil o feddylwyr arwyddocaol yn ystod cyfnod astudio'r modiwl.
- Dadansoddi a chyfosod yn feirniadol syniadau athronyddol o'r cyfnodau modern cynnar, modern ac ôl-fodern, gan werthuso eu perthnasedd i faterion cyfoes mewn moeseg, hunaniaeth ac iaith.
- Llunio ac amddiffyn dadleuon soffistigedig sy'n ymgysylltu â safbwyntiau athronyddol lluosog, gan integreiddio mewnwelediadau damcaniaethol â meddwl beirniadol annibynnol.
- Ymwneud â sgiliau cyfathrebu ac ymchwil uwch, er mwyn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig a llafar trylwyr sydd wedi’i strwythuro’n dda sy’n adlewyrchu lefel uchel o ymgysylltiad deallusol â’r pwnc.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd myfyrwyr yn cael detholiad o 3 thestun athronyddol i ddewis 1 er mwyn ysgrifennu dadansoddiad testun 2,000 o eiriau.
Weighting
40%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Rhoddir dewis o 5 cwestiwn i fyfyrwyr a disgwylir iddynt ymateb i 1 trwy ysgrifennu traethawd 3,000 o eiriau.
Weighting
60%