Module SCY-2005:
Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes
Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes 2022-23
SCY-2005
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gwenda Jones
Overview
Amcan pennaf y fodiwl yw trafod ein dealltwriaeth o’r heddlu, ac yn ehangach, eu swyddogaeth mewn cymdeithas gyfoes. Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r heddlu fel sefydliad wedi profi newid sylweddol a bydd y pwysau gan y Llywodraeth am ddiwygiadau pellach yn parhau. Ystyriwn polisiau ac ymarfer gwaith cyfoes yr heddlu a’r fframwaith statudol y maent yn gweithredu. Trafodir y newid yng nghyd-destun troseddu a chyfiawnder troseddol: eu prif swyddogaethau, yr heddlu a’r cyfryngau; atal troseddu a gweithio mewn partneriaeth; datblygiadau mewn polisi cyffuriau; yr heddlu, trefn gyhoeddus ac iawnderau dynol; asesu cyfrifoldeb, ansawdd a pherfformiad; cyfle cyfartal a rheoli i’r dyfodol.
Assessment Strategy
Trothwy Ystod graddau D minws hyd at D+
Arholiad ac Aseiniad Yn gallu disgrifio agweddau theoretaidd, a chysyniadau allweddol yn sylfaenol. Dangos dealltwtiaeth cysyniadol cyffredinol a chasglu gwybodaeth dderbyniol o fewn y maes. Deall newid ym mholisi cyfiawnder troseddol a’i oblygiadau. Trafod datblygiad polisi a gwaith cyfoes yr heddlu yn foddhaol.
Da- Ystod graddau C minws hyd at B+
Arholiad ac Aseiniad: Yn gallu trafod a gwerthuso agweddau theoretaidd, data a chysyniadau allweddol yn feirniadol. Dangos dealltwriaeth cysyniadol clir a soled a thrafod newid ym mholisi cyfiawnder troseddol a’i oblygiadau’n aeddfed. Dangos ôl darllen a defnydd addas o lenyddiaeth wedi ei gyferio’n gywir. Mae'r ystod graddau C minws at C+ yn fwy disgrifiadol.
Rhagorol : Ystod graddau A minws hyd at A*
Arholiad ac Aseiniad: Yn gallu dadansoddi agweddau theoretaidd, data a chysyniadau allweddol yn rhesymegol a grymus. Yn gallu cyflwyno gwaith sydd yn dangos dealltwriaeth ddofn o gysyniadau, deall arwyddocâd newid mewn cyfiawnder troseddol a chynnig gwerthusiad soffistigedig o'i oblygiadau. Trafodaeth ddeallus o bolisiau sydd yn ymwneud â’r heddlu a phrosesau cymdeithasol ehangach.
Learning Outcomes
- Deall a dehongli polisiau ag ymarfer gwaith cyfoes yr heddlu ynghyd a’r fframwaith statudol.
- Egluro’r newid yng nghyd-destun polisi cyfiawnder troseddol a’i oblygiadau i waith a rol yr heddlu.
- Gwerthuso ac asesu effeithiolrwydd polisi, yn enwedig cyfrifoldeb ac atebolrwydd, cyfle cyfartal, ansawdd a pherfformiad i’r dyfodol.
- Yn gallu dadansoddi dadleuon cyfoes sydd yn ymwneud a phlismona cyfraith a threfn wrth archwilio trosedd a’i oblygiadau ar hawliau dynol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad
Weighting
50%
Due date
15/03/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad
Weighting
50%