Cyflwyniad i Uniondeb Ymchwil, Ymchwil Ddibynadwy a Diwydrwydd Dyladwy
Rhaglen Hyfforddi IRIS
Sylwch y bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r egwyddorion, disgwyliadau a chyfrifoldebau ymarferol sy’n gysylltiedig â chynnal ymchwil yn foesegol, yn ddiogel ac yn gyfrifol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n addas ar gyfer ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa. Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Cyflwyniad i uniondeb ymchwil a’r egwyddorion craidd: gonestrwydd, trylwyredd, tryloywder, gofal a pharch, ac atebolrwydd.
- Ymchwil ddibynadwy a pham mae’n bwysig.
- Deall a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â chydweithrediadau rhyngwladol, eiddo deallusol, diogelwch data a meysydd ymchwil sensitif.
- Asesiadau diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â chydberthnasau ymchwil ffurfiol ac ymchwil a ariennir.
- Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn gyfrifol mewn ymchwil.
Cyflwynydd: Saskia Pagella, Gwasanaeth Effaith ac Ymchwil Integredig