Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ysgol Busnes Bangor yw'r unig sefydliad yn y byd sy'n gallu cynnig y cwrs MBA Banciwr Siartredig (CBMBA), y radd 'Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (Banciwr Siartredig)'.
Mae’r MBA Banciwr Siartredig, a gynigir yn rhyngwladol gan Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor, yn gymhwyster deuol arloesol sy’n rhoi'r cyfle i chi gael MBA a'r statws ‘Banciwr Siartredig’ - y cymhwyster proffesiynol uchaf posibl sydd ar gael i fancwyr yn fyd-eang.
Dyfernir statws 'Banciwr Siartredig' gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig, yr unig sefydliad bancio yn y byd a all ddyfarnu’r statws hwn. Mae wedi ymrwymo i godi safonau proffesiynoldeb ar bob lefel mewn bancio a gwasanaethau ariannol, ac i ailadeiladu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn banciau a bancwyr.
I'r gweithiwr proffesiynol prysur sy'n dechrau ar addysg weithredol, mae fformat dysgu o bell y rhaglen yn gydran allweddol, gan ganiatáu amser i astudio wrth ddilyn eich gyrfa. Mae'r MBA Banciwr Siartredig yn pwysleisio datblygiad proffesiynol a galwedigaethol, gan wella dealltwriaeth a chymhwysiad o’r sgiliau sydd eu hangen ym maes bancio yn yr 21ain ganrif.
- Mae'r MBA Banciwr Siartredig wedi'i anelu at unigolion uwch mewn banciau a chwmnïau gwasanaethau ariannol eraill neu'r rhai sydd eisiau ymuno â'r diwydiant
- Yn darparu cynnwys ymarferol a chyfoes i gynorthwyo swyddogion gweithredol a rheolwyr
- Ymestyn eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth ac ennill y sgiliau i ymdopi â'r newid yn y diwydiant gwasanaethau ariannol sy'n datblygu'n barhaus
- Mae’r rhaglen yn hygyrch iawn gyda dull astudio hyblyg sy'n addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd gwaith a phob cylchfa amser yn fyd-eang ac sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael cydbwysedd rhwng hunan-astudio a dysgu ymarferol
- Cynigir modiwlau detholiadol wedi'u teilwra i wireddu eich dyheadau am yrfa neu ddiddordebau
Mae profiad y Banciwr Siartredig yn dod â sgiliau a gwybodaeth lefel uchel o brifysgol a chanolfan ragoriaeth ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ynghyd â chymwyseddau proffesiynol a rheolaethol sefydliad proffesiynol sy’n arwain y byd.
Am y Sefydliad
Mae Sefydliad y Bancwyr Siartredig (CBI) yn gorff addysg proffesiynol byd-eang ar gyfer bancwyr, wedi’i leoli yn y DU a’r sefydliad bancio hynaf yn y byd. Y CBI yw’r unig sefydliad yn y byd sydd wedi’i gymeradwyo gan Gyfrin Gyngor y DU i ddyfarnu’r dynodiad “Banciwr Siartredig” i aelodau sy’n bodloni’r safonau proffesiynoldeb uchaf. CBI yw’r corff proffesiynol mwyaf yn y DU ar gyfer bancwyr, gyda mwy na 33,000 o aelodau – gweithwyr bancio proffesiynol unigol sy’n gwneud ymrwymiad parhaus i ddatblygu
Mae’r MBA Banciwr Siartredig yn rhaglen Dysgu o Bell, sy’n gyfuniad unigryw o sesiynau rhyngweithiol ar-lein a hunan-astudio. Wedi'i gynllunio i wneud bywyd yn haws i weithwyr proffesiynol prysur, mae'n lleihau amser i ffwrdd o'r swyddfa ac felly'n cael llai o effaith ar weithrediad y busnes o ddydd i ddydd a diwrnod gwaith y myfyrwyr. Mae elfen dysgu ar-lein y rhaglen CBMBA yn cael ei chyflwyno gan gyfuniad o ddarlithoedd wedi’u recordio, tiwtorialau byw a Blackboard.
Darperir cefnogaeth academaidd trwy gydol y semester trwy:
- Fforymau trafod
- Sgyrsiau gwe byw
- Sesiynau tiwtorial ar y we gan ddefnyddio ein platfform dysgu ar-lein 'Blackboard'
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Beth fyddwch yn ei astudio ar y cwrs?
Mae nifer o lwybrau i astudio’r cwrs MBA Banciwr Siartredig. Yn ogystal â'r rhaglen lawn gellir ei astudio ar lwybr cyflym, cyflym iawn ac ar sail modiwl unigol. Bydd y llwybr y byddwch yn ei astudio yn cael ei bennu gan lefel eich cymhwyster a phrofiad gwaith.
Gweler isod rhagor o wybodaeth am strwythur pob llwybr astudio a sylwer mai syniad bras o’r modiwlau yn unig sydd yma a gallant newid.
Opsiynau Astudio
Meini Prawf Mynediad
- Gradd Baglor gyda 2/3 blynedd o brofiad gwaith
- 3 blynedd neu fwy o brofiad gwaith perthnasol
*Efallai y bydd deiliaid cymhwyster ôl-radd cydnabyddedig yn cael cynnig eithrio o fodiwlau lle rhoddir tystiolaeth am gyrsiau a gwblhawyd yn gynharach.
Amser safonol i gwblhau: 24 mis
Mae myfyrwyr yn astudio wyth modiwl gorfodol a phedwar modiwl detholiadol, fel y nodir isod:
8 Modiwl Gorfodol | 4 Modiwl Detholiadol |
---|---|
Cyllid Corfforaethol | Agweddau ar Fancio Byd-eang |
Strategaeth Gorfforaethol | Technoleg Bancio a Thechnoleg Ariannol |
Credyd a Benthyca | Marchnadoedd Cyfalaf a Rheoli’r Trysorlys |
Moeseg, Rheoleiddio a Chydymffurfio | Dadansoddiad Ariannol am Werth |
Rheoli Risg Sefydliadau Ariannol | Ymladd Troseddau Ariannol |
Economeg Reolaethol | Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy |
Ymddygiad Sefydliadol a Phobl | Creu Menter Newydd |
Dulliau Ymchwil ar gyfer Gwneud Penderfyniadau Busnes | Taith y Cwsmer mewn Gwasanaethau Ariannol |
Meini Prawf Mynediad
Rhaglen Gyflym: Ar gyfer Cyfrifwyr Cymwys*
Amser safonol i gwblhau: 18 mis
Mae myfyrwyr yn astudio pedwar modiwl gorfodol a thri modiwl detholiadol:
4 Modiwl Gorfodol | 3 Modiwl Detholiadol |
---|---|
Credyd a Benthyca | Agweddau ar Fancio Byd-eang |
Moeseg, Rheoleiddio a Chydymffurfio | Technoleg Bancio a Thechnoleg Ariannol |
Rheoli Risg Sefydliadau Ariannol | Marchnadoedd Cyfalaf a Rheoli’r Trysorlys |
Adnoddau Rheolwr: Sefydliad Dadansoddol | Ymladd Troseddau Ariannol |
Dadansoddiad Ariannol am Werth | |
Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy | |
Creu Menter Newydd | |
Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata |
Meini Prawf Mynediad
Rhaglen Gyflym: Ar gyfer Gweithwyr Bancio Proffesiynol Cymwys*
Amser safonol i gwblhau: 18 mis
Mae myfyrwyr yn astudio chwe modiwl gorfodol a dau fodiwl detholiadol:
6 Modiwl Gorfodol | 2 Fodiwl Detholiadol |
---|---|
Strategaeth Gorfforaethol | Agweddau ar Fancio Byd-eang |
Credyd a Benthyca | Technoleg Bancio a Thechnoleg Ariannol |
Moeseg, Rheoleiddio a Chydymffurfio | Marchnadoedd Cyfalaf a Rheoli’r Trysorlys |
Ymddygiad Sefydliadol a Phobl | Ymladd Troseddau Ariannol |
Adnoddau Rheolwr: Sefydliad Dadansoddol | Dadansoddiad Ariannol am Werth |
Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata | Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy |
Creu Menter Newydd |
Meini Prawf Mynediad
- Deiliaid MBA neu radd meistr gydnaws
- Gradd baglor ynghyd â 10 mlynedd neu fwy o brofiad bancio uwch ar lefel weithredol
Amser safonol i gwblhau: 12 mis
Mae hwn yn llwybr gosod lle mae myfyrwyr yn astudio'r pedwar modiwl canlynol:
Semester Ebrill | Semester Hydref |
---|---|
Moeseg, Rheoleiddio a Chydymffurfio | Credyd a Benthyca |
Rheoli Risg Sefydliadau Ariannol | Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy |
Llwybr Cyflym Iawn 2
Meini Prawf Mynediad
Gradd israddedig, gyda chymhwyster bancio proffesiynol a phrofiad uwch ar lefel weithredol am o leiaf 10 mlynedd
Amser safonol i gwblhau: 12 mis
Mae hwn yn llwybr gosod lle mae myfyrwyr yn astudio'r pedwar modiwl canlynol:
Semester Ebrill | Semester Hydref |
---|---|
Moeseg, Rheoleiddio a Chydymffurfio | Strategaeth Gorfforaethol |
Ymddygiad Sefydliadol a Phobl | Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy |
Gellir cymryd modiwlau unigol yn anffurfiol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus neu gyda'r opsiwn o gwblhau'r asesiad ffurfiol ac ennill credydau ôl-radd a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Gellir datblygu’r credydau yn ddiweddarach i gymhwyster ôl-radd Addysg Weithredol, a chael MBA pan fydd 180 o gredydau wedi'u cwblhau.
Amser i gwblhau: 6 mis
Modiwlau Ebrill | Modiwlau Hydref |
---|---|
Agweddau ar Fancio Byd - eang | Technoleg Bancio a Thechnoleg Ariannol |
Moeseg, Rheoleiddio a Chydymffurfiaeth | Marchnadoedd Cyfalaf a Rheoli’r Trysorlys |
Dadansoddiad Ariannol ar gyfer Gwerth | Cyllid Corfforaethol |
Rheoli Risg Sefydliadau Ariannol | Strategaeth Gorfforaethol |
Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata | Credyd a Benthyca |
Ymddygiad Sefydliadol a Phobl | Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy |
Rheoli Adnoddau: Sefydliad Analytic |
|
Creu Menter Newydd |
Manylion Modiwl
Modiwl Gorfodol
Trosolwg o’r Modiwl
Mae Cyllid Corfforaethol yn weithgaredd rheoli allweddol gydag amrywiaeth eang o weithgareddau i’w hymdrin. Mae dealltwriaeth o benderfyniadau allweddol y rheolwyr ariannol wrth galon y modiwl hwn, gyda phwyslais ar ddewis buddsoddiadau proffidiol, defnyddio offerynnau ariannol, dewis y cymysgedd gorau o gronfeydd, polisïau risg a difidend. Pwysleisir hefyd pwysigrwydd llif arian a'r damcaniaethau sy'n sail i benderfyniadau difidend. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y gwahanol fathau o fuddsoddi a'r enillion a ddisgwylir gan fuddsoddwyr. Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar y cysyniad o risg, gan symud i adolygiad o natur y marchnadoedd cyfalaf a natur yr offerynnau a gyhoeddir ac a fasnachir ynddynt.
Nodau ac Amcanion y Modiwl:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Deall y damcaniaethau sy'n sail i gyllidebu cyfalaf a gallu eu cymhwyso a’u trafod
- Deall cysyniadau costau cyfalaf a chronfeydd a gallu cymhwyso'r rhain i sefyllfaoedd go iawn
- Deall y damcaniaethau a'r cysyniadau sy'n sail i benderfyniadau difidend; dadansoddi a chymhwyso'r rhain yn y byd go iawn
- Deall cysyniadau cyfraddau disgowntio a sut mae'r rhain yn gysylltiedig ag offerynnau ariannol a risg
- Deall y materion sy'n ymwneud â chyllid hirdymor; gwerthuso'r modelau perthnasol yn feirniadol a chymhwyso'r rhai mwyaf perthnasol wrth adolygu penderfyniadau ariannol
- Meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth y rheolwr ariannol a'r swyddogaeth a chwaraeir gan gyllid corfforaethol yn y diwydiannau bancio ac ariannol
Testun Allweddol:
Corporate Finance (4th Edition) Berk, J and DeMarzo, P - Pearson
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%).
Mae’r cwrs mewn tair uned y gellir eu rhannu’n fras fel a ganlyn:
Uned 1
Mae Uned 1 yn ymdrin ag agweddau technegol sylfaenol ar brisio gwerth yr arian mewn amser, disgowntio, ac ati ac yn rhoi’r sylfaen dechnegol angenrheidiol i ni symud ymlaen i wneud penderfyniadau yn Uned 2.
Uned 2
Mae'r ail uned, Uned 2, yn cymryd yr agweddau technegol hyn ac yn dechrau eu cymhwyso i brisio projectau. Mae’n dechrau gyda phroblemau syml ac yn symud ymlaen i benderfyniadau buddsoddi mwy cymhleth mewn perthynas â buddsoddi mewn peiriannau ac offer. Y syniad allweddol yw ystyried a yw buddsoddiad penodol yn addo mwy o lifoedd arian na chost y buddsoddiad. Mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i lawer o benderfyniadau buddsoddi p'un ai i fuddsoddi mewn peiriant neu brynu cwmni neu i lansio ymgyrch hysbysebu neu i ddechrau rhaglen ymchwil a datblygu. Mae'r holl gyfleoedd hyn yn ymddangos yn wahanol iawn, ond mae gan bob un ohonynt yr un nod o gynhyrchu mwy o arian na'r gost o gael yr arian parod!
Uned 3
Mae'r drydedd uned, Uned 3, yn delio ag ochr gyllido’r cwmni. Mae Uned 1 ac Uned 2 yn ein helpu i benderfynu a yw’n gwneud synnwyr i brynu ased penodol. Mae Uned 3 yn edrych ar ariannu’r penderfyniad hwnnw o ran y marchnadoedd cyfalaf, ffynonellau cyllid a materion yn ymwneud â strwythur cyfalaf (faint y dylech ei fenthyg) a pholisi difidend.
Gall pob rhan o'r unedau hyn gael eu rhannu ymhellach yn bynciau unigol, sef deg i gyd.
Efallai y gwelwch wrth weithio’ch ffordd drwy’r modiwl bod rhywfaint o’r deunydd yn ymddangos braidd yn wahanol i’r diwydiant gwasanaethau ariannol, oherwydd, er enghraifft, prin yw’r buddsoddi mewn peiriannau ac offer yn y diwydiant hwn (ac eithrio ar gyfer offer TG, wrth gwrs). Fodd bynnag, cofiwch y bydd gan y rhai ohonoch sy’n rhoddwyr benthyg, gwsmeriaid sy’n defnyddio’r technegau hyn, neu dylent fod yn eu defnyddio, tra bydd eraill sy’n gweithio mewn banciau buddsoddi yn y maes uno wedi mynd i’r afael â’r broblem o roi gwerth ar gaffaeliadau posibl.
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar y meysydd allweddol sy'n ymwneud â Chredyd a Benthyca, gan ddechrau gyda'r berthynas rhwng y bancwr a’r cwsmer, drwy weithdrefnau benthyca busnes ac yn gorffen gydag arferion risg credyd ar gyfer pob math o fanc (manwerthu, busnes a masnachol). Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl a beirniadol o gredyd a benthyca yn y diwydiant bancio a byddant hefyd yn datblygu amrywiaeth o sgiliau, technegau ac arferion bancio ar lefel broffesiynol.
Nodau ac Amcanion y Modiwl:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Dangos gwybodaeth helaeth, fanwl a beirniadol o agweddau cyfreithiol y berthynas rhwng y banciwr a'r cwsmer
- Disgrifio'n fanwl egwyddorion benthyca a'r prif gynhyrchion benthyca a chredyd
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r gweithdrefnau ar gyfer cymryd amrywiaeth o warantau ar gyfer blaensymiau
- Ymarfer amrywiaeth o sgiliau, technegau ac arferion benthyca busnes a dehongli ac asesu cyfrifon busnes, gan gynnwys nodi, llunio a datrys problemau busnes ac asesu a rheoli risg mewn cyd-destun bancio busnes
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ddiwydrwydd a methdaliad
- Dangos dealltwriaeth helaeth, fanwl a beirniadol o sut mae'r risg credyd yn gweithredu, a sut mae'n chwarae ei rhan wrth reoli risg ar gyfer busnes bancio
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%).
Mae Uned 1 yn ymdrin â’r canlynol: Nod Uned 1 yw cyflwyno Credyd a Benthyca ac egluro’r prif themâu sy’n rhedeg drwy gydol y modiwl. Amlinellir strwythur y modiwl, a chyflwynir y prif destun. Rhoddir trosolwg o Reoli Risg Credyd a'i swyddogaeth yn y diwydiant gwasanaethau ariannol modern. Mae'n hanfodol cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca. Edrychir ar y materion hyn fel themâu pwysig mewn Rheoli Risg Credyd modern. Dull gweithredu sylfaenol y modiwl hwn yw bod Credyd a Benthyca yn elfen ganolog o reolaeth ariannol ymarferol banciau. Yn wir, mae canran uchel o'r rhan fwyaf o asedau Banciau Masnachol yn cael eu cyflogi yn y portffolio Benthyca. Mae gwerslyfr y modiwl a argymhellir yn mabwysiadu'r un dull ymarferol. Mae'r dull hwn yn galluogi edrych ar Gredyd a Benthyca o fewn ei swyddogaeth banc strategol a rheolaethol fwyaf priodol, sef rheolaeth ariannol banciau.
Mae Uned 2 yn ymdrin â’r canlynol: Nod Uned 2 Rhan 1 yw cyflwyno Credyd Manwerthu - Benthyca Busnesau Bach ac esbonio sawl offeryn a thechnegau i gynorthwyo'r Rhoddwyr Benthyg i werthuso risg Credyd. Byddwn yn adolygu lleoliad economaidd a phwysigrwydd y sector busnesau bach a chanolig. Mae'n hanfodol eto cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca.
Nod Uned 2 Rhan 2 yw cyflwyno dadansoddi a phrisio Cwmniau Mawr; ynghyd â dangosyddion perfformiad y Farchnad Stoc a'r defnydd o fodelau ariannol i ragfynegi trallod corfforaethol. Mae'n hanfodol eto cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca. Edrychir ar y materion hyn fel themâu pwysig mewn Rheoli Risg Credyd modern. Dull gweithredu sylfaenol y modiwl hwn yw bod Credyd a Benthyca yn elfen ganolog o reolaeth ariannol ymarferol banciau.
Mae Uned 3 yn ymdrin â’r canlynol: Nod Uned 3 yw archwilio yn Rhan 1 yr uned hon y pwnc benthyca arbenigol o gyllid strwythuredig a chyllid projectau. Yn rhan 2, edrych ar y pwnc benthyca arbenigol o Gyllid Gwrthrych a deall sut y gall technegau peirianneg ariannol leihau cost cyfalaf yn y projectau ariannu cymhleth hyn. Mae'n hanfodol eto cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca. Edrychir ar y materion hyn fel themâu pwysig mewn Rheoli Risg Credyd modern.
Gwerslyfr Allweddol:
Checkley, K., & Dickinson, K. (2018). Credit Masterclass (1st ed., Vol. 1). Credit Skills Academy. Moeseg, Rheoleiddio a Gwybodaeth Cydymffurfio i ddilyn – uno modiwlau newydd
Trosolwg o’r Modiwl
Mae banciau a marchnadoedd ariannol yn gynhenid agored i argyfyngau a sut mae llunwyr polisi a sefydliadau wedi ymateb i'r amgylchiadau hyn yn cael eu hymchwilio a'u cwestiynu. Archwilir yr egwyddorion moesegol a'r safonau proffesiynol disgwyliedig o fewn meysydd gwasanaethau ariannol allweddol gan gynnwys benthyca, buddsoddi a masnachu, yn ogystal â rôl unigolion, sefydliadau a threfniadau llywodraethu corfforaethol wrth wneud penderfyniadau gwasanaethau ariannol. Archwilir cydymffurfiaeth, rheoli risg a gwaith llywodraethu corfforaethol fel disgyblaethau cydgysylltiedig i ddarparu sicrwydd rheoleiddiol hanfodol i'r cwmni, ac i wella perfformiad cyffredinol y cwmni yn feirniadol.
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%)
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar swyddogaeth rheoli risg mewn banciau modern dan berchenogaeth cyfranddalwyr. Un agwedd sylfaenol a fabwysiadir yw bod rheoli risg sefydliadau ariannol yn elfen ganolog o reolaeth ariannol ymarferol banciau. Yn y cyd-destun hwn caiff rheoli risg ei ystyried fel elfen sy’n cysylltu cymryd risg (swyddogaeth economaidd hanfodol i gwmnïau bancio) a rheolaeth ariannol (rheoli’r risgiau hyn a chyfaddawdu risg ac enillion yn y ffordd fwyaf effeithlon). Edrychir ar natur, cyd-destun strategol a rheolaeth risgiau banciau.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Deall swyddogaeth rheoli risg
- Gallu ymgymryd â swyddogaeth rheoli risg yn eu sefydliad
- Deall y damcaniaethau sy'n sail i reoli risg
- Deall y rheoliadau sy'n ymwneud â rheoli risg o fewn y sector bancio a gwasanaethau ariannol
- Deall eu cyfrifoldebau o dan y rheoliadau a sut i'w cyflawni
Testun Allweddol:
Financial Institutions Management: A Risk Approach (9th Edition) Saunders, A & MillonCornett, M —McGraw Hill
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%).
Mae Uned Un yn ymdrin â’r canlynol:
Cyflwyniad i Fusnes ac yn egluro'r prif themâu sy'n rhedeg drwy gydol y modiwl. Amlinellir strwythur y modiwl, a chyflwynir y prif destun. Rhoddir trosolwg o fancio a'i swyddogaeth yn y diwydiant gwasanaethau ariannol modern. Edrychir ar natur gystadleuol banciau, rheoleiddio a'u heffaith ar fusnes. Yn olaf, edrychir ar ba mor hanfodol yw effeithlonrwydd a phrisio seiliedig ar y farchnad fel themâu sylfaenol mewn busnes modern.
Nodau Uned Dau:
- Archwilio prif ddatganiadau ariannol banc a'u perthynas â'r risgiau sydd ynghlwm wrth fancio
- Deall sut y gellir gwerthuso perfformiad banc
- Deall arwyddocâd asedau banc ac rheoli atebolrwydd a rheoli risg i fanciau
- Dadansoddi natur ac arwyddocâd rheolaeth ariannol busnes mewn perthynas â risg cyfradd llog a risg hylifedd i reolaeth ariannol busnes
- Edrych ar y gweithgareddau di-fantolen a gyflawnir gan fanciau a gwerthfawrogi eu harwyddocâd o ran rheolaeth ariannol busnes.
- Ystyried effaith yr argyfwng (y 'wasgfa gredyd') ar y meysydd hyn
- Gwerthfawrogi effaith y wasgfa gredyd ar y risgiau bancio a drafodir yn yr uned hon ac, yn arbennig, ar reoli a rheoleiddio digonolrwydd cyfalaf
- Deall natur a phwysigrwydd allweddol llywodraethu corfforaethol banciau
Nodau Uned Tri:
- Edrych ar natur a swyddogaeth arallgyfeirio cynnyrch a daearyddol o fewn rheoli risg banc
- Archwilio a deall sut mae banciau'n defnyddio contractau deilliadol i ragfantoli eu haramlygiadau risg atebolrwydd asedau
- Dadansoddi sut mae rheolwyr banc yn defnyddio gwerthu benthyciadau a thechnegau gwaranteiddio i i reoli risg credyd
- Ystyried rhai newidiadau pellach i risgiau bancio yn sgil y wasgfa gredyd
Trosolwg y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn ystyried theori ac ymarfer llunio a gweithredu strategaeth. Ceir llawer o batrymau a chamau gweithredu a dulliau busnes sy'n diffinio strategaeth sefydliad a byddwch yn cael cyfle i nodi'r rhai sy'n berthnasol i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Y sector gwasanaethau ariannol yw un o’r sectorau diwydiant a reoleiddir fwyaf a chaiff goblygiadau hyn ynghyd â nodweddion y cynhyrchion gwasanaeth eu nodi drwy gydol y modiwl. Caiff y theori a'r egwyddorion sy'n sail i weithrediadau a gweithgareddau busnes eu harchwilio a chymhwysir y wybodaeth i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Wrth gwblhau'r unedau ar gyfer y modiwl, cyfeirir at reoli gwasanaethau a gweithrediadau; nodweddion unigryw gwasanaethau a all fod yn her neu'n gyfle i ddyfeisio a gweithredu strategaeth gorfforaethol unigryw a llwyddiannus. Fel darpar arweinwyr busnes a gwneuthurwyr penderfyniadau’r dyfodol, mae'n allweddol eich bod yn deall hanfod gweithrediadau busnes a'r ffactorau sy'n cyfrannu at fantais gystadleuol cwmni.
Trosolwg Modiwl: Adnoddau Rheolwr: Sefydliad Dadansoddol
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar faterion allweddol sy'n codi o ymchwil gyfoes i reolaeth adnoddau dynol ac ymddygiad sefydliadol. Mae’n darparu dadansoddiad integredig o reolaeth, sefydliadau a phobl, gan ddatblygu’r sgiliau cysyniadol, strategol ac ymarferol sy’n angenrheidiol i reolwyr.
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn gwerthuso'n feirniadol gyfraniad sawl ffordd wahanol o feddwl am farchnata, ac yn edrych ar y modelau dadansoddol a'r arferion rheoli perthnasol, gyda phwyslais ar bwysigrwydd strategol marchnata i bob sefydliad. Mae'n defnyddio astudiaethau achos a thrafodaethau priodol i archwilio nodweddion allweddol ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus ac yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr werthuso'n feirniadol y damcaniaethau amrywiol a chymhwyso'r rhai mwyaf perthnasol o fewn eu cwmnïau / sefydliadau.
Nodau ac Amcanion:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Deall damcaniaethau a chysyniadau allweddol strategaeth farchnata a'i chymhwyso i'r diwydiant bancio a’r diwydiant ariannol
- Deall sut y gellir defnyddio ymchwil marchnad a gwybodaeth i gynorthwyo cwmnïau i gyrraedd ac ehangu eu cwsmeriaid
- Dadansoddi'r technegau a'r strategaethau marchnata a ddefnyddir gan eu cwmnïau eu hunain a chystadleuwyr a gwerthuso'n feirniadol lwyddiant / priodoldeb y strategaethau hyn
- Gallu gwerthuso'n feirniadol y strategaethau marchnata amrywiol a phenderfynu ar y rhai mwyaf priodol i'w defnyddio yn eu cwmni
- Deall swyddogaeth strategaeth farchnata ym mhob cwmni a'i chyfraniad at lwyddiant cyffredinol y cwmni
Testun Allweddol:
Principles and Practice of Marketing (8th Edition) Jobber, D. and Ellis Chadwick, F. - McGraw Hill
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau
Uned Un:
Mae'r Uned yn edrych ar sut y gall sefydliadau weithredu'r athroniaeth hon trwy ddadansoddi eu cwsmeriaid a sut y gwneir penderfyniadau am yr hyn a brynir.
Ar ôl cwblhau'r uned hon, dylech werthfawrogi:
- Sut mae athroniaeth marchnata wedi datblygu dros amser
- Manteision cynllunio marchnata
- Sut mae defnyddwyr unigol yn ymddwyn
- Sut mae sefydliadau'n prynu
- Y grymoedd sy'n gweithredu yn yr amgylchedd marchnata
- Sut y gall ymchwil marchnata a systemau gwybodaeth gynorthwyo i ddeall newid amgylcheddol
- Pam a sut y dylid rhannu marchnadoedd yn segmentau
- Nodweddion unigryw marchnata gwasanaethau
Uned Dau:
Mae Uned Dau yn dechrau gyda chrynodeb o ogwydd sefydliad tuag at farchnata a sut mae hyn yn gysylltiedig ag amrywiaeth o randdeiliaid yn yr amgylchedd marchnata. Yna mae'n edrych ar sut y gellir dadansoddi atebion sy’n gwrthdaro.
Ar ôl cwblhau'r uned hon, dylech werthfawrogi:
- Sut i ddadansoddi cystadleuwyr
- Ffynonellau mantais gystadleuol
- Rheoli cynhyrchion presennol gyda phwyslais arbennig ar swyddogaeth brandio ac ail-frandio
- Y broses o ddatblygu cynhyrchion newydd
- Prisio cynhyrchion
- Materion creu yr hyn a gynigir gan wasanaeth
Uned Tri:
Yn yr uned hon cyflwynir golwg eang ar “gyfathrebu”:
- Ymwybyddiaeth o'r angen i farchnata nid yn unig i gwsmeriaid allanol, ond hefyd i gwsmeriaid mewnol ac i ymddwyn yn foesegol wrth gyfathrebu â'r holl randdeiliaid y manteision a’r heriau o fath arbennig o gyfathrebu uniongyrchol – y rhyngrwyd
- Yr angen am strategaeth Cyfathrebu Marchnata Integredig
- Swyddogaeth cyfathrebu wrth farchnata gweithgareddau gwasanaeth
Modiwl Detholiadol
Trosolwg Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r amgylchedd rheoleiddio newidiol mewn marchnadoedd ariannol byd - eang a sut maent yn effeithio ar Fancio Preifat a Rheoli Cyfoeth. Archwilir nodweddion gweithredol banciau Islamaidd a sefydliadau ariannol, gan ganolbwyntio ar eu perfformiad a sut maent yn cystadlu â banciau confensiynol sy'n seiliedig ar ddiddordeb.
Ystyrir rôl a datblygiadau mewn dosbarthu, canghennu, marchnata a thrin a rôl cwsmeriaid fel ansawdd gwasanaeth a'r cysylltiadau cysylltiedig â phroffidioldeb. Ymdrinnir â dynameg newid mewn bancio manwerthu a dyfodol banciau manwerthu.
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%)
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl yn ymdrin â'r newidiadau cyflym presennol mewn technoleg bancio ac effaith darfol busnesau newydd 'technoleg ariannol', gan herio modelau busnes banciau confensiynol. Mae'r ffocws ar ryngweithiad technoleg (cryptograffeg, bancio symudol, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol), rheoleiddio (e.e. PSD2 yr UE) a modelau busnes sy’n newid. Ystyriaeth eang fydd i ba raddau y mae technoleg newydd yn arwain at leihau’r defnydd o gyfryngwyr ariannol mewn swyddogaethau bancio traddodiadol ac i ba raddau y mae'n arwain at gydweithrediad rhwng banciau a chwmnïau technoleg newydd nad ydynt yn fanciau. Bydd y darlithoedd yn canolbwyntio ar ddau faes busnes lle mae'r technolegau newydd yn cael yr effaith fwyaf: (i) taliadau domestig a rhyngwladol; (ii) busnesau bach a chredyd personol ansicredig, gan gynnwys cyllid masnach a chadwyn gyflenwi. Byddant hefyd yn darparu trafodaeth ar y polisi cyhoeddus a materion strategol mewn technoleg ariannol – yn arbennig y rhyngweithio rhwng rheoleiddio ac arloesi mewn technoleg bancio; a'r newid arfaethedig mewn sefydliadau cydweithredol a sefydliadau a rennir megis y cwmnïau cardiau rhyngwladol Visa a Mastercard a'r rhwydwaith taliadau rhyngwladol Swift. Bydd y tair darlith gyntaf yn rhoi trosolwg o ddarparwyr taliadau newydd, gan edrych ar daliadau rhyngwladol, ac ar dirwedd taliadau C2B a B2B domestig sy’n datblygu’n gyflym. Bydd astudiaeth achos ategol yn archwilio swyddogaeth y prif gwmnïau cardiau Visa a Mastercard. Bydd y ddwy ddarlith nesaf yn edrych ar fenthyca o sefydliadau nad ydynt yn fanciau sy’n seiliedig ar dechnoleg, yn enwedig swyddogaeth y P2P neu roddwyr benthyg y farchnad a hefyd anfonebau a mathau eraill o gyllid cadwyn gyflenwi ac i ba raddau y gellir darparu credyd yn gyfan gwbl y tu allan i'r system fancio. Bydd y darlithoedd olaf yn edrych ar y technolegau ariannol newidiol o safbwynt polisi cyhoeddus a strategol, gan edrych yn feirniadol ar swyddogaeth rheoleiddio o ran cefnogi ac fel rhwystr i arloesi, ac effaith technoleg ar y dirwedd fancio yn y blynyddoedd i ddod.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Bod yn ymwybodol o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw sy'n seiliedig ar dechnoleg mewn technoleg ariannol a sut maent yn herio banciau mewn gwasanaethau talu a benthyca ledled y byd
- Deall ac edrych ar sut mae technoleg, rheoleiddio a chyd-destun busnes gyda'i gilydd yn llunio'r cyfleoedd ar gyfer arloesi technolegol mewn bancio
- Wedi archwilio'n feirniadol y materion strategol a pholisi cyhoeddus a godwyd gan y technolegau newydd, gan gynnwys cymhwyso cyfraith a pholisi cystadleuaeth ac i ba raddau y mae technoleg yn arwain at fathau newydd o gystadleuaeth a chydweithrediad yn y diwydiant
Testun Allweddol
Nid oes gwerslyfr cyfoes. Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain at ymchwil a dadansoddiadau perthnasol o’r diwydiant.
Dull Asesu
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau
Uned Un: Systemau talu a thechnolegau talu newydd
Uned Dau: Technolegau credyd a benthyca eraill
Uned Tri: Polisi cyhoeddus a goblygiadau strategol y technolegau newydd
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar y tair elfen graidd o farchnadoedd cyfalaf a rheoli’r trysorlys fel a ganlyn: rheoli hylifedd a marchnadoedd cyfalaf, rheolaeth ariannol a rheoli risg a gweithrediadau’r trysorlys. Bydd myfyrwyr yn edrych ar y damcaniaethau a'r elfennau allweddol sy'n sail i bob adran. I ddechrau, bydd myfyrwyr yn archwilio'r cyd-destun ar gyfer rheoli arian parod a hylifedd rhyngwladol megis systemau ariannol a bancio a gwerth yr arian mewn amser. Byddant wedyn yn symud ymlaen i drafod cysyniadau craidd megis ecwiti a dyled a’r dulliau sydd ar gael ar gyfer codi arian yn y marchnadoedd cyfalaf. Drwy gydol yr adrannau nesaf bydd myfyrwyr yn gwerthuso dulliau pellach o godi cyfalaf; dadansoddi marchnadoedd bond a statws credyd ac edrych ar hanfodion prisio ecwiti. Bydd yn datblygu dealltwriaeth o reoli risg a’r fframwaith ar gyfer rheoli risgiau ariannol cyn cloi gyda dadansoddiad manwl o swyddogaeth y trysorlys, ei drefniadaeth, polisïau, amcanion a rheolaethau.
Nodau ac Amcanion:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Egluro'r cyd-destun ar gyfer rheoli arian parod a hylifedd
- Egluro mecanweithiau marchnadoedd arian a'r marchnadoedd cyfnewid tramor
- Egluro mecanwaith codi arian yn y marchnadoedd dyled ac ecwiti
- Gwneud cyfrifiadau sy'n ymwneud â phrisio bondiau, cynnyrch a hyd
- Dadansoddi defnyddiau, rhinweddau a pherfformiad statws credyd
- Trafod dulliau o brisio ecwiti a materion yn ymwneud â pholisi difidend
- Gwneud cyfrifiadau sy’n ymwneud â chreu portffolio amrywiol a risg systematig
- Egluro nodweddion offer rheoli risg generig
- Gwneud cyfrifiadau sy'n ymwneud â rheoli risg cyfraddau llog a chyfraddau cyfnewid
- Egluro prif nodweddion ac amcanion gweithrediadau'r trysorlys
Testun Allweddol:
Finance and Financial Markets (4th Edition) Pilbeam, K - Palgrave Macmillan
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau
Mae Uned Un yn ymdrin â’r canlynol:
Mae’r uned hon yn archwilio'r cyd-destun ar gyfer rheoli hylifedd megis systemau ariannol a bancio a gwerth yr arian mewn amser. Mae'n cyflwyno offer craidd a ddefnyddir yn y trysorlys megis marchnadoedd arian a'r marchnadoedd cyfnewid tramor. Mae'r uned hefyd yn edrych ar gysyniadau craidd ecwiti a dyled ac yn cyflwyno dulliau o godi arian yn y marchnadoedd cyfalaf. Felly mae hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer deunydd a drafodir yn Unedau 2 a 3.
Mae Uned Dau yn ymdrin â’r canlynol:
Mae’r uned hon yn rhoi sylw manwl i agweddau pwysig ar y marchnadoedd cyfalaf (dyled/ecwiti neu farchnadoedd bond/stoc) ac yn adeiladu ar sylfeini Uned 1. Yng nghyd-destun y marchnadoedd bondiau, rydym yn ystyried meysydd cyfoes cyfredol (e.e. statws credyd, yr argyfwng dyled sofran Ewropeaidd) ac nid oes llawer o'r deunydd hwn ar gael mewn gwerslyfrau. Mae'r pynciau hyn yn adlewyrchu arbenigedd ymchwil Ysgol Busnes Bangor. Yng nghyd-destun y marchnadoedd ecwiti, rydym yn canolbwyntio i ddechrau ar brisio ecwiti a swyddogaeth polisi difidend. Yn olaf, rydym yn ymdrin ag egwyddorion risg, enillion, creu portffolio amrywiol a modelau prisio asedau.
Mae Uned Tri yn ymdrin â’r canlynol:
Mae'r uned hon yn edrych ar gysyniadau ac offer rheoli risg ac yn ystyried y cymhellion ar gyfer ymddiogelu gan fanciau. Awn ymlaen i drafod technegau rheoli risg generig a swyddogaethau offerynnau deilliad ariannol. Mae banciau masnachol yn wynebu rhestr hir o ffynonellau risg posibl ac felly llawer o risgiau y mae angen eu rheoli. Yn yr uned hon, byddwn yn canolbwyntio ar reoli tri math o risg, sef risg cyfradd llog, risg cyfnewid tramor a risg credyd. Yn yr isadran olaf, ein nod yw tynnu ynghyd nifer o faterion allweddol o fewn y maes llafur sy'n berthnasol i swyddogaethau trysorlys banciau a rheoli’r trysorlys.
Trosolwg o’r Modiwl
Bwriad y modiwl hwn yw edrych ar y materion ymarferol ac academaidd ym maes dadansoddi ariannol, gan ymdrin ag adroddiadau cyfrifeg ariannol ac anghenion y defnyddiwr. Gan adeiladu ar y defnydd o ddatganiadau o'r fath fel ffynhonnell wybodaeth, mae'r modiwl yn edrych ar y problemau sy'n gysylltiedig â'u defnydd ac yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o le dadansoddiadau cyfrifeg o'r fath wrth brisio busnesau. Bydd yn adfyfyrio ar bwysigrwydd datganiadau confensiynol, datganiadau llif arian, cyfrifon cost cyfredol a dadansoddiad llif arian mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol. Ystyrir yr angen i fyfyrwyr ddeall safonau adrodd rhyngwladol a'u heffaith ar ddadansoddiad ariannol, gan gyfeirio'n benodol at faterion cymharol. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried gwahanol ddulliau prisio busnes, gyda phwyslais ar gymhariaeth feirniadol ac adfyfyrio ar ddefnyddioldeb a chywirdeb y gwahanol fethodolegau.
Nodau ac Amcanion:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Gallu cymhwyso technegau dadansoddi ariannol i ddatganiadau ariannol a deall cryfderau a chyfyngiadau dadansoddiadau o'r fath
- Gallu cymhwyso dadansoddiadau cymarebau priodol i asesu perfformiad cyfredol a nodi perfformiad cwmni yn y dyfodol
- Deall a chymharu prif ddatganiadau'r system gyfrifeg
- Gwerthuso'n feirniadol y prif dechnegau prisio a'u cyfyngiadau a gallu cymhwyso'r rhain i senarios yn y byd go iawn
- Deall a chymhwyso damcaniaethau allweddol dadansoddi ariannol i achosion penodol yn y byd go iawn ac adfyfyrio ar werth canlyniadau dadansoddiadau o’r fath
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau
Testun Allweddol:
Business Analysis & Valuation IRFS Edition (4th Edition) Palepu, Healy & Peek - Cengage Learning
Trosolwg o’r Modiwl
- Mae'r cyfrifoldeb am gydymffurfio o fewn marchnadoedd cyfalaf wedi'i ddatganoli i'r rheng flaen a disgwylir i bob gweithiwr gyflawni ei swyddogaeth wrth ymladd yn erbyn troseddau ariannol. P'un a yw eich swyddogaeth yn ymwneud â chleientiaid, yn weithredol neu'n swyddogaeth gefnogi, bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddeall yn well pa mor agored yw eich sefydliad i droseddau ariannol.
- Bydd y modiwl yn ystyried nifer yr achosion, ffurf a dulliau troseddau ariannol a gyflawnir gan unigolion, sefydliadau ariannol a'u gweithwyr. Bydd y myfyriwr yn dysgu'r dulliau a ddefnyddir i gyflawni troseddau gan gynnwys twyll, gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth, a'r amgylchedd rheoleiddio byd-eang a dulliau proffesiynol y gellir eu defnyddio i liniaru a lleihau effeithiau troseddau ariannol.
- Mabwysiadu agwedd broffesiynol i ymdrin â'r pwnc dan sylw a chanolbwyntio ar liniaru a rheoli'r risgiau a achosir gan droseddau ariannol ym maes Bancio a Chyllid. Mae'r modiwl hwn yn tynnu'n helaeth ar astudiaethau achos go iawn i ganiatáu i fyfyrwyr ddadansoddi enghreifftiau gwirioneddol o droseddau ariannol a gwerthuso dulliau o ymdrin a lleihau graddfa a chwmpas troseddau ariannol mewn sefydliadau a marchnadoedd ariannol.
Nodau ac Amcanion y Modiwl:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
Syntheseiddio a chyfleu teipoleg o droseddau ariannol a'r troseddau sy’n seiliedig arnynt
- Disgrifio'r cyrff rheoleiddio ariannol byd-eang, rhanbarthol a lleol ac asesu eu swyddogaethau a'u cydberthnasau yn feirniadol
- Arfarnu gofynion cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol cwmnïau ariannol i ddileu troseddau ariannol
- Deall canlyniadau troseddau ariannol ar gymdeithas a'r sector bancio a chyllid
- Dadansoddi astudiaethau achos go iawn i werthfawrogi cymhlethdod a’r nifer o droseddau ariannol
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach yn cynnwys adroddiad proffesiynol yn ystyried amgylchedd busnes y dysgwr a senarios lleol.
Trosolwg ar y cwrs
- Mae'r modiwl yn cyflwyno ffenomen troseddau ariannol a maint y broblem. Gosod cyd-destun canolrwydd y sector bancio a chyllid wrth frwydro yn erbyn troseddau ariannol a chymhlethdod y mater. Cyflwynir astudiaethau achos, ac anogir myfyrwyr i ymgysylltu â'r rhain trwy gydol y modiwl. Mae’r cyrff rheoleiddiol rhyngwladol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cael eu cyflwyno a rhai o’r derminoleg a ddefnyddir ganddynt.
- Sbardunau troseddau ariannol gan gynnwys llwgrwobrwyo ac ymddygiad llwgr, gangiau troseddol trefnedig a masnachu mewn pobl.
- Gwyngalchu arian, adnoddau terfysgol a lledaenu ariannu a swyddogaeth y sector ariannol a rhwymedigaethau proffesiynol bancwyr.
- Mae twyll yn broblem sylweddol i fanciau a'u cwsmeriaid. Mae deall rhai o'r ffactorau sy'n ysgogi ymddygiadau twyllodrus a dulliau o fynd i'r afael â thwyll yn hollbwysig.
- Mae rheoli risg wedi symud o rywbeth a wnaed ar gyfer bancwyr rheng flaen i rywbeth y disgwylir i fancwyr rheng flaen ymgysylltu’n weithredol ag ef. Deall ymagweddau at ddiwylliant risg.
- Swyddogaeth canolfannau ariannol alltraeth a system fancio gydgysylltiedig fyd-eang wrth hwyluso troseddau ariannol.
- Effeithiau economaidd-gymdeithasol troseddau ariannol a materion cyfoes megis sancsiynau.
Trosolwg o’r Modiwl
- Mae'r modiwl yn ystyried meysydd newydd a datblygol o gyllid gwyrdd a dulliau o wella ymarfer cynaliadwy ym maes cyllid.
- Mae'r modiwl yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol addasu dulliau ac ymarfer cyllid a bancio i realiti newidiol newid hinsawdd a phryderon cynyddol ynglŷn â chynaliadwyedd cyllid.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, gall y rhai sydd wedi cymryd rhan ofyn am Dystysgrif Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy a gynigir gan y Sefydliad Bancwyr Siartredig.
Nodau ac Amcanion:
Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn gwerthuso goblygiadau ariannol yr economi werdd a chynaliadwy newydd sydd ei hangen ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd y modiwl yn edrych ar y sail resymegol, dimensiynau moesegol, agweddau rheoleiddiol a goblygiadau ymarferol cyllid gwyrdd a chynaliadwy i'r diwydiant. Yn y modiwl hwn byddwn yn ystyried beth yw cyfrifoldebau a disgwyliadau cwmnïau, rheoleiddwyr a gweithwyr cyllid proffesiynol wrth fynd i'r afael â'r realiti newydd hyn ac amrywiaeth o ddulliau gweithio a chamau gweithredu a fabwysiadir i gyflawni'r nodau hyn.
Testun Allweddol
Green and Sustainable Finance: Principles and Practice: 6, Simon Thompson
Dull Asesu
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau
Trosolwg o’r Modiwl
Entrepreneuriaid a chwmnïau bychain yw asgwrn cefn economi, ac maent yn gwneud cyfraniad cynyddol i arloesi, creu cyfoeth a chyflogaeth. Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg fanwl ar gysyniadau entrepreneuriaeth a swyddogaeth cwmnïau bychain o fewn yr economi. Bydd yn annog cyfranogwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o natur a swyddogaeth yr entrepreneur yn yr economi a chymdeithas. Bydd myfyrwyr yn dysgu'r prosesau sydd ynghlwm wrth greu menter newydd a chreu cynlluniau busnes. Byddant yn datblygu gwerthfawrogiad o'r gwahanol fathau o gwmnïau, o ddechrau busnesau, i fusnesau teuluol i fasnachfreintiau a'r setiau sgiliau amrywiol sydd eu hangen arnynt.
Nodau ac Amcanion:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Deall y termau “entrepreneur” a “perchennog/rheolwr” a'r gwahaniaethau/tebygrwydd rhyngddynt
- Deall swyddogaeth entrepreneuriaid mewn perthynas â ffurfio a datblygu busnes bach
- Deall datblygiad a chymhlethdodau mathau eraill o fusnesau megis masnachfreintiau a busnesau teuluol
- Deall pwrpas cynllun busnes
- Gallu llunio cynllun busnes o ddyfnder a safon ddigonol a theilwra'r cynllun i wahanol ddiddordebau darllenwyr
- Gallu tynnu'r wybodaeth berthnasol o gynllun busnes a grëwyd gan eraill
Testun Allweddol:
New Venture Creation: Entrepreneurship for the 21st Century (10th Edition) S Spinelli & R Adams - McGraw Hill
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau
Mae Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor yn cadw'r hawl i gynnig modiwlau naill ai yn ystod semester yr Hydref neu Ebrill. Syniad cyffredinol yn unig yw’r amser cwblhau a ddangosir uchod.
Cost y Cwrs
Mae'r ffioedd i astudio MBA Bancwr Siartredig yn dibynnu ar y llwybr astudio rydych chi'n gymwys i’w ddilyn. Mae’r ffioedd i’w gweld isod:
Llwybr Astudio | Ffioedd |
---|---|
Rhaglen Lawn | £19,500 |
Llwybrau Cyflym | £14,750 |
Llwybrau Cyflym Iawn | £12,500 |
Modiwl Unigol | £2,250 |
*Mae ymgeiswyr gyda MCBI sy’n ymuno â’r Llwybr Cyflym yn gymwys i gael gostyngiad o £1,000 yn y ffi
Mae ffioedd y cwrs yn cynnwys:
- Seminarau ar-lein, tiwtorialau, grwpiau trafod a chefnogaeth
- Yr holl ddeunydd cwrs
- Tiwtor Personol
- Hawl i ddefnyddio llyfrgell ar-lein a phorth dysgu Prifysgol Bangor
- Pob asesiad
Sylwer y bydd rhaid talu blaendal i sicrhau eich lle ar y rhaglen. Bydd rhaid talu hefyd ar ddechrau pob semester.
Ariannu
Hydref 2024
Mae ysgoloriaeth gwerth £ 3,000 ar gael i ymgeiswyr cymwys ar gyfer rhaglen MBA Banciwr Siartredig ar gyfer derbyniad Hydref 2024. Yn berthnasol i ymgeiswyr rhaglen lawn yn unig ac yn amodol ar dderbyn taliad blaendal. Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei chymhwyso'n awtomatig i'ch cynnig unwaith y bydd y ffurflen gais wedi'i chwblhau.
Cymhellion Corfforaethol
Mae gostyngiadau corfforaethol ar gael i weithwyr sy'n cael eu cefnogi'n ariannol. Cysylltwch â'r tîm Addysg Weithredol ar executiveeducation@bangor.ac.uk i gael gwybod mwy.
Opsiynau Talu Hyblyg
Er mwyn helpu i ledaenu cost y rhaglen, rhoddir opsiynau i dalu ar sail semester neu fisol. Fel arall, rhoddir gostyngiadau lle gwneir taliad yn llawn ar ôl ymuno*. Cysylltwch â'r tîm Addysg Weithredol i drafod eich opsiynau.
*Ni ellir cynnig gostyngiadau ar y cyd ag unrhyw gymhelliant neu gynnig arall.
Gofynion Mynediad
Caiff yr ymgeiswyr eu hasesu’n unigol. Er enghraifft, i gael mynediad at y rhaglen lawn bydd angen gradd gyntaf dda neu’n meddu ar gymhwyster proffesiynol cymeradwy a phrofiad ymarferol. Ystyrir hefyd ymgeiswyr nad oes ganddynt radd ffurfiol neu gymhwyster proffesiynol, ond sydd ag o leiaf sawl blwyddyn o brofiad rheoli cymeradwy. Gall ymgeiswyr gyflwyno eu CV i’w hasesu i gadarnhau eu bod yn gymwys ar gyfer llwybr penodol, ebostiwch i executiveeducation@bangor.ac.uk.
Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol ar lefel berthnasol.
Rhaid i ymgeiswyr fod â lefel uchel o ruglder yn yr iaith Saesneg. Gofynion iaith Saesneg:
Mae'r profion Saesneg y cyfeiriwn atynt fel rheol fel a ganlyn;
- IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen o dan 5.5)
- Pearson PTE: sgôr o 56 (heb unrhyw elfen yn is na 51)
- Prawf Saesneg Caergrawnt - Uwch: 169 (heb unrhyw elfen yn is na 162)
Gyrfaoedd
Yr MBA Banciwr Siartredig yw'r unig gymhwyster yn y byd a all roi cymhwyster deuol unigryw MBA a'r Dynodiad Banciwr Siartredig mawreddog.
Wedi'i gyflawni trwy bartneriaeth ddegawd o hyd rhwng Sefydliad Bancio hynaf y byd; Sefydliad y Bancwyr Siartredig ac Ysgol Busnes a arweinir gan ymchwil Prifysgol Bangor.
- Codi eich proffil proffesiynol - Ennill y dyfarniad proffesiynol uchaf sydd ar gael i fancwyr ledled y byd
- Gwella eich rhagolygon gyrfa - Enillwch sgiliau newydd i arwain y ffordd yn y diwydiant gwasanaethau ariannol esblygol
- Astudio wedi'i Deilwra - Modiwl dewisol wedi'i deilwra ar gael i gwrdd â'ch dyheadau gyrfa, gan gyflwyno cynnwys ymarferol a chyfoes i gynorthwyo swyddogion gweithredol a rheolwyr
- Dysgu Ar-lein - Rhaglen rhan amser, dysgu o bell sy'n caniatáu hyblygrwydd i astudio o amgylch eich gyrfa waith
- Dechrau ym mis Ebrill neu fis Hydref - Astudio ymhen 12-24 mis, yn dibynnu ar ddysgu blaenorol a chraffter proffesiynol
- Ennill Aelodaeth o Sefydliad y Bancwyr Siartredig - Mynediad i ystod eang o gymorth arbenigol mewn bancio (cyrsiau hyfforddi / cyngor proffesiynol / gwahoddiadau braint i ddigwyddiadau)
Gwneud Cais
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer dechrau yn Hydref 2024 i’r MBA Banciwr Siartredig.
Mae angen y manylion canlynol i lenwi’r ffurflen gais:
- Gwybodaeth bersonol
- Manylion cyflogaeth a swyddi blaenorol
- Manylion cwrs y cymwysterau academaidd a phroffesiynol a gafwyd
Ar ôl cofrestru ar y rhaglen, bydd gan fyfyrwyr 3 mis o'u semester cyntaf i ddarparu copïau ardystiedig o'u tystysgrifau.
O ystyried y cynigir Cydnabod Dysgu Blaenorol ar y cwrs MBA Banciwr Siartredig, gwneir y cais yn uniongyrchol i'r adran Addysg Weithredol trwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon.