Amdanom ni
Ynglŷn â Phrifysgol Bangor
Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884, ac mae’n cyfuno rhagoriaeth academaidd draddodiadol ag ymchwil ac adnoddau blaengar. Bangor oedd un o'r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig graddau mewn bancio a'r gyntaf i gynnig MBA bancio. Mae diddordeb Bangor mewn bancio yn mynd yn ôl i ddyddiau’r banciwr enwog, George Rae, a waddolodd gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus mewn bancio i Fangor ym 1902 a ddenodd rai o feddylwyr ac ymarferwyr mwyaf blaenllaw’r oes.
Cydnabu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2022 fod 85% o ymchwil Prifysgol Bangor naill ai gyda’r gorau yn y byd neu'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae Prifysgol Bangor hefyd ymhlith y 10 gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr ym maes cyfrifeg a chyllid (Tabl Cynghrair 2022 The Times a’r Sunday Times 2022)
Gwybodaeth am Ysgol Busnes Bangor
Mae Ysgol Busnes Bangor yn un o’r ysgolion gorau yn Ewrop am astudiaethau ariannol a bancio ac mae'n cynnig amrywiaeth lawn o ddisgyblaethau o lefel israddedig i lefel doethuriaeth.
Mae Ysgol Busnes Bangor ymhlith y 10% gorau yn y byd o ran sefydliadau ac economegwyr ym maes bancio a hi yw’r gorau o blith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig (RePEc, Awst 2021).
Ynghyd â’n rhagoriaeth ymchwil a’n hymrwymiad i addysgu o ansawdd uchel, mae aelodau staff yn cyfuno eu gyrfaoedd ymchwil gyda’u hymroddiad i gyflwyno cynnwys perthnasol a chyfredol.
Caiff myfyrwyr eu denu gan ein henw da am ansawdd uchel ac arbenigedd, yn benodol ym maes bancio a gwasanaethau ariannol, a Bangor yw un o’r prif ddarparwyr yn Ewrop. Caiff papurau ac erthyglau gan aelodau staff ymchwil eu cyhoeddi’n rheolaidd mewn cyfnodolion amlwg a chyhoeddir llyfrau ganddynt sy’n denu cynulleidfa fyd-eang.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae aelodau staff Ysgol Busnes Bangor wedi gwneud gwaith ymgynghorol ar lefel uchel, yn cynnwys astudiaethau polisi o bwys i lawer o sefydliadau blaenllaw, fel y Comisiwn Ewropeaidd, Banc y Byd a Thrysorlys y Deyrnas Unedig.
Ynglŷn â ManchesterCF
Mae ManchesterCF yn darparu rhaglenni hyfforddiant gwybodaeth ariannol ar-lein i sefydliadau ariannol, unedau gwybodaeth ariannol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled y byd.
Mae ein harbenigedd yn deillio o brofiad cadarn mewn bancio rhyngwladol, gwybodaeth ariannol a chydymffurfiaeth.
Newyddion Addysg Weithredol
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â’r tîm Addysg Weithredol gydag unrhyw gwestiynau fydd gennych cyn dechrau:
Ffôn
E-bost
financialcrimecompliancemba@bangor.ac.uk
Cyfeiriad
Addysg Weithredol, Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, UK, LL57 2DG