
Cyn derbyn fy Ysgoloriaeth Chevening a dechrau fy MSc mewn Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor yn 2022, roeddwn i eisoes yn adnabod Bangor fel cartref llawer o bapurau pwysig ar wasanaethau a gofal dementia. Fel therapydd iaith a lleferydd yn gweithio gydag adnoddau cyfyngedig, ac ar adeg pan oedd gofal dementia ym Malaysia yn dal i fod yn ei gamau cynnar iawn, Bangor oedd fy newis cyntaf yn naturiol. Rhoddodd astudio yno ddirnadaeth amhrisiadwy i mi ynghylch sut i ddechrau adeiladu sylfaen gryfach ar gyfer gofal dementia gartref.
Roedd y symud o “Malaysia drofannol fythol braf a heulog,” i “Gymru arfordirol dywyll, wlyb a gwyntog” yn newid mawr—ond un y dês i’w garu. Fe wnaeth gwasanaethau cymorth myfyrwyr anhygoel y brifysgol fy helpu i ymgartrefu, a rhoddodd byw mewn neuaddau preswyl gyfle i mi fwynhau digwyddiadau a rhaglenni niferus Campws Byw, a agorodd y drws i ddiwylliant Cymru a thirweddau godidog. Er fy mod i'n hiraethu am adref, daeth y Clwb Mynydda yn hafan ddiogel i mi yn gyflym. Rhoddodd penwythnosau llawn teithiau cerdded hir ryddhad i mi rhag pwysau aseiniadau a'm harwain i fynyddoedd mwyaf mawreddog Eryri. O harddwch garw Tryfan i'r Wyddfa eiconig, roeddwn i'n ddigon ffodus i brofi'r mynyddoedd ym mhob tymor yn ystod fy amser ym Mangor.
Cefais lawenydd hefyd wrth ddysgu Cymraeg drwy ddosbarthiadau dechreuwyr am ddim y brifysgol. Rhoddodd gwirfoddoli gydag AgeCymru yng Nghaffi Hafan drwy Wirfoddoli Myfyrwyr Bangor (SVB) rywbeth hyd yn oed yn fwy arbennig i mi—cymuned. Roedd treulio un diwrnod yr wythnos yn y caffi bach wrth yr arhosfan bws yn fy nghysylltu ag aelodau hŷn cymuned Bangor, ac mae'r cyfeillgarwch hwnnw ymhlith fy atgofion mwyaf gwerthfawr. Gwnaeth ein chwerthin hyd yn oed gyrraedd pennod o Prosiect Pum Mil, lle daeth adfywiad y caffi yn stori o lawenydd i gynifer.
Wrth ddychwelyd adref ar ôl graddio, cariais wersi Bangor gyda mi. Yn fy swydd fel Therapydd Iaith a Lleferydd Arweiniol Gwasanaeth yn Ysbyty Tung Shin, rwy'n tynnu bob dydd ar yr hyn a ddysgais yng Nghymru. Ac wrth wasanaethu fel llywydd Cymdeithas Lleferydd, Iaith a Chlywed Malaysia (MASH), rwy'n aml yn meddwl yn ôl am esiampl Bangor o gyfranogiad cyhoeddus ystyrlon. Wedi fy ysbrydoli gan hynny, rwy'n annog fy nghydweithwyr i wrando'n ofalus ar bobl sydd â phrofiad byw, i ganoli eu lleisiau, ac i adael i'w hanghenion arwain ein gwaith.
Wrth edrych yn ôl, rhoddodd Bangor gymaint mwy na gradd i mi. Rhoddodd gyfeillion oes imi, yr atgof o sefyll ar gopaon mynyddoedd ym mhob tymor, a’r hyder i ddod â newid i ofal dementia ym Malaysia. Yn fwy na dim, rhoddodd ail gartref i mi—ac am hynny, byddaf yn dragwyddol ddiolchgar.
Diolch yn fawr iawn!