Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon yn adeiladu ar safbwyntiau damcaniaethol a thystiolaeth ymchwil presennol sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol ym maes gofal dementia. Mae'n archwilio'n feirniadol theori, ymarfer a pholisi cyfredol er mwyn datblygu dulliau priodol o roi gofal dementia o ddisgyblaethau rheoli iechyd meddwl, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cwrs yn ceisio datblygu fframwaith i fyfyrwyr ymwneud â gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r teulu i bobl â dementia ar draws lleoliadau acíwt a chymunedol amrywiol. Mae'n gosod asesiad, cynllunio gofal ac ymyriadau fel strategaethau sy'n ymateb i gymhlethdod dementia fel profiad byw, yn cynnwys rhoi sylw i ymyriadau therapiwtig dwyieithog er mwyn datblygu rhagoriaeth wrth ddarparu gwasanaeth.
Hyd y Cwrs
1flwyddyn llawn-amser, 3 flynedd rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Gradd gyntaf dda mewn pwnc perthnasol gan sefydliad cydnabyddedig. Pynciau gradd sy'n dderbyniol ar gyfer pob rhaglen: Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol/Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi, Meddygaeth/Deintyddiaeth, Seicoleg, Radiograffeg, Parafeddygon. Safon iaith Saesneg - gofynnwn am sgôr IELTS o 6 heb unrhyw elfen unigol yn is na 5.5 (neu gymhwyster cyfatebol). Nid yw hyn yn berthnasol i bob darpar ymgeisydd, gofynnwch am gyngor oherwydd gall eich gradd Baglor fod yn ddigonol i fodloni'r gofyniad hwn. Bydd gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hystyried ar sail unigol.
Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen hon yn darparu dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac yn archwilio'n feirniadol y theori a'r ymarfer sy'n fframio dulliau cyfoes o reoli iechyd a gofal cymdeithasol i bobl â dementia. Nid yw'n cynnwys unrhyw leoliadau na chymwyseddau clinigol, sy'n golygu ei fod yn addas ar gyfer ymgeiswyr lleol a rhyngwladol sydd eisiau astudio ar y lefel hon fel gofyniad gyrfa neu ar gyfer cynnydd academaidd.