"Byddwn yn aml yn troi at y sgript yn fy ystafell ar Safle Ffriddoedd"
“Cofiaf yn dda pan ddechreuodd fy amser ym Mangor.
Gyrrodd fy nhad fi i lawr o Leeds, ac ar ôl fy helpu gyda fy mhethau a rhoi ychydig o eiriau o gyngor imi am fywyd, dyma fo’n neidio i mewn i’r car drachefn. Cofiaf imi fynd yn syth at ffenest yr ystafell ar y pedwerydd llawr ar ôl iddo fynd, gweld y Fenai ar y chwith imi ac Eryri ar y dde, a meddwl tybed beth ddeuai’r blynyddoedd nesaf yn eu sgil.
Fel mae'n digwydd, roedd y tair blynedd gyda’r gorau a dreuliais erioed. Ym Mangor y cyfarfûm â fy nghariad – fy nyweddi bellach – mi wnes i gyfeillion sydd yn ffrindiau agos imi hyd heddiw, a dilynais nifer o hobïau gwahanol. Bûm yn chwarae bâs mewn band, heicio yn Eryri, a, pan oedd eiliad sbâr, byddwn yn troi fy llaw at ysgrifennu.
Mae'n anodd meddwl am adeg nad oeddwn i'n ysgrifennu rhywbeth neu'i gilydd, a rhaid dweud i un project neilltuol fynd â mi i lefydd rhyfeddol. Yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol, ychydig fisoedd cyn imi symud i Fangor, yn ddiarwybod bron cefais syniad a fyddai’n gwneud drama dda yn fy marn i: stori dirgelwch llofruddiaeth, wedi’i gosod ar long fordaith yn y 1920au.
Byddwn yn aml yn troi at y sgript yn fy ystafell ar Safle Ffriddoedd, ac eto yn y tŷ roeddwn i’n ei rentu gyda fy nau ffrind gorau ar ffordd y Gogarth. Bûm yn ei drafod gyda ffrind o Rostra, y gymdeithas ddrama, a ddywedodd y byddai’n llwyfanu cynhyrchiad petawn yn ei gorffen.
Mentraf ddweud rŵan hyn: Wnes i ddim gorffen y ddrama.
Rhwng astudio ar gyfer gradd yn Saesneg, gweithio mewn swydd ran amser mewn bwyty bwyd môr ar Ynys Môn a mwynhau rhyfeddodau niferus gogledd Cymru, gwibio a wnaeth y tair blynedd. Ond erbyn imi raddio, gwyddwn fy mod i eisiau swydd a fyddai, mewn rhyw ffordd, yn fy ngalluogi i ysgrifennu fel bywoliaeth.
Ymgeisiais am ddwsinau o interniaethau a lleoliadau, ar hyd a lled y wlad, ond heb fawr o lwyddiant a symudais yn ôl i Leeds a chymryd swydd yn Pizza Express i gadw’r blaidd o’r drws. Fodd bynnag, ar ôl bron i flwyddyn, daeth y “cyfle mawr” o'r diwedd. Cefais swydd is gydag asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus yn Reading am ddwy flynedd cyn symud i asiantaeth fwy yn Rhydychen.
Mae’n saith mlynedd bellach ers imi gael y swydd gyntaf honno mewn cysylltiadau cyhoeddus, ac er ei bod yn sicr yn gyfle imi ysgrifennu i ennill bywoliaeth, wnes i byth anghofio'r ddrama dirgelwch llofruddiaeth y bûm yn gweithio arni ym Mangor.
Ar Ddydd Calan, 2018, penderfynais wneud rhywbeth yn ei chylch o'r diwedd. Es i chwilio am fy nodiadau a'r hyn yr oeddwn wedi'i ysgrifennu o’r drama, a dyfeisiais gynllun i ysgrifennu fy stori o'r newydd. Y tro hwn, fodd bynnag, heb gymorth Rostra i’w llwyfannu, fy mwriad oedd ysgrifennu nofel.
Treuliais chwe mis yn ymchwilio ac yn mireinio'r stori, deunaw mis yn ei hysgrifennu, ac ym mis Ionawr 2020 anfonais y llawysgrif orffenedig at ddwsin neu fwy o asiantau llenyddol.
Credwn mai dyna fyddai ei diwedd hi. Roeddwn i wedi ysgrifennu fy stori. Tybiwn y byddai'r asiantiaid naill ai'n ei hanwybyddu neu'n ei gwrthod. Bellach roedd yn bryd dychwelyd at fywyd go iawn.
Ond nid dyna ddigwyddodd.
Dair wythnos yn ddiweddarach, llofnodais gydag asiant gwych, a sicrhaodd gynnig am fy llyfr gan Penguin Random House.
Wrth imi ysgrifennu hyn o lith, bydd y llyfr yn y siopau mewn cwta bythefnos. Bu’r darllenwyr cynnar yn postio eu hadolygiadau ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd a darparodd cwpl o awduron poblogaidd y Sunday Times ddyfyniadau a fydd yn ymddangos ar y clawr. Bûm mewn digwyddiad i'r wasg yn Covent Garden. Cafodd phedwar ar ddeg o newyddiadurwyr, gan gynnwys adolygwyr ffuglen o'r Guardian, yr Express a’r Financial Times eu gwahodd i gwrdd â mi a chlywed am y llyfr. Bu’n rhaid imi ymarfer fy llofnod hefyd, oherwydd ymhen ychydig ddyddiau byddaf yn llofnodi 500 o gopïau o argraffiad cyfyngedig ar gyfer Llyfrau Goldsboro yn Llundain.
Bu’n brofiad swreal; un cwbl annisgwyl ond rwy'n eithaf sicr na fyddai wedi digwydd heblaw am fy amser ym Mangor. Yn rhannol, wrth gwrs, oherwydd ym Mangor y bûm yn gweithio ar fersiwn gyntaf yr hyn sydd bellach yn llyfr. Ond rwy'n meddwl ei fod ychydig yn ddyfnach na hynny.
Wn i ddim a fyddwn i wedi bod yn ddigon hyderus i anfon fy ngwaith at asiant heb yr hunanhyder a gefais o berfformio yn y Fenai ar Benwythnos y Cyn Fyfyrwyr a’r lle dan ei sang. Dw i ddim yn meddwl y byddai gennyf yr arddeliad i ysgrifennu llyfr ochr yn ochr â fy ngwaith mewn cysylltiadau cyhoeddus heb ddysgu cloriannu gradd a swydd brysur a hanner dwsin o ddiddordebau allgyrsiol. A dweud y gwir, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i hyd yn oed wedi cyrraedd diwedd fy nrafft cyntaf heb sgyrsiau rheolaidd a chefnogaeth fy nyweddi. Mae’r llyfr yn gyflwynedig iddi am reswm da iawn.
Mae'n anodd dweud mewn geiriau pa mor bwysig oedd fy amser ym Mangor, ond rwy’n gobeithio imi roi blas i chi. Y gwir amdani yw i’r dref fach yn y mynyddoedd newid fy mywyd. Mi wnaeth hynny ddeng mlynedd yn ôl, ac mae’n ymddangos ei bod yn dal i wneud hynny rŵan, ac synnwn i ddim na wnaiff hi hynny eto rywbryd yn y dyfodol.”
Caiff A Fatal Crossing ei rhyddhau ar 20 Ionawr 2022. Mae ar gael i'w harchebu oddi wrth Amazon, Waterstones a WHSmith. Bydd fersiwn sain hefyd ar gael ar Audible.
It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?