Pwy yw Bangoriaid Llundain?
Sefydlwyd Bangoriaid Llundain ym 1901 fel cangen Llundain o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru gynt, a cholegau addysg uwch cysylltiedig.
Beth mae Bangoriaid Llundain yn ei wneud?
Rydym yn cynnig rhwydwaith cymdeithasol i gyn-fyfyrwyr yn Llundain a de ddwyrain Lloegr i gynnal cysylltiadau â graddedigion Prifysgol Bangor eraill. Rydym yn cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn i ymweld â thirnodau Llundain, dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru yn Llundain, cynnal cysylltiadau â Phrifysgol Bangor a rhwydweithio â grwpiau cyn-fyfyrwyr prifysgolion eraill Cymru.
Mae ymweliadau cofiadwy wedi cynnwys Kew Gardens, Greenwich Old Royal Naval College, the Globe Theatre, Epping Ongar Heritage Railway a thaith gerdded dywys o amgylch dinas Llundain. Unwaith y flwyddyn, rydym yn trefnu sgyrsiau gan aelod neu siaradwr allanol, ac rydym yn wrthi’n trefnu cyfarfodydd anffurfiol mewn tafarndai trwy gydol y flwyddyn.
Pa ddigwyddiadau sydd i ddod yn 2025?
- Dydd Mercher, Gorffennaf 16 - Cyfarfod anffurfiol o 7pm yn Mabel's Tavern (ger Euston a King's Cross)
- Dydd Iau, Awst 14 - Cyfarfod anffurfiol o 7pm yn Mabel's Tavern (ger Euston a King's Cross)
- Dydd Sadwrn, Medi 6 - Taith ddiwrnod ar drên i Lewes, East Sussex
- Dydd Sadwrn, Hydref 18 - Ymweliad â Handel Hendrix House (Mayfair)
Mae’n swnio'n wych! Sut ydw i’n ymuno?
Syml – anfonwch e-bost atom a byddwn yn ateb gyda'n calendr digwyddiadau a gwybodaeth ymuno lawn: LondonBangorians@outlook.com




