Ganwyd Chris yn Northwich, Swydd Gaer yn 1956. Astudiodd Beirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn 1974. Ar ôl iddo ennill ei radd ym 1977, symudodd i Brifysgol Abertawe i gwblhau ei radd Meistr, hefyd mewn Electroneg yn 1979.
Ar ôl graddio, ymunodd â Race Electronics, ac yna Dragon Data, gan ddylunio caledwedd y cyfrifiadur Dragon a'r perifferolion.
Daeth yn Gyfarwyddwr Technegol yn Tellermate (rhan o grŵp Percell) lle aeth ati i sicrhau patentau llawer o'i syniadau dylunio. Roedd wedi'i leoli yn Johannesburg ac Atlanta, yn ogystal â’r Pencadlys yng Nghasnewydd. Yn ystod ei gyfnod yn Tellermate, derbyniodd Chris, ynghyd â chydweithwyr uwch, dair Gwobr y Frenhines am Ddiwydiant, dau ohonynt yn yr un flwyddyn yn 1997.
Ochr yn ochr â gweithio i'r cwmnïau uchod, bu Chris hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd dylunio i Coinmaster yng Nghaerdydd ac aeth ymlaen yn ddiweddarach i weithio gydag Autogaming ac Autodice, gan weithio ym Macau am ran o'r amser hwn.
Bu farw Chris ar 1 Medi 2025 yn 69 oed.