
Manylion
Mrs Lorraine Westwood
Prif Swyddog Marchnata ac Is-lywydd Rhyngwladol
+44 (0)1248 351151
Prifysgol Bangor
Ymunodd Lorraine â'r Brifysgol ym mis Ebrill 2020 gan ymgymryd â swyddogaeth newydd y Prif Swyddog Marchnata ac Is-lywydd Rhyngwladol. Mae ei phortffolio ym Mangor yn cynnwys cyfathrebu, marchnata, recriwtio myfyrwyr, y Ganolfan Addysg Ryngwladol, cyn-fyfyrwyr, codi arian, derbyniadau a Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach. Yn Gymrawd o'r Sefydliad Siartredig Marchnata, mae gan Lorraine dros ugain mlynedd o brofiad mewn uwch reoli marchnata mewn addysg uwch. Mae hyn wedi amrywio o sefydliadau mawr canol dinas i arbenigwyr bach ac o gampws sengl i aml-gampws. Mae wedi adeiladu ac arwain timau sydd wedi ennill gwobrau ac yn 2019 dyfarnwyd iddi wobr fawreddog Marchnatwr y Flwyddyn gan y Sefydliad Siartredig Marchnata. Mae Lorraine hefyd wedi dal nifer o swyddi gwirfoddol yn y sector addysg uwch. Mae hyn wedi cynnwys bod yn Ymddiriedolwr Undeb Myfyrwyr ac yn fwyaf diweddar cefnogi gwaith y Cyngor Hyrwyddo a Chefnogi Addysg, CASE Europe.