Cryfhau Eich Gwreiddiau (Neu Ddarganfod Rhai Newydd)
Os ydych chi'n dod o Ogledd Cymru, mae astudio ym Mangor yn rhoi'r cyfle i chi adeiladu ar eich cysylltiadau presennol a chyfrannu at eich ardal leol.
Y Gorau O Ddau Fyd - Annibyniaeth A’r Hyn Sydd Yn Gyfarwydd i Chi (os ydych chi eu heisiau)
Gallwch fyw bywyd annibynol yn y brifysgol a dysgu byw oddi cartref (hyd yn oed os mai dim ond taith fer mewn car ydyw). Ond os ydych chi’n teimlo'n hiraethus am adref neu angen cinio dydd Sul go iawn, tydi adref ddim yn rhy bell chwaith. Mae'n gam tuag at annibyniaeth ond gyda rhwyd ddiogelwch os oes ei hangen arnoch.
Antur Ar Eich Stepan Drws
Ym Mangor, rydych chi funudau i ffwrdd o fynyddoedd epig, arfordiroedd godidog, a gweithgareddau awyr agored anhygoel. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio mynydd, caiacio, syrffio... a llawer mwy.
Byw Mewn Awyrgylch Dwyieithog Ac Astudio Drwy Gyfrwng Y Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig mwy o fodiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg nag unrhyw brifysgol arall. Gallwch wneud eich gradd gyfan neu ran ohoni drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl Ysgol academaidd. Mae galw mawr am weithwyr proffesiynol ifanc sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog yng Nghymru felly mae hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'ch gyrfa.
Cyfle i Sefyll Allan
Mewn sefydliad academaidd llai, mae'n haws cymryd rhan mewn prosiectau, ymchwil, neu gymdeithasau myfyrwyr. Gall hyn roi profiad amhrisiadwy i chi a'ch helpu i adeiladu CV sy'n sefyll allan, gan eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr yn y dyfodol.