Archwiliad deintyddol ar y claf

Hylendid Deintyddol

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Hylendid Deintyddol

 

 

Archwiliad ar y dannedd

Pam astudio hylendid deintyddol?

Mae gennym bartneriaeth agos gyda darparwyr lleoliadau. Mae hynny’n sicrhau y gwnaiff rhaglen hylendid deintyddol Prifysgol Bangor eich paratoi i fod yn hylenydd a all ddarparu gofal deintyddol rhagorol. Byddwch yn derbyn addysg gan addysgwyr hylendid deintyddol arbenigol mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol ac fel myfyriwr mi gewch chi brofiad dysgu o ansawdd uchel a rhagoriaeth mewn ymchwil.

Cyfleoedd am yrfaoedd mewn hylendid deintyddol

Mae Hylenwyr Deintyddol yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal deintyddol. Gall graddedigion ddisgwyl gweithio mewn gwasanaethau deintyddol cyffredinol neu wasanaethau deintyddol clinigol cymunedol. Yn y gwasanaethau hynny, mae hylenwyr deintyddol yn gweithio fel rhan o'r tîm deintyddol ehangach, gan reoli eu cleifion eu hunain, ac ychwanegu at y gofal a ddarperir gan unigolion cofrestredig deintyddol eraill.

Person yn dal cast deintyddol gwyn

Bydd rôl gynyddol i hylenwyr deintyddol yn narpariaeth gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Nghymru a newidiadau polisi’n parhau i bwysleisio'r defnydd cynyddol o hylenwyr.  

Gall hylenwyr deintyddol ganolbwyntio ar elfennau penodol o ofal neu weithio mewn lleoliadau gofal penodol, gan gynnwys ysbytai dysgu, ysgolion deintyddol, y lluoedd arfog, carchardai, neu gyfleusterau gofal preswyl. Mae llwybrau gyrfa unigryw hefyd ar gael trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd dysgu gydol oes. Mae rhai hylenwyr deintyddol yn dod yn addysgwyr deintyddol, rheoleiddwyr ac academyddion.  

Mae hylendid deintyddol hefyd yn fodd i symud ymlaen rhwng swyddi ym maes deintyddiaeth. Mae symud ymlaen o hylendid deintyddol i therapi deintyddol yn gyffredin.

 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Hylendid Deintyddol llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Hylendid Deintyddol ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Hylendid Deintyddol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein hymchwil

Isod mae rhai enghreifftiau o brojectau ymchwil diweddar sy'n gysylltiedig â gweithwyr hylendid deintyddol a gofal proffesiynol o Brifysgol Bangor:

• Can Hygiene-Therapists maintain the oral health of routine low-risk dental recall patients in "high-street" dental practices: a pilot study.
• uSing rolE-substitutioN In care hOmes to improve oRal health (SENIOR).
Realist Evaluation of the In Practice Prevention Programme.
A Realist Evaluation of NSH Dental Contract Pilots Across Wales.

Crynodeb o'r projectau ymchwil

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?