Datblygwyr sy'n cydosod rhannau PC

Cyfrifiadureg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Cyfrifiadureg

Pam Astudio Cyfrifiadureg?

  • Rydym yn gweld ein holl fyfyrwyr fel unigolion ac rydym yn deall eu cryfderau. Mae drysau ein swyddfeydd yn agored bob amser, p'un a ydych eisiau trafod eich gwaith academaidd, ymchwilio i ddamcaniaethau neu am gael sgwrs am fywyd. Mae unrhyw un sy'n dewis astudio gyda ni yn cael help bob cam o'r ffordd a byddant yn graddio gyda chymhwyster sy'n cael ei barchu gan gyflogwyr, yn ogystal ag atgofion a ffrindiau fydd yn para am oes.
  • Rydym yn gymuned fywiog gyda labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron sydd wedi eu rhwydweithio gan ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant a'n llyfrgell ein hunain.
  • Mae ein hymchwil a'n cysylltiadau eraill â diwydiant yn sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr proffesiynol yn y maes sy'n gweithio ar brojectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.
  • Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr - a gynlluniwyd i roi'r cyfle i ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau a chefnogi'r gwaith o gyflwyno modiwlau pensaernïaeth gyfrifiadurol.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Cyfrifiadureg

Bydd ein cyrsiau gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ym mheirianneg meddalwedd datblygu rhaglenni'r we, rhaglennu, cyfathrebu a rhwydweithio, cymwysiadau cyfrifiadurol, rheoli Technoleg Gwybodaeth, gwerthu cyfrifiaduron a marchnata.

Mae ein graddedigion yn hoff gan gyflogwyr o bob lliw a llun mewn diwydiant ac yn y sector cyhoeddus. Mae'r cyfuniad o rifedd uwch, sgiliau cyfrifiadurol a phrofiad o waith tîm a datrys problemau yn gwneud ein graddedigion yn hynod o gyflogadwy.

Caiff graddedigion Cyfrifiadureg gyfleoedd gyrfa lle bynnag y bydd busnesau a'r sector cyhoeddus yn defnyddio cyfrifiaduron. Mae digon o gyfleoedd gan gynnwys gweithio fel datblygwyr cymwysiadau a rheoli gwasanaethau cyfathrebu a Technoleg Gwybodaeth i gwmnïau, gemau cyfrifiadurol.

Lle bynnag y bo angen am bobl a all ddefnyddio eu gwybodaeth am wyddoniaeth a pheirianneg i ddatrys problemau, bydd ein graddedigion yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr.

Ein Hymchwil o fewn Cyfrifiadureg

Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys graffeg gyfrifiadurol, delweddu, canfod gwybodaeth a chyfathrebu. Caiff arbenigedd yn y meysydd hynny ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi llwybr uniongyrchol i'r myfyrwyr at yr ymchwil diweddaraf mewn Cyfrifiadureg.

Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o adnoddau a chyfleoedd i gydweithio.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?