Caenu nanodechnoleg ar gyfer gwydr

Nanodechnoleg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Nanodechnoleg

Pam Astudio Nanodechnoleg?

  • Ni yw un o'r ychydig brifysgolion yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig cyfle ymarferol i gynhyrchu dyfeisiau mewn amgylchedd ystafell lân ac amser i ddefnyddio offer micro-beiriannu laser. 
  • Mae ein meysydd ymchwil yn ymdrin â phob agwedd ar nanodechnoleg, gan gynnwys dylunio, cynhyrchu a mesuriadau dyfeisiau. Mae'r adnoddau nanogynhyrchu sydd gennym yn yr ystafell lân ar gyfer nanogynhyrchu lled-ddargludyddion, ynghyd ag arbenigedd ein staff ym meysydd nanoffotoneg, nanoelectroneg a nanogynhyrchu'n cynnig cyfuniad unigryw o hyfforddiant theoretig ac ymarferol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y maes cyffrous hwn.
  • Mae gennym hanes hir o arbenigedd mewn peirianneg electronig.
  • Mae Peirianneg Electronig ym Mangor yn y 4ydd safle yn y Deyrnas Unedig am Allbynnau Ymchwil.
  • Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf. Mae gennym sawl labordy ymchwil uwch-dechnoleg.
  • Mae yma gymuned ôl-radd brysur.

Cewch eich addysgu gan staff sy'n beirianwyr electronig profiadol sy'n cynnal cysylltiadau â diwydiant i sicrhau bod yr hyn y byddwch yn ei ddysgu yn gyfredol ac yn berthnasol i ddiwydiant.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Nanodechnoleg

Mae nanodechnoleg a microgynhyrchu'n cynnig cyfuniad effeithiol o wyddorau ffisegol, efelychu mathemategol a phrofiad ymarferol o ddefnyddio sgiliau microgynhyrchu a bydd yn paratoi myfyrwyr at amrywiaeth eang o opsiynau gyrfa, yn ogystal â chyfleoedd i astudio am ddoethuriaeth.

Bydd ar gwmnïau sy'n gweithio ym maes electroneg cyflymder uchel, ffotoneg integredig a biobeirianneg angen cyson am staff hynod gymwys ym maes nanodechnoleg a microgynhyrchu. Bydd rhai graddedigion yn dylunio'r fersiwn ddiweddaraf o sglodion telathrebu, tra bydd eraill yn datblygu sglodion ffotonig newydd ar gyfer ceir LIDAR a cheir hunan-yrru. Mae ar y maes biosynhwyro a biobeirianneg, yn benodol, angen cyson am arbenigedd sy'n rhychwantu'r meysydd sy'n cael eu crybwyll uchod.

Mae astudio nanodechnoleg yn gofyn am lawer iawn o offer ymchwil arbenigol, mae'r sgiliau hyn yn arbenigol iawn ac yn rhai mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae gennym hanes hir o arbenigedd mewn electroneg a ffotoneg ynghyd ag isadeiledd i'n galluogi i gyflwyno graddau mor arbenigol.

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ein Hymchwil o fewn Nanodechnoleg

Mae ein hymchwil wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf. Cafodd ein hamgylchedd ymchwil, sydd o gryn bwysigrwydd i fyfyrwyr ôl-radd, sgôr rhyfeddol o uchel hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?