Bwrdd cylched electronig

Peirianneg Electronig

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Peirianneg Electronig

Pam Astudio Peirianneg Electronig?

  • Mae gennym hanes hir o arbenigedd mewn peirianneg electronig ac rydym yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o fodiwlau.
  • Mae Peirianneg Electronig ym Mangor yn y 4ydd safle yn y DU am Gynnyrch Ymchwil*.
  • Mae gennym ymchwil gref mewn optoelectroneg, cyfathrebu, systemau storio data, microelectroneg, bioelectroneg a gwyddor deunyddiau, systemau rheoli ac offeryniaeth.
  • Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf. Yn ogystal â labordai addysgu mawr, gydag offer o safon uchel, mae gennym sawl labordy ymchwil hefyd.
  • Rydym yn gymuned fywiog gydag ystafelloedd cyfrifiaduron â chyfarpar da yn defnyddio meddalwedd o safon diwydiant a'n llyfrgell gyfeirio ein hunain.
  • Cewch eich dysgu gan staff sy'n beirianwyr electronig profiadol ac sy'n cynnal cysylltiadau â diwydiant i sicrhau bod cyrsiau'n adlewyrchu datblygiadau diweddar.
  • Mae galw mawr gan gyflogwyr rhyngwladol am raddedigion sydd wedi cwblhau'r cwrs hwn.

*Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Peirianneg Electronig

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn ystod enfawr o wahanol ddiwydiannau. Maent yn hynod werthfawr i gyflogwyr o bob math. Mae hyn oherwydd bod ein cyrsiau'n cyfuno addysgu o ansawdd uchel ynghyd ag amser a dreulir yn gwneud gwaith mewn labordai.  Mae ein myfyrwyr yn dysgu'r theori ac yn rhoi hyn ar waith yn y labordy ar unwaith.

Gall ein graddedigion weithio mewn llawer o wahanol feysydd, o electroneg modurol ar gyfer timau Jaguar Land Rover, Honda neu F1, i ddylunio caledwedd gemau cyfrifiadurol; ac o labordai ymchwil y llywodraeth i wneuthurwyr offer electroneg i ddefnyddwyr.

Mae'r sgiliau modelu mathemategol, datrys problemau a rheoli projectau yr ydym yn eu dysgu i'n myfyrwyr yn eu gwneud yn ddeniadol i ystod lawer ehangach o gyflogwyr, a dyna pam mae dros 90% o'n myfyrwyr yn cerdded yn syth i swyddi priodol i raddedigion pan fyddant yn gadael Bangor.

Ein Hymchwil o fewn Peirianneg Electronig

Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf. Mewn Peirianneg Electronig, roedd Prifysgol Bangor yn 4ydd yn y DU o ran cynnyrch ymchwil. Cafodd ein hamgylchedd ymchwil - sydd hefyd o gryn bwysigrwydd i fyfyrwyr ôl-raddedig - sgôr rhyfeddol o uchel hefyd. 

Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o gyfleoedd i gydweithio ac adnoddau.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?