Fy ngwlad:

Y Datganiad Personol Newydd Ar Gyfer Proses Ymgeisio UCAS - Mynediad 2026

Meddwl mynd i’r brifysgol? Mae’r datganiad personol yn gyfle gwych i ddisgleirio. Dyma lle’r wyt yn gallu dangos pwy wyt ti a pham dy fod yn berffaith ar gyfer y cwrs.

Mae proses ymgeisio UCAS ar gyfer mynediad 2026 bellach ar agor yn swyddogol, ac fe elli gyflwyno dy gais, gan gynnwys dy ddatganiad personol. 

Mae UCAS wedi gwneud rhai newidiadau eleni. Yn lle un traethawd hir, mae’n ofynnol nawr i ateb tri cwestiwn penodol. Mae hyn yn ei gwneud yn haws canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig .

Bydd angen ysgrifennu o leiaf 350 nod (50 i 70 gair) ar gyfer pob cwestiwn, ac mae gen ti uchafswm o 4,000 nod (700 i 800 gair) ar draws y tri. 

Mae’r cwestiynau wedi’u cynllunio i dy helpu i ddweud wrthym yn union beth sydd angen i ni ei wybod:

  1. Pam wyt ti eisiau astudio’r cwrs? Dweda wrthym beth sy’n dy gyffroi amdano.
  2. Sut mae dy gymwysterau a dy astudiaethau wedi dy baratoi? Cofia ddangos sut mae dy waith presennol wedi dy osod ar y llwybr cywir.
  3. Beth arall wyt ti wedi’i wneud y tu allan i addysg, a pham fod y profiadau hyn yn bwysig? Meddylia am hobïau, gwaith neu wirfoddoli - unrhyw beth sy’n dangos dy sgiliau a dy angerdd.

Cofia, dim ond un datganiad personol sydd angen ei ysgrifennu, waeth faint o brifysgolion yr wyt yn gwneud cais iddynt.

Dyddiadau Pwysig

Gyda cheisiadau bellach ar agor, mae’r dyddiadau hyn yn hanfodol:

  • 15 Hydref 2025 (6:00 PM amser y DU): Dyma’r dyddiad cau cynnar ar gyfer ceisiadau i’r rhan fwyaf o gyrsiau mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth, a Gwyddor/Meddygaeth Milfeddygol. Os yw eich plentyn yn gwneud cais i un o’r rhain, dylent fod yn gweithio at eu drafftiau terfynol erbyn hyn.
  • 14 Ionawr 2026 (6:00 PM amser y DU): Dyma’r dyddiad cau ystyriaeth gyfartal ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig eraill. Mae cyflwyno erbyn y dyddiad hwn yn sicrhau bod cais eich plentyn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â phob un arall.

Felly, er bod y dyddiad cau ar gyfer llawer o gyrsiau ychydig fisoedd i ffwrdd, mae’n ddoeth gweithio ar y datganiad personol nawr er mwyn osgoi panig munud olaf.

 

 

Awgrymiadau i Rieni: Sut Allwch Chi Helpu

Gallwch dal fod yn gefn mawr wrth ysgrifennu'r datganiad personol. Dyma sut gallwch eu helpu:

  • Sgwrsio: Trafodwch yr hyn maen nhw eisiau ei ddweud. Gall hyn eu helpu i drefnu eu meddyliau a phenderfynu beth i’w roi fel atebion.
  • Darllen drafftiau: Mae llygad ffres bob amser yn ddefnyddiol. Gallwch helpu i weld camgymeriadau teipio a gramadeg, ond cofiwch beidio â golygu gormod. Nid eich datganiad chi yw hwn! 
  • Annog ymchwil: Atgoffwch hwy i edrych ar wefan UCAS. Mae llwyth o adnoddau gwych yno, gan gynnwys adeiladwr datganiad yn eu cyfrif UCAS Hub.
  • Cadw llygad ar ddyddiadau cau: Dyma’r rhan bwysicaf ar hyn o bryd.

Meddwl defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ysgrifennu dy ddatganiad personol?

Mae'n hawdd meddwl fod defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn ffordd gyflym o wneud y gwaith, ond nid yw'n syniad da. Mae angen i dy ddatganiad personol fod yn unigryw i ti, rhywbeth sy’n adlewyrchu dy brofiadau, dy nodau a’th bersonoliaeth. Os wyt ti’n defnyddio darnau mawr wedi ei ysgrifennu gan Ddeallusrwydd Artiffisial, gall UCAS ei weld fel llên-ladrad, a gallai hyn effeithio ar dy gyfle i fynd i'r brifysgol. Felly cymer dy amser i ysgrifennu'r datganiad personol dy hun, mae dy lais di’n bwysig.