Logo 1884 ar gefndir gwyn

Cufflink

Cydweithio â diwydiant

Byd Digidol Mwy Diogel  

Yn anffodus, mae achosion o gyrchu data yn ddiawdurdod yn digwydd yn amlach o lawer, a gallant effeithio ar bob un ohonom a chael canlyniadau pellgyrhaeddol. Dros y 12 mis diwethaf, cafodd cwmni o’r DU ei hacio’n llwyddiannus bob 19 eiliad! 

Mae Cufflink, sydd wedi ei lleoli ym Mharc Gwyddoniaeth Menai Prifysgol Bangor, yn arloesi mewn seiberddiogelwch. Mae’r cwmni yn gwneud cynnydd byd-eang o ran cadw gwybodaeth bersonol a busnes yn ddiogel, ac yn gwarchod rhag hacio data, gyda chymorth Prifysgol Bangor. 

Mae 50% o weithlu'r cwmni yn raddedigion o Brifysgol Bangor ac mae Cufflink yn elwa o allu ffurfio partneriaethau ymchwil gydag arbenigwyr yn y brifysgol ar ddata, preifatrwydd a thryloywder. 

Ein gweledigaeth ni yw i Gymru fod ar flaen y gad yn y farchnad seiberddiogelwch fyd-eang, gan ddethol y disgleiriaf a’r gorau o brifysgolion lleol, gan ddarparu cyfleoedd medrus iawn i fynd i’r afael â phroblem fyd-eang enfawr.

Billy Williams  ,  Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd, Cufflink

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?