Logo 1884 ar gefndir gwyn

Siemens Healthineers

Cydweithio â diwydiant

Arbedion mewn Technoleg Feddygol  

Mae ymchwil o Ysgol Busnes Bangor wedi creu arbedion ariannol pwysig i Siemens Healthineers - cwmni lleol sy’n arweinwyr byd-eang mewn technoleg feddygol. 

Trwy archwilio prosesau gweithgynhyrchu offer diagnostig y cwmni, llwyddodd Bukola  Adetonwa, myfyriwr ymchwil doethuriaeth, i wneud argymhellion ar effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. 

Mae'r project ymchwil wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'r adran a'n gallu i rannu gwybodaeth yn effeithiol. Roedd y llwyddiant yn ganlyniad i'r cydweithredu agos, gan ganiatáu i'r dull ymchwil gael ei addasu'n gyflym wrth ddarganfod heriau.

Dr Rachel Morris,  Pennaeth Gweithrediadau Technegol. Siemens Healthineers, Llanberis.

Mae’r project hwn yn dangos pa mor bwysig yw cydweithio rhwng prifysgolion a diwydiant, a gwerth dysgu, effeithlonrwydd prosesau ac arbedion cost a gyflawnir drwy fentrau doethurol mor llwyddiannus.

Dr. Clair Doloriert,  Goruchwyliwr y Project ac Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Busnes Bangor

Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Siemens Healthineers.  Rwyf wedi dysgu cymaint drwy'r broses hon.  Mae Siemens wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi fy helpu i ddatblygu fel swyddog gwybodaeth ac ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa.

Bukola Adetonwa,  Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Siemens Healthineers. Rwyf wedi dysgu cymaint drwy'r broses hon. Mae Siemens wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi fy helpu i ddatblygu fel swyddog gwybodaeth ac ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?