Logo 1884 ar gefndir gwyn

Vodafone

Cydweithio â diwydiant

Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldeb Digidol 

Rydym yn cydweithio â Vodafone, Fibrespeed a Comtek i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb digidol trwy ddarparu rhyngrwyd cyflym i fwy na miliwn o bobl.

Trwy ein Canolfan Prosesu Digidol gwerth £5.5m, y cyntaf o'i bath yn y DU, yn sicrhau bod cyfathrebu dros y rhyngrwyd yn gynaliadwy yn y dyfodol.  

Canolfan DSP Prifysgol Bangor yw’r un gyntaf o’i fath yn y DU.

Mae'r ymchwil a wnawn yma yn gweithredu fel glud nid yn unig i ddatblygu systemau digidol a fydd yn cael effaith genedlaethol a byd-eang ond yn dod â busnesau sy'n arwain y diwydiant ynghyd i weithio ar y cynlluniau hyn.

Yr Athro Roger Giddings,  Dirprwy Gyfarwyddwr, Gweithrediadau Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol, Prifysgol Bangor

Mae Vodafone DU yn gyffrous iawn i fod yn rhan o EDC 5G Llywodraeth Cymru gyda Phrifysgol Bangor a phartneriaid eraill yn y diwydiant. Bydd y rhaglen yn nodi ffyrdd o fynd i'r afael ag allgáu digidol yng Nghymru. Mae Vodafone wedi ymrwymo’n gyhoeddus drwy ein hymgyrch “everyone.connected” i helpu i gysylltu miliwn o bobl sy'n byw mewn allgáu digidol. Mae'r cydweithio hwn yn cyd-fynd yn llwyr â'n huchelgeisiau.

Paul Morton,  Pennaeth Amddiffyn, Vodafone UK

Rydym mor ffodus i gael prifysgol leol ag arbenigedd o'r radd flaenaf yn eu canolfan DSP i'n cefnogi i ddatblygu ein technoleg ddiweddaraf. Mae cynhyrchion trawsyrru optegol (WDM) brand Sorrento Comtek yn sail i'r arloesedd 5G diweddaraf.

Askar Sheibani ,  Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp, Comtek Network Systems (UK) Ltd

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?