Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Adam Hawker

Helpodd Bangor i roi fy ngyrfa mewn gwyddoniaeth ar lwybr cyflym.

Adam Hawker

Adam Hawker

Gwyddonydd Clinigol Dan Hyfforddiant Mewn Microbioleg yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Prifysgol Manceinion
Astudiodd: BSc Gwyddorau Biofeddygol, 2016

Penderfynais astudio ym Mangor oherwydd y campws bach yn y ddinas, y mynediad hawdd at fannau agored i helpu i ymlacio, a’r enw da rhagorol sydd gan y brifysgol am y gwyddorau biolegol a meddygol.

Adam Hawker

"Roeddwn eisiau astudio meddygaeth i ddechrau, a sylweddolais yn fuan yn ystod fy Lefel A na fyddwn yn gallu gwneud cais trwy'r llwybr uniongyrchol, ond wrth i mi ymchwilio i yrfaoedd mewn gofal iechyd, deuthum o hyd i'r maes gwyddorau biofeddygol. Yna gwelais y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol, a sut y gall gradd achrededig eich galluogi i symud ymlaen i swydd gofrestredig o fewn y GIG. Roedd Prifysgol Bangor yn darparu gradd achrededig a fyddai’n cyflymu fy ngyrfa i fod yn wyddonydd cofrestredig. 

"Mae Prifysgol Bangor yn enwog am y cymdeithasau a'r grwpiau y gellir ymuno â nhw am ddim, sy'n gwneud cymdeithasu ac adeiladu grwpiau cyfeillgarwch mor hawdd. Gallwch roi cynnig ar nifer o wahanol chwaraeon a hobïau hyd nes y dewch o hyd i rywbeth rydych wir yn ei fwynhau. Mae dringo’r Wyddfa gyda’r grŵp heicio yn uchafbwynt y mae'n rhaid i bob glasfyfyriwr ei wneud! 

"Ar ôl graddio mewn gwyddoniaeth, rwyf wedi symud ymlaen o fod yn gynorthwyydd labordy, i  fod yn wyddonydd biofeddygol dan hyfforddiant, i fod yn gofrestredig ac erbyn hyn rwyf wedi cael lle ar y rhaglen hyfforddi i wyddonwyr clinigol. 

“Mae fy nghwrs hyfforddi tair blynedd presennol yn golygu fy mod yn symud o amgylch gwahanol feysydd gwyddorau heintus yn yr ysbyty a bydd yn fy ngalluogi i ymchwilio i dechnolegau newydd o ansawdd uchel a’u rhoi ar waith i gynorthwyo gyda chanfod a gwneud diagnosis o glefydau heintus, sy'n rhywbeth y mae’r pandemig Covid wedi ei amlygu fel maes hollbwysig mewn system gofal iechyd modern.

"Gwnaeth astudio Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor roi’r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth ddamcaniaethol yr oeddwn eu hangen i symud ymlaen i swydd labordy ymarferol. Gwnaeth Gwobr Cyflogadwyedd Bangor hefyd roi'r mentergarwch i mi fynd allan a chael profiad gwaith gwerthfawr a alluogodd i mi symud ymlaen yn gyflym i fod yn wyddonydd Gwyddorau Biofeddygol mewn Microbioleg wedi'i gofrestru â’r HCPC." 

 

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?