Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Callum Murray

Wnes i gyfarfod â fy nghyflogwr presennol trwy fy mhroject trydedd flwyddyn.

Callum Murray

Callum Murray 

Cyfarwyddwr Creadigol yn Cufflink
Astudiodd: BSc Technolegau Creadigol, 2019

Penderfynais astudio ym Mhrifysgol Bangor ar ôl cymryd blwyddyn i ffwrdd, gan fy mod eisiau datblygu fy addysg ym maes cyfrifiadureg a dylunio. Roedd y lleoliad ei hun yn apelio’n fawr ataf, gan fy mod yn unigolyn anturus sy'n hoff o'r awyr agored!

Callum Murray

"Roedd y cwrs ei hun yn caniatáu i mi archwilio ochr greadigol a thechnegol rhaglennu cyfrifiadurol a dylunio. Roedd hyblygrwydd modiwlau a phrojectau'r cwrs yn golygu fy mod wedi darganfod diddordeb mewn dylunio UX a fyddai'n fy arwain at fy swydd gyntaf yn y diwydiant. 

"Fel Cyfarwyddwr Creadigol yn Cufflink, mae fy swydd yn amrywiol iawn. Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth ac mae hynny’n rhan annatod o weithio i fusnes newydd. Mae her newydd i'w chwblhau bob amser. Ond ar y cyfan, rwy'n arwain brand a chyfeiriad creadigol cyffredinol y cwmni gyda phrif ffocws ar ddyluniad UX/UI ein rhaglen i ffonau symudol ynghyd ag arwain ein hymdrechion marchnata. 

"Roedd fy mhroject traethawd hir yn y drydedd flwyddyn yn help mawr i mi ar y llwybr i'm gyrfa bresennol. Gwnaeth cymryd rhan mewn sesiwn o gyflwyniadau i fyfyrwyr ar eu blwyddyn olaf fy ngalluogi i siarad â busnesau lleol am fy mhroject a fy sgiliau, a dyma sut y gwnes i gwrdd â'm cyflogwr presennol.  

“Mae'r addysgu a gynigir ym Mhrifysgol Bangor o’r ansawdd uchaf ac mae'r cyrsiau a'r modiwlau wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau diweddaraf rydych eu hangen i fynd i'r byd gwaith." 

"Mae gan Brifysgol Bangor y cwbl; byddwch yn mwynhau bywyd cymdeithasol da, gwneud ffrindiau gwych, a bydd o gymorth mawr i’ch herio i fentro a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!"

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?