Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Dr Aaron Jackson

Mae Cyfrifiadureg yn gysylltiedig â chymaint o'r byd modern.

Dr Aaron Jackson

Dr Aaron Jackson 

Uwch Arbenigwr Isadeiledd yng Nghanolfan Gwybodeg Iechyd, Prifysgol Dundee
Astudiodd: BSc Cyfrifiadureg, 2015

Mae Bangor yn lle braf iawn i fod gyda pharc cenedlaethol y gellir mynd iddo’n rhwydd ar daith fer ar fws. Hefyd, gwnaeth Bangor gynnig lle i mi astudio ar ôl cael cyfweliad, gan roi blaenoriaeth i fy niddordeb a brwdfrydedd am Gyfrifiadureg yn hytrach na’r ffaith nad oedd gen i Lefel A ddigon da mewn pynciau anghysylltiedig.

Dr Aaron Jackson

"Mae Cyfrifiadureg yn bwnc anhygoel i'w astudio oherwydd ei fod mor gysylltiedig â'r byd modern. Bydd cael dealltwriaeth dda o hanfodion cyfrifiadureg yn ddefnyddiol, waeth beth fyddwch chi'n ei wneud yn ddiweddarach mewn bywyd. 

"Arweiniodd fy niddordeb mewn adnabod patrymau a dysgu peirianyddol i mi gydweithio ar brojectau gydag un o fy Athrawon. Arweiniodd y gwaith hwn at ddau gyhoeddiad a gefnogodd fy nghais i wneud PhD ym Mhrifysgol Nottingham.

"Yn fy swydd bresennol yn y Ganolfan Gwybodeg Iechyd, rydym yn darparu amgylcheddau cyfrifiadureg ymchwil diogel i fiowybodegwyr ddadansoddi data na fyddent fel rheol yn gallu cael mynediad atynt oherwydd natur sensitif data meddygol. Mae'r rhan fwyaf o fy ngwaith yn cynnwys ceisio gwella'r amgylchedd ymchwil hwn mewn ffyrdd sy'n atgynyrchadwy ac yn hawdd eu defnyddio, tra’n sicrhau diogelwch a phrofiad da i ddefnyddiwr.

"Roedd y cyfleoedd academaidd ym Mangor yn wych; rwy’n gweithio gyda phobl wych heddiw oherwydd y llwybr y dechreuais ei ddilyn ym Mangor. Mae'n ddinas fach, ond mae hyn yn arwain at gyfeillgarwch agos, i’r fath raddau fel fy mod yn dal i fyw gyda fy nghydletywr a ffrind o fy ail flwyddyn. 

"Rwy'n credu bod Bangor yn cynnig popeth y byddech ei eisiau o fywyd prifysgol - cyfleoedd i gael rhagoriaeth academaidd, y rhyddid i fwynhau natur, ac efallai gormod o dafarndai! Ewch yno gyda meddwl agored, gweithiwch yn galed, a mwynhewch eich hun. Byddwch yn gadael gydag atgofion gwych a gradd o ansawdd." 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?