Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Dr Britta Ismer

Agorodd Bangor nifer o ddrysau i mi.

Dr Britta Ismer

Dr Britta Ismer 

Rheolwr Tîm Clinigol yn ICON
Astudiodd: BSc Bioleg Canser, 2013 

Roeddwn yn gwybod fy mod eisiau astudio pwnc y gallwn ei ddefnyddio yn ddiweddarach mewn bywyd i helpu pobl. Roedd gen i ddiddordeb mewn Bioleg erioed, ond doeddwn i ddim eisiau dysgu am anifeiliaid na phlanhigion; roedd gen i ddiddordeb mewn sut mae'r corff yn gweithio, sut rydw i'n gweithio.

Dr Britta Ismer

"Pan welais fod Bangor yn cynnig Bioleg Canser, roeddwn yn gwybod mai dyna oeddwn eisiau ei wneud.  
"Gwnaeth fy nghwrs ym Mhrifysgol Bangor roi'r wybodaeth sylfaenol i mi am Fioleg Canser, ac rwyf wedi adeiladu arni ers hynny. Gwnaeth fy nghwrs fy ngalluogi i arbenigo yn gynnar iawn mewn pwnc roeddwn yn ei fwynhau ac eisiau datblygu gyrfa ynddo. Agorodd nifer o ddrysau i mi fel fy mod wedi gallu arbenigo yn y maes mor gynnar a chael fy nerbyn i wneud PhD yn y Ganolfan Ymchwil Canser enwog yn yr Almaen. 

"Yn fy swydd bresennol, rwy'n arwain ac yn rheoli gweithrediad un neu fwy o astudiaethau clinigol, o ddechrau’r astudiaethau i ryddhau cronfeydd data. Fel aelod craidd o'r Tîm Astudio, mae gen i oruchwyliaeth ranbarthol, rwy’n ysgogi’r broses o wneud penderfyniadau, yn darparu arweinyddiaeth, ac yn hyrwyddo ansawdd a rhagoriaeth gyson. Mae'n rhaid i mi asesu risgiau a phenderfynu ar y strategaethau lliniaru gorau a sicrhau bod fy nhîm clinigol yn cwrdd â'r disgwyliadau penodol, er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cleifion yn ddiogel a chadw data a gesglir at safonau rheoliadol. 

"Trwy astudio, dysgais sut i gymell fy hun a gwneud fy ngorau bob amser. Dysgais fod gwaith caled yn talu ar ei ganfed.  

“Trwy wirfoddoli gyda RAG a bod yn rhan o Glwb Athletau Bangor, dysgais sut i ysgogi pobl a sut i ymwneud ag eraill. Dysgais sut i ddatrys problemau a rheoli gwrthdaro, i ffurfio timau anhygoel." 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?