Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Jonathan Cliffe

Wnes i wir ddysgu beth oedd bydwreigiaeth ym Mangor.

Jonathan Cliffe

Jonathan Cliffe 

Arweinydd Tîm Bydwragedd yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Addysgu Warrington a Halton
Astudiodd: Baglor mewn Bydwreigiaeth, 2015 

Daeth Prifysgol Bangor o hyd i mi. Ar ôl proses hir o wneud cais i UCAS, wnes i gyrraedd rhestr wrth gefn y brifysgol. I ddechrau, nid Bangor oedd fy newis cyntaf ond rwyf mor falch eu bod wedi dod o hyd i mi. Gwnaeth y bobl, y golygfeydd a'r iaith Gymraeg fy amser ym Mangor yn un o dair blynedd orau fy mywyd.

Jonathan Cliffe

"Ym Mangor wnes i wir ddysgu beth oedd bydwreigiaeth. Cefais fy nysgu gan grŵp anhygoel o fydwragedd, gwnaeth bob un ohonynt fy siapio i fod y fydwraig ydw i heddiw. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n dewis gyrfa mewn bydwreigiaeth i ddechrau astudio bydwreigiaeth yn ardal wledig gogledd Cymru. 

"Mae bydwragedd yn bobl freintiedig sy'n cael rhannu eiliadau gwerthfawr gyda merched, ac maent yn ymddiried ynom ni i chwarae rhan hanfodol yn eu profiad o roi genedigaeth. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod arbennig. 

“Gwnaeth y dysgu cyfunol o theori ac elfennau ymarferol ym Mangor fy mharatoi i gymhwyso fel bydwraig hyderus yn barod i ddechrau ar fy ngyrfa yn y GIG. 

"Yn ystod fy nghyfnod ym Mangor, cwblheais y Wobr Cyflogadwyedd, a deuthum hefyd yn gynrychiolydd cwrs, ac yn y pen draw roeddwn yn cynrychioli addysg bydwreigiaeth yng Ngogledd Cymru ar lefel genedlaethol yng Nghymru.  

“Ar ôl graddio cefais fy mhenodi’n aelod o fwrdd y British Journal of Midwifery, ac yna fel aelod o fwrdd y National Practicing Midwife Journal.

“Un o’r pethau rwyf wedi eu dysgu yn ystod y pandemig byd-eang hwn yw bod yn ddiolchgar am y presennol. Rwy'n hynod hapus ac yn fodlon ar fy swydd fel bydwraig. 

“Bangor fydd fy ail gartref bob amser a bydd y bobl y gwnes i eu cyfarfod yn cael eu hystyried yn ffrindiau a theulu gydol oes." 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?