Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Sami Omari

Gan Fangor cefais yr hyn yr oeddwn ei angen i lwyddo.

Sami Omari

Sami Omari

Rheolwr Ardal yn Amazon
Astudiodd: BA Llenyddiaeth Saesneg a Newyddiaduraeth, 2015

Roedd fy nghyfnod ym Mangor yn wych. Roedd yr amrywiaeth fawr o unigolion wnes i eu cyfarfod a gwneud ffrindiau go iawn, gydol oes gyda nhw yn gyfle prin.

Sami Omari

"Gan Fangor cefais yr hyn yr oeddwn ei angen i lwyddo mewn amrywiaeth o  swyddi a diwydiannau. Mae'r sgiliau dadansoddi oedd eu hangen trwy gydol fy ngradd wedi ffurfio'r ffyrdd rwy’n mynd ati i wneud tasgau mewn amgylchedd proffesiynol.

“Mae fy nghyflogwr presennol yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel un o’r cwmnïau sy’n canolbwyntio fwyaf ar ddata/metrigau drwy’r byd. Mae'r gallu i roi sylw manwl i bethau, a ddatblygais yn ystod fy ngradd, bellach yn rhan hanfodol o fy mywyd o ddydd i ddydd.  

"Rwy'n gweithio ar hyn o bryd mewn canolfan gyflawni robotig 270,000m2 lle, o ddydd i ddydd, rwy'n rheoli tîm o 40-120 o bobl ac arweinwyr i gyflawni archebion cwsmeriaid. Ochr yn ochr â hynny, gallaf fod yn gyfrifol am brojectau a chynlluniau safle cyfan sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd, cynhyrchedd ac ymgysylltu â gweithwyr.

"Fy nghyngor fyddai ymweld â Bangor, crwydro o  amgylch y ddinas a'r ardaloedd cyfagos a gwybod bod eich dyfodol academaidd mewn dwylo diogel."

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?