Fy ngwlad:

Asesu a Hyb Llythrennedd CAL:ON 

Pecyn Gwaith 3 
Mae Pecyn Gwaith 3 yn canolbwyntio ar asesu ac arloesedd digidol. O dan arweiniad Prifysgol Bangor, ac mewn cydweithrediad ag Oxford Education & Assessment, mae’r maes hwn yn darparu offer sgrinio digidol dwyieithog ar gyfer pwyntiau pontio allweddol, er enghraifft dechrau’r ysgol, Blwyddyn 3, Blwyddyn 7. Mae’r offerynnau yn cynnwys Sgrin Iaith, Sgrin Darllen, Sgrin Darllen Cynnar, a’r Sgrin Darllen a Deall newydd. Mae’r rhain yn galluogi athrawon i adnabod disgyblion sydd mewn perygl o gael anawsterau darllen neu iaith ac i olrhain cynnydd drwy ddefnyddio data dibynadwy, sy’n alinio â’r cwricwlwm.