ARWEINYDDIAETH
Manon yw Cyfarwyddwr Canolfan Dyslecsia Miles yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei gwaith yn rhychwantu cwestiynau gwyddor sylfaenol a archwilir drwy niwrowyddoniaeth wybyddol darllen a dwyieithrwydd, i’w chymhwyso i ymyriad darllen ar raddfa fawr mewn ysgolion. Mae hi hefyd yn gweithio ar ddysgu proffesiynol ac arweiniad i addysgwyr.
Mae Cameron yn Ddarlithydd yn Adran Addysg, Prifysgol Efrog ac yn Gydymaith Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor. Ei arbenigedd ymchwil yw datblygu sillafu, gweithredu a gwerthuso ymyriadau llythrennedd ar raddfa fawr mewn ysgolion, a dylunio a gwerthuso dysgu proffesiynol i addysgwyr mewn dosbarthiadau prif ffrwd.
Y TÎM
Afsaneh Alizadeh-Alamdari
Mae Afsaneh yn gweithio ar y prosiect RILL Saesneg. Mae hi yn fyfyriwr israddedig trydedd flwyddyn yn astudio Seicoleg a Niwroseicoleg. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithio mewn uwch swyddi arweinyddiaeth yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn cefnogi pobl â heriau iechyd meddwl, dysgu byd-eang ac anableddau deallusol, ac awtistiaeth, yn y gymuned.
Joanna Archibald
Ar hyn o bryd mae Jo yn gweithio ar ddatblygu cynnwys datblygu proffesiynol atyniadol ac ar ddatblygu’r rhaglen ddwyieithog Darllen i Ddysgu. Daw Jo ag ugain mlynedd o brofiad addysgu i’r prosiect. Wedi gweithio’n ddiweddar gyda Phrifysgol Rhydychen ar hap-dreial dan reolaeth addysg a seicoleg ar raddfa fawr, mae ei phrofiad yn dwyn ynghyd y byd addysg a’r byd ymchwil.
Dr. Astrid Bowen
Mae Astrid yn cydlynu datblygu’r deunyddiau dysgu proffesiynol. Mae Astrid yn gyn athrawes, ac mae ei harbenigedd ymchwil mewn gwerthuso addysgol ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn yr ystafell ddosbarth.
Estelle Crossley
Ar hyn o bryd mae Estelle yn gweithio ar ddatblygu’r cynnwys dysgu proffesiynol digidol ar-lein. Yn ddiweddar cwblhaodd Estelle MSc mewn Seicoleg mewn Addysg ac mae ganddi brofiad o gefnogi prosiectau ymchwil graddfa fawr. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar hybu ymarfer cynhwysol a seiliedig ar dystiolaeth mewn addysg.
Medi Davies
Mae Medi yn gweithio ar ddatblygu mesurau asesu’r Gymraeg. Cyn hynny bu’n gweithio ar y prosiect RILl yn 2025. Mae gan Medi BA mewn Cymraeg a Drama a thystysgrif Addysg ôl-raddedig. Mae’n meddu ar ugain mlynedd o brofiad fel athrawes gynradd gyda phlant o 4-11 oed.
Carly DeLuca
Mae Carly wedi bod yn rhan o dîm prosiect RILL ers y tair blynedd ddiwethaf. Bu’n gweithio ar agweddau amrywiol o ddatblygiadau a gwerthusiadau blaenorol RILL, yn cynnwys creu deunydd, casglu a phrosesu data. Mae gan Carly BSc mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd yn ogystal ag MSc mewn Niwroddelweddu o Brifysgol Bangor.
Kayleigh Doyle
Mae gwaith Kayleith yn canolbwyntio ar asesu sgiliau iaith a llythrennedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae ganddi brofiad proffesiynol eang mewn sawl cyd-destun addysgol, o flaen myfyrwyr ac mewn swyddi gweinyddol. Mae hi wedi cydweithio’n agos gydag arweinwyr ysgol, addysgwyr a phlant a phobl ifanc ar brosiectau ymchwil oedd yn amrywio o astudiaethau ethnograffig bach i dreialon effeithlonrwydd mawr mewn ysgolion.
Dr Gwennant Mai Evans-Jones
Mae Gwennant wrthi’n cydlynu datblygiad y RILL Cymraeg a deunyddiau Dosbarth Cyfan OxEd, yn ogystal ag asesiadau Cymraeg. Bu’n rhan o’r tîm ers 2020, yn arwain ar ddatblygu deunyddiau RILL a chydlynu astudiaethau gwerthuso. Mae ganddi BSc mewn Seicoleg gyda Datblygiad Plant ac Iaith, MSc mewn Ymchwil Seicolegol a Doethuriaeth mewn Niwrowyddor Wybyddol. Ochr yn ochr â’i gwaith ymchwil, mae ganddi brofiad ymarferol mewn addysg gynradd, wedi rhoi cymorth un i un i blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn tair ysgol gynradd.
Helena Griffith
Mae Helena yn gweithio ar y RILL Cymraeg. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Caer gyda BSc mewn Seicoleg. Mae hi eisoes wedi bod yn gweithio ar y prosiect RILl yn ystod haf 2003 a 2024.
Catrin Hall
Athrawes ysgol gynradd yw Catrin sydd ar secondiad yn gweithio ar fersiynau Cymraeg yr OxEd Whole Class a’r Darllen i Ddysgu. Mae ganddi 13 blynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant rhwng 3-7 oed. Mae ganddi BA mewn Astudiaethau Plentyndod.
Becca Henderson
Becca sy’n gyfrifol am bopeth gweinyddol i CAL:ON. Mae hi wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn yn cynorthwyo ymchwil y claf a moeseg yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ac ar un adeg roedd hi’n weinyddydd ar y prosiect RILL.
James Hodgetts
Ar hyn o bryd James sy’n arwain ar y pecyn gwaith sy’n rhoi sylw i Ymyriadau Iaith a Llythrennedd. Bu’n gweithio ar werthuso’r RILL ers y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ganddo BSc mewn Chwaraeon a Seicoleg Ymarfer ac MSc mewn Seicoleg Fforensig ac mae wrthi’n cwblhau ei Ddoethuriaeth mewn Seicoffisioleg, yn asesu rhagfynegyddion ymyriadau bioadborth.
Mabli Hughes
Mae Mabli yn fyfyriwr trydedd flwyddyn israddedig mewn Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n gweithio ar y prosiect RILL.
Eleri Jones
Mae Eleri yn athrawes uwchradd newydd ymddeol yn gweithio ar y Darllen i Ddeall (fersiwn Gymraeg). Wedi graddio gyda BA mewn Cymraeg a chwblhau ei TAR, bu’n gweithio mewn gwahanol swyddi mewn pum ysgol uwchradd yn ystod 35 mlynedd ei gyrfa. Yn ei rôl ddiweddaraf roedd hi’n Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys cyfrifoldeb dros ymyriadau darllen. Mewn swyddi cynt bu’n gyfrifol am lythrennedd ar draws y cwricwlwm. Mae Eleri hefyd wedi cymryd rhan mewn datblygu asesiadau dysgu a chreu adnoddau addysgu a dysgu.
Lowri Jones
Mae Lowri yn fyfyriwr seicoleg trydedd flwyddyn. Bu’n rhan o brosiect RILl ers 2025.
Caroline Korell
Mae Caroline wrthi’n datblygu a golygu’r deunyddiau dysgu proffesiynol. Mae gwaith Caroline yn canolbwyntio ar ddatblygiad iaith gynnar, rhoi ymyriadau ar waith sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chyfnewid gwybodaeth gydag ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar. Mae ganddi brofiad helaeth o reoli hap-dreialon rheoledig ar raddfa fawr a rhaglenni dysgu proffesiynol i addysgwyr.
Sarah Loader
Ymgynghorydd llythrennedd yw Sarah ac arbenigwr darllen a chaffael iaith. Ar hyn o bryd mae hi’n arwain ar ddatblygu Darllen i Ddeall. Mae ei phortffolio yn cynnwys ymchwil a hyfforddiant ar strategaeth a gweithredu llythrennedd, yn ogystal ag ysgrifennu adnoddau darllen craidd ac ymyriad ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd.
Gwenan Mair Lockley
Mae Gwenan yn gyn ddirprwy bennaeth ac athrawes arweiniol cynradd iaith, llythrennedd a chyfathrebu gyda dros ugain mlynedd o brofiad. Tra’n gweithio mewn ysgolion dwyieithog ac amlieithog yng Ngheredigion, Conwy a Gwynedd, roedd hi hefyd yn gweithio fel mentor llythrennedd i Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru. Mae Gwenan yn arwain ar ddatblygu Darllen i Ddeall trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddi radd B.Mus a thystysgrif addysg ôl-radd o Brifysgol Bangor.
Madeleine Ornsby
Mae Madeleine yn gweithio ar hyn o bryd ar y prosiect RILL Saesneg. Mae hi yn fyfyriwr Seicoleg israddedig yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi wedi gweithio ar agweddau o fersiynau blaenorol o’r RILL.
Ceri Owens
Athrawes gynradd yw Ceri ar secondiad o ysgol yng Ngogledd Cymru, yn gweithio gyda phlant 3-11. Mae hi’n helpu gyda datblygu’r deunyddiau dysgu proffesiynol a’r sgrîn darllen a deall.
Mererid Owen
Mae Mererid yn athrawes ysgol gynradd ar secondiad. Mae hi’n gweithio ar fersiynau Cymraeg yr OxEd Whole Class a’r RILL Dosbarth Cyfan. Mae hi’n meddu ar ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn gweithio gyda phlant 4-11 oed. Mae ganddi BA mewn Llenyddiaeth Gymraeg a bu’n gydlynydd llythrennedd mewn tair ysgol wahanol yn ystod ei gyrfa.
Yn ystod 2022-23 bu’n gweithio fel Tiwtor Cymraeg RILL ym Mhrifysgol Bangor, yn helpu i ddatblygu adnoddau a dosbarthiadau dosbarth cyfan, cynnal sesiynau hyfforddi a phrofi plant yn y broses hap-dreialon dan reolaeth.
Ferrida Ponce
Ar hyn o bryd mae Ferrida yn helpu i gyflwyno ymyriadau iaith a llythrennedd. Bu’n rhan o’r casglu data ar raddfa fawr a’i ddadansoddi mewn fersiynau blaenorol o’r prosiect RILL. Mae gan Ferrida BSc mewn Seicoleg, MSc mewn Niwroddelweddu ac mae hi wrthi’n cwblhau ei PhD ar ffactorau amgylcheddol a’u heffaith ar weithrediad yr ymennydd.
Josie Ryan
Josie yw’r Swyddog Cyfathrebu a’r ysgrifennwr copi proffesiynol i CAL:ON. Dechreuodd ei gyrfa yn dysgu Saesneg ac yna symudodd i ymchwilio a darlithio mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo mewn Ieithyddiaeth Wybyddol a dadansoddi disgwrs.
Dr. Cadi Sion
Mae Cadi yn gweithio ar gyflwyno ymyriadau iaith a llythrennedd. Mae ganddi radd yn y Gyfraith, MA mewn Dwyieithrwydd ac yn ddiweddar, cwblhaodd Cadi Ddoethuriaeth mewn Addysg. Roedd ymchwil ei doethuriaeth yn gwerthuso dulliau addysgeg ac arferion trawsieithu mewn ysgolion uwchradd, gyda sylw arbennig ar strategaethau dosbarth cynhwysol.
Dr. Joseph Smith
Joseph yw Rheolwr Canolfan CAL:ON Cymru. Mae yn ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth sydd wedi bod yn gweithio gyda’r Athro Jones ers 2023. Wedi gorffen ei PhD, a oedd yn rhychwantu nifer o brosiectau arbrofol i ymchwilio i ddibynadwyedd treialon clinigol mesurau cyseiniant magnetig a niwroffisioleg, daeth Joseph yn Rheolwr Gweithrediadau yn labordy yr Athro Jones. Erbyn hyn mae’n helpu i arwain a rheoli pob prosiect o dan ambarél CAL:ON Cymru.
Gwynne Vaughn
Ar hyn o bryd mae Gwynne yn gweithio gyda thîm Llythrennedd CAL:ON Cymru. Mae ganddo BSc (Econ) mewn Economeg, TAR a CPCP. Mae ganddo 34 blynedd o brofiad o weithio gyda phlant rhwng 4-11 oed mewn gwahanol ysgolion. Bu Gwynne yn Bennaeth ysgol am ddeunaw mlynedd.
Dr. Richard Watkins
Mae Richard yn arwain ar ymgysylltiad awdurdodau lleol ac ysgolion i CAL:ON Cymru. Ef yw’r prif Ddarlithydd mewn Ymchwil ac Ymholiad mewn Ysgolion yn Adran Addysg a Phlentyndod Prifysgol Wrecsam ac mae’n Uwch Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor. Mae gwaith a diddordebau Richard yn canolbwyntio ar gymhwyso strategaethau addysgu seiliedig ar dystiolaeth mewn ysgolion a defnydd athrawon o ymchwil ac ymholiad i wella canlyniadau i ddysgwyr. Mae ef hefyd yn Athro Cyswllt Anrhydeddus yn yr Ysgol Addysg, Cyfathrebu a Gwyddorau Dysgu ym Mhrifysgol Warwick.
PARTNERIAID Y PROSIECT
Yr Athro Charles Hulme FBA
Mae Charles Hulme yn Athro Emeritws Seicoleg ac Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni deillio Prifysgol Rhydychen, sef OxEd Ltd.
Mae ei waith wedi creu cynnydd yn y ddealltwriaeth o rôl sgiliau iaith mewn dysgu darllen ac mae wedi arwain at ddatblygu rhaglenni ymyrryd a brofwyd eu bod yn gwella sgiliau iaith a llythrennedd plant.
Sarah Hearne
OxEd Ltd.
Mae Sarah yn Rheolwr Rhaglen sy’n arbenigo mewn cynllunio, cyflwyno a gwella rhaglenni addysg a hyfforddiant ledled y DU ac ar draws y byd, gan gefnogi cenhadaeth OxEd i wella canlyniadau iaith a llythrennedd llafar plant drwy brofiadau dysgu o safon uchel sy’n cael eu hategu gan ymchwil.
Yr Athro Dominic Wyse
Sefydliad Addysg UCL
Canolfan Addysgeg Helen Hamlyn (0 i 11 oed) (HHCP)
Cadeiryd Uned Asesu 23 Canolfan Is-Banel Addysg i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU
Mae Dominic yn Athro Addysg Blynyddoedd Cynradd a Chynradd ac yn partneru â CAL:ON Cymru gyda sylw ar Ddysgu ac Arweiniad Proffesiynol. Drwy ei waith mae wedi gwneud cyfraniad blaenllaw yn rhyngwladol i addysgu darllen ac ysgrifennu, ac i astudiaeth o gwricwlwm, addysgeg ac asesu. Mae ei ymchwil wedi cynnwys hap-dreialon dan reolaeth, ymchwil ansoddol gynhwysfawr, a chynlluniau dulliau cymysg.
Dr Angella Cooze
Mae Angella yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe. Yn dilyn gyrfa fel athrawes Saesneg mewn ysgolion yn Ne Cymru, bu Angella yn gweithio mewn addysg athrawon, gyda sylw arbennig ar Saesneg a llythrennedd ers 2003. Mae gan Angella brofiad helaeth o weithio gydag athrawon yng Nghymru i ddatblygu llythrennedd ac mewn dysgu proffesiynol. Yn ystod ei gyrfa mae hi hefyd wedi datblygu cyrsiau i helpu athrawon i ddatblygu sgiliau iaith eu disgyblion. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn llythrennedd ddisgyblaethol a darllen a deall, yn arbennig mewn ysgolion uwchradd.