I bwy mae hwn? Blynyddoedd 3 a 4 – y dosbarth cyfan
Pa mor hir yw'r rhaglen? Pedwar sesiwn yr wythnos dros 20 wythnos
Pa adnoddau a ddarperir? Gweithgareddau datblygu llythrennedd gan gynnwys ffoneg a datgodio, gwybodaeth am eirfa ac rhuglder darllen.
Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar raglen o'r enw Llythrennedd Seiliedig ar Ymchwil gydag Iaith (RILL), sydd wedi'i chynllunio i wella sgiliau darllen ac iaith mewn plant ysgol gynradd.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i ddosbarthiadau cyfan o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 3 a 4 ar draws ysgolion yng Nghymru. Bydd athrawon yn cyflwyno gweithgareddau llythrennedd byr bedwar diwrnod yr wythnos dros tua 20 wythnos fel rhan o addysgu rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r gwersi'n canolbwyntio ar sgiliau allweddol sy'n cefnogi darllen, gan gynnwys ffoneg a datgodio (seinio geiriau), gwybodaeth am eirfa, a rhuglder darllen.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i'w chyflwyno ochr yn ochr â grwpiau bach Ymyrraeth RILL.
Byddwn yn sicrhau bod ein holl adnoddau ar gael ym mis Medi 2026, a byddwn yn treialu eu heffeithiolrwydd ar yr un pryd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad i unrhyw un o'n hadnoddau a chymryd rhan yn y cyfnod prawf ym mis Medi 2026, cysylltwch â calonysgol@bangor.ac.uk