Fy ngwlad:

Adolygiad Cymheiriaid Mewnol Ceisiadau Grant

Mae cyflwyno ceisiadau grant i broses Adolygiad Cymheiriaid Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn ofynnol ar gyfer pob cais am grant. Mae tystiolaeth gan sefydliadau eraill yn dangos bod adolygiad cymheiriaid ffurfiol yn gwella ansawdd ceisiadau grant yn sylweddol, ac yn arwain at gyfraddau llwyddiant gwell.

Er y bydd rhai ceisiadau wedi’u heithrio o’r gofyniad am adolygiad cymheiriaid ffurfiol (gweler y rhestr isod) bydd yn ofynnol i BOB cais grant gael ei gyflwyno i’r system adolygu er mwyn sicrhau trywydd archwilio cyson o geisiadau ar lefel Coleg, gan gynnwys monitro canlyniadau a chyfraddau llwyddiant. Sylwch, mae croeso i chi wneud cais am adolygiad mewnol o geisiadau, hyd yn oed os ydynt wedi'u heithrio.

Y BROSES GYFLWYNO

Ceisiadau sydd wedi'u heithrio o adolygiad mewnol

O LEIAF 4 wythnos cyn dyddiad cau’r cyllidwr:

  1. Sicrhewch fod eich Pennaeth Ysgol yn ymwybodol o'ch bwriad i gyflwyno, a'i fod wedi cael ei friffio'n llawn ar unrhyw oblygiadau ariannol neu adnoddau.
  2. Cwblhewch y profforma Adolygiad Cymheiriaid a nodwch y rheswm pam fod eich cais wedi'i eithrio rhag adolygiad mewnol.
  3. Cyflwynwch y profforma wedi'i chwblhau i cahssresearch@bangor.ac.uk, gan ddefnyddio'r llinell bwnc ADOLYGIAD CYMHEIRIAID GRANT.

Yr holl geisiadau eraill

O LEIAF 4 wythnos cyn dyddiad cau’r cyllidwr:

  1. Sicrhewch fod eich Pennaeth Ysgol yn ymwybodol o'ch bwriad i gyflwyno, a'i fod wedi cael ei friffio'n llawn ar unrhyw oblygiadau ariannol neu adnoddau;
  2. Ewch ati i greu project yn Worktribe a nodwch gostau llawn y project. Bydd eich Swyddog Cefnogi Ymchwil ac Effaith/Swyddfa Cefnogi Ymchwil ac Effaith (fel arfer Dr Hazel Robbins) yn gallu helpu gyda hyn;
  3. Ychwanegwch eich Pennaeth Ysgol fel ‘Golygydd’ ar y project Worktribe. PEIDIWCH â chlicio ar 'Cyflwyno am Gymeradwyaeth' ar hyn o bryd;
  4. Cwblhewch destun eich cais fel PDF gan ddefnyddio'r fformat a'r penawdau sy'n ofynnol gan eich cyllidwr. Gall hwn fod ar ffurf drafft ond dylai fod yn gyflawn i raddau helaeth. Dylech gynnwys adran sy'n esbonio a chyfiawnhau'r adnoddau y gofynnir amdanynt, os oes angen hyn ar eich cyllidwr;
  5. Dylech uwchlwytho’r PDF o destun y cais i'ch project Worktribe;
  6. Cwblhewch y profforma Adolygiad Cymheiriaid a’i hanfon dros e-bost at cahssresearch@bangor.ac.uk gan ddefnyddio'r llinell pwnc ADOLYGIAD CYMHEIRIAID GRANT.

Llinell Amser yr Adolygiad

Anfonir ceisiadau at o leiaf un adolygwr, a darperir adborth ysgrifenedig o fewn 2 wythnos. Yn dilyn adolygiad, byddwch yn gallu adolygu eich testun, ei fewnbynnu i system ar-lein eich cyllidwr (os yw'n berthnasol) a chlicio cyflwyno. Byddwch hefyd yn cwblhau ac yn cyflwyno eich project Worktribe.

Eithriadau

Mae'r ceisiadau canlynol wedi'u heithrio o'r gofyniad am Adolygiad Cymheiriaid ffurfiol, ond dylech gwblhau a chyflwyno'r profforma Adolygiad Cymheiriaid o hyd.

  • Ceisiadau gyda chost i'r cyllidwr o lai na £20k
  • Cyllid na fydd yn cael ei godio fel Ymchwil (e.e. ymgynghoriaeth)
  • Ceisiadau nad ydynt yn cael eu harwain gan Brifysgol Bangor
  • Ceisiadau nad ydynt yn cael eu harwain gan Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas
  • Estyniadau i broject presennol
  • Projectau o fewn partneriaeth ariannu barhaus
  • Partneriaethau SMART neu debyg
  • Ceisiadau am gyllid mewnol Prifysgol Bangor
  • Ceisiadau oportiwnistaidd neu ar gyfer rhywun arall

Hyd yn oed os yw ceisiadau wedi'u heithrio, mae croeso o hyd i chi wneud cais am Adolygiad Cymheiriaid ffurfiol os byddai'n ddefnyddiol i chi.

Datblygu grant

Sylwch mai adolygiad cymheiriaid ffurfiol fydd, fel arfer, cam olaf cyfnod hwy o adolygu a datblygu. Anogir pob cydweithiwr yn gryf i geisio cyngor anffurfiol a mentoriaeth gan gydweithwyr yn gynnar yn y broses, cyn cyflwyno i'r system Adolygu Cymheiriaid ffurfiol.