Mae Sefydliad Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes yn rhychwantu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, ac yn cyfuno arbenigedd ar draws meysydd mewn sawl achos. Mae'r ymchwil gyffrous ac arwyddocaol a wneir gan ein hysgolion academaidd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau statws Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd, fel y cydnabuwyd yn yr asesiad o ansawdd ymchwil blaenorol (REF 2021).
Partneriaethau Ymchwil
Mae ymchwilyn y Sefydliad Ymchwil yn cael ei wneud gan unigolion a gan grwpiau a chanolfannau ymchwil. Mae'r Sefydliad yn cynnwys academyddion enwog yn ogystal ag ymchwilwyr ac ysgolheigion hynod ymroddedig ar wahanol gamau gyrfa, gan gynnwys cymuned lewyrchus o ymchwilwyr ôl-raddedig. Ceir gwybodaeth bellach am weithgareddau ymchwil pob ysgol ar eu tudalennau gwe unigol.
Strategaeth Ymchwil
Sefydliad yw hwn sy’n gwneud ymchwil arobryn, sy'n rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith ar draws meysydd pwnc sy'n cwmpasu iaith a llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r cyfryngau, astudiaethau ariannol, cyfathrebu, astudiaethau technoleg, rheoleiddio, cyfiawnder, hunaniaethau, ac astudiaethau cymunedol. Cyfunir rhagoriaeth academaidd ag ymgysylltiad cymunedol, effaith polisi, a chyfraniadau creadigol a diwylliannol, ynghyd ag ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd mewn ymchwil a thrwy ymchwil. Mae ymchwilwyr o dair Ysgol yn rhan o’r Sefydliad:
• Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
• Ysgol Busnes Bangor
• Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Fel endid a grëwyd i gefnogi ymchwil ac effaith ar draws Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, mae’r Sefydliad yn cael ei arwain gan y Cyfarwyddwr (neu gan dîm sy’n rhannu’r rôl), gan weithio gyda Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd y Coleg. Mae gan bob Ysgol Gyfarwyddwr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu sy'n gyfrifol am greu amgylchedd ymchwil bywiog a chynaliadwy o fewn yr Ysgol, gyda chefnogaeth Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-radd yr Ysgol. Ar y cyd, mae’r tîm arweinyddiaeth hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaethau ymchwil ac yn cefnogi datblygiadau thematig sy’n addas i bob Ysgol, gan gefnogi effeithlonrwydd, cydweithredu, alinio nodau a chydlyniad ar draws y Sefydliad a chydnabod pwysigrwydd amrywiaeth ac arbenigeddau unigol mewn cymuned lle ceir ffyniant a rhagoriaeth o ran ymchwil. Mae hyn yn cynnwys ymchwilwyr ar lefelau ôl-radd, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac uwch-ymchwilwyr. Gellir rhannu rôl y Cyfarwyddwyr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu, a chynnig cefnogaeth bellach trwy gyfrwng rolau arweinwyr ymchwil cysylltiedig. Ar draws pob Ysgol, mae lwfansau ymchwil a chyllid sbarduno ar gael i gefnogi ymdrechion i ddatblygu ymchwil ac effaith a chefnogaeth helaeth hefyd mewn perthynas â chyfleoedd cyllido mewnol ac allanol, ynghyd â’r cyfle i wneud cais am gyfnod o absenoldeb astudio a gyllidir gan y sefydliad.
Mae ymchwil y Sefydliad wedi ei seilio'n gadarn ar ymdeimlad o le trwy gyfrwng diwylliant, perthnasedd cymharol, cyfryngedd, llenyddiaeth, iaith, cerddoriaeth, hanes, technoleg a sefydliadau, ynghyd â diddordeb yn natur newidiol cymunedau, cenhedloedd, strwythurau llywodraethu a chyfiawnder. Adlewyrchir hyn yn ein themâu ymchwil a nodir isod, sy'n caniatáu i ymchwilwyr o bob rhan o'r Coleg a'r Brifysgol ehangach gydweithredu a chynhyrchu ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol sydd gyda'r orau yn y byd.
Nid oes bwriad i’r dull hwn hepgor nac anwybyddu meysydd rhagoriaeth ymchwil penodol y tu hwnt i'r themâu hynny, ond mae'n cynnig set ehangach o faterion thematig y gall llawer o'n hymchwil ymffurfio o'u cwmpas, ar y cyd â dau Sefydliad Ymchwil arall y Brifysgol
Mae gan Fangor draddodiad balch o ymchwil gyda'r gorau yn y byd mewn Astudiaethau Celtaidd, a ffocws neilltuol a chysylltiadau rhyngwladol parthed hanes, diwylliant, llenyddiaeth, iaith a gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r Sefydliad yn gartref i rai o brif ganolfannau ymchwil Cymru, sy'n cael eu cyfarwyddo gan haneswyr blaenllaw yn hanes Cymru, arbenigwyr yng nghyfraith Cymru, a diwylliant, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth Cymraeg a Chymreig. Mae'r rhain yn cynnwys:
• Canolfan Ymchwil Cymru
• Canolfan R.S. Thomas
• Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
• Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Tra bo’r thema hon yn rhoi lle creiddiol i Gymru, mae’r thema’n cwmpasu negodi, yn llenyddol ac yn hanesyddol, ffiniau diwylliannol yn fwy cyffredinol, yn ogystal â chysylltiadau rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig, Ewrop, a’r byd, gan archwilio pryderon a chyfraniadau lleol yng ngoleuni ffenomenau mwy pellgyrhaeddol ym maes cynaliadwyedd a thu hwnt i hynny.
Mae ein hymchwilwyr yn archwilio ac yn ymarfer agweddau ar ddiwylliant a'r celfyddydau, ac yn meithrin dealltwriaeth o elfennau'r gymdeithas sifil sy'n cryfhau gwytnwch cymunedol i ymdopi â newidiadau a heriau cyfoes. Yn seiliedig ar adnoddau archifol a chyfoes sylweddol, ynghyd â gweithgarwch artistig, maent yn cyfrannu'n weithredol at ddiwylliant cymunedol a'r celfyddydau i roi lle i astudio cymdeithas sifil ar waith. Ochr yn ochr â gweithgarwch mawr ym meysydd ysgrifennu creadigol, cyfansoddi cerddorol a pherfformio, mae ein canolfannau ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:
• Llefydd Newid Hinsawdd
• Y Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes
• Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr
• Y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin
Mae’r thema hon, yn ogystal ag ategu’r thema sy’n canolbwyntio ar Gymru, yn cwmpasu astudiaethau rhyngddisgyblaethol a rhyngddiwylliannol sy’n mynd i’r afael â lleiafrifeiddio, ymyleiddio, hunaniaethau a pherthyn, gan rychwantu diwylliannau a chymdeithasau amrywiol yn Ewrop a thu hwnt, ac yn cynnwys ymchwil sy’n canfod synergedd rhwng theori ac ymarfer perfformiadol.
Mae cymunedau ledled y byd wedi'u cysylltu mewn gwead cymhleth o lywodraethiant, cysylltiadau ariannol ac economaidd, pobl yn mudo, a chwestiynau ynghylch cwmpas a natur sefydliadau ac egwyddorion cyfiawnder. Mae diddordebau cystadleuol cymunedau lleol, cenedl-wladwriaethau, a systemau economaidd byd-eang a rhyngwladol yn gofyn am ymchwil ymatebol i reoliadau a llywodraethiant, sefydliadau ac astudiaethau cymunedol. Mae ein heconomegwyr, ein cyfreithwyr, ein gwyddonwyr cymdeithasol a'n haneswyr yn archwilio'r cysylltiadau cymhleth hynny a sut mae cwestiynau ynglŷn â phŵer, gwleidyddiaeth a heriau byd-eang yn effeithio arnynt.
Mae’r grwpiau ymchwil perthnasol yn cynnwys:
• Y Ganolfan dros Gynaliadwyedd
• Y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd
• Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)
• Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol
Saif Prifysgol Bangor mewn amgylchedd dwyieithog sy'n hwyluso'r cryfderau rhagorol sydd ganddi ym meysydd amlieithrwydd a dwyieithrwydd a defnydd iaith mewn amryw o gyd-destunau cyfathrebol, gan gwmpasu rhagoriaeth ymchwil mewn polisi a chynllunio iaith, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, dadansoddi disgwrs ac astudiaethau corpws, defnydd cymunedau a chymdeithas sifil o iaith a'r goblygiadau i hunaniaeth, yn ogystal â rôl technoleg yn natblygiad iaith. Yn ogystal, mae ymchwil yn y thema hon yn codi cwestiynau ehangach am berthynas iaith a chyfathrebu fel math o bŵer, trwy gyfathrebu corfforaethol, moeseg, newyddiaduraeth, cyfathrebu perswadiol a'r cyfryngau. Yn y thema hon, gweithiwn yn ddygn gyda chydweithwyr ledled y Brifysgol ac yn benodol, cydweithwyr yng Nghanolfan Bedwyr a'r Uned Technolegau Iaith. Mae ein canolfannau ymchwil a'n rhwydweithiau'n cynnwys:
• Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru
• Rhwydwaith Astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu Perswadiol
• Rhwydwaith Ymchwil Technoleg ac Iaith
• Y Labordy Adfywio Iait
Blaenoriaethau Strategol y Coleg ar gyfer Ymchwil
Mae'r strategaeth hon yn ystyried bod ymchwil yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, cyhoeddi, denu grantiau, ymgysylltu ac estyn allan, llwybrau at effaith, arloesi a chyfnewid gwybodaeth.
Caiff Blaenoriaethau Strategol y Sefydliad ar gyfer Ymchwil eu llunio yng nghyd-destun ymrwymiad Prifysgol Bangor i Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac Egwyddorion Cynaliadwyedd. Mae ymchwil yn y Sefydliad yn ystyried yr un Egwyddor Datblygu Cynaliadwy; y bedair colofn cynaliadwyedd; y pum ffordd o weithio tuag at gynaliadwyedd; a’r saith nod llesiant.
Mae'r Sefydliad yn hwyluso ymchwil, ymgysylltu, ac effaith rhagoriaeth ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol trwy ein themâu ymchwil, a gydnabyddir trwy gyhoeddiadau a gwobrau proffil uchel, o ansawdd uchel ac a adolygir gan gyfoedion, denu grantiau o fri a mathau eraill o gydnabyddiaeth allanol. Mae ffocws penodol neilltuol ar yr isod:
• Cefnogi Strategaeth Ymchwil ac Effaith 2030 Prifysgol Bangor y mae cynaliadwyedd yn elfen greiddiol ohoni
• Ymgorffori ymgysylltu yn rhan o’n mentrau academaidd, a thrwy hynny adeiladu llwybrau at effaith yn rhan o’r broses ymchwil o adeg llunio cynnig hyd at weithredu a lledaenu
• Mentora, adborth a chyngor mewn perthynas â syniadau ymchwil, ceisiadau grant, a gweithgarwch ymgysylltu, effaith ac arloesi
• Mynediad at ymchwilwyr y Sefydliad sydd â phrofiad o ddenu grantiau ac at aelodau paneli dyfarnu ymchwil, yn enwedig yr UKRI
• Ymgysylltu ag ymchwilwyr cenedlaethol a rhyngwladol trwy seminarau, gweithdai a chynllun ymchwilwyr ar ymweliad
• Cysylltu ein hymchwil â'r gymuned ehangach i sicrhau bod ymchwil yn cefnogi creu gwytnwch cymunedol
• Hwyluso ac ymgorffori cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu â phartneriaid allanol yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r 3ydd sector, gan atgyfnerthu cysylltiadau â chymdeithas a diwydiant
• Hwyluso ac annog cydweithio strategol ar gynigion cyllido gyda rhanddeiliaid - ymgysylltu â rhaglenni KESS a KTP ac eraill
• Codi ymwybyddiaeth yn y Sefydliad o anghenion cymdeithas a phryderon economaidd
• Gwella'r ffocws ar strategaeth ddiwydiannol foesegol, arloesedd, masnacheiddio a chysylltiadau dinesig
• Targedu meysydd o angen cymdeithasol a chyfleoedd ariannol
• Ymgysylltu â'r llywodraeth, llywio polisïau, datblygu projectau ymchwil gyda'r bwriad o lywio agendâu llywodraeth
• Cefnogi Cynllun Strategol 'Bangor 2050' Prifysgol Bangor sy'n hyrwyddo lledaeniad a’r defnydd o’r Gymraeg, trwy ymchwil ac ymarfer.
Mae'r Sefydliad yn llwyr ymrwymedig i'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr ac mae'n darparu cefnogaeth i ymchwilwyr ymhob cam o'u gyrfaoedd. Rydym yn cefnogi ymchwilwyr fel a ganlyn:
• Annog cyfranogiad rheolwyr ymchwil ac ymchwilwyr mewn rhaglenni hyfforddi perthnasol
• Cynnwys cynrychiolwyr sy’n ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym Mhwyllgor Strategaeth Ymchwil ac Effaith y Sefydliad a'i weithgareddau
• Cydnabod amrywiaeth y gweithgarwch ymchwil, ymgysylltu ac effaith sydd ar waith yn y Sefydliad gan gynnwys ymarfer creadigol fel ymchwil ac ymgysylltu diwylliannol
• Mentora i gefnogi’r gwaith o ddenu grantiau a datblygu gyrfaoedd ymchwil
• Annog a chydnabod cyfraniadau ymchwilwyr at baneli dyfarnu ymchwil, cymdeithasau dysgedig, a gwaith i gyfnodolion a gwaith golygyddol arall
• Neilltuo amser ar gyfer ymchwil trwy gefnogi’r egwyddor o sicrhau cydraddoldeb o ran amser gwarchodedig mewn ysgolion a thrwy gynnig absenoldeb astudio ledled y Sefydliad pan fo cyfiawnhad dros wneud hynny
• Cynrychioli buddiannau a llais cymuned ymchwil y Sefydliad yn y Brifysgol
• Cefnogi’r gydnabyddiaeth a roddir i ymchwilwyr trwy fesurau allanol o ragoriaeth ymchwil megis y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Mae ymchwil rhyngddisgyblaethol yn cynhyrchu ffurfiau newydd o wybodaeth, arloesedd, mewnwelediadau ac allbynnau creadigol sydd eu hangen i roi sylw i'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas yn fyd-eang. Mae'r Sefydliad yn llwyfan i annog a hwyluso gweithgarwch ymchwil, ymgysylltu ac effaith rhyngddisgyblaethol, gan gysylltu Ysgolion ar draws y Sefydliad, yn ogystal ag ar draws y tri Sefydliad yn y Brifysgol a'r Ysgolion sy’n rhan ohonynt. Gwneir hyn yn y ffyrdd canlynol:
• Trefnu digwyddiadau Sefydliad cyfan ac ar y cyd a’r sefydliadau eraill
• Cynnwys y Sefydliad yn rhan o fentrau strategol y brifysgol gyfan
• Sefydlu mecanweithiau i fonitro blaenoriaethau'r llywodraeth, a pharu ymchwilwyr a phrojectau â chynlluniau cyllid grant perthnasol cyn gynted ag y byddant ar gael
• Cefnogi cydweithredu a cheisiadau grant rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol
• Codi ymwybyddiaeth o lwyddiannau, blaenoriaethau a chryfderau ymchwil, ymgysylltu ac effaith y Sefydliad ledled y Brifysgol, y gymuned ehangach, ac yn rhyngwladol
Nod y Sefydliad yw:
• Galluogi ac annog pob ymchwilydd i wneud cais am gyllid ymchwil priodol (o ystyried lefel gyrfa a'r ddisgyblaeth benodol) ac o ansawdd uchel yn rheolaidd
• Cynyddu'n barhaus nifer ac ystod y ceisiadau grant llwyddiannus
• Ymgorffori gweithgareddau ymgysylltu ym mhob project ymchwil o'r cychwyn cyntaf
• Cynyddu nifer y cyhoeddiadau o ansawdd uchel trwy fframwaith cyhoeddi cydlynol a'r ffocws ar ansawdd yn hytrach na swmp
• Annog digwyddiadau rhwydweithio rhyngddisgyblaethol a chymryd rhan mewn nifer cynyddol o geisiadau grant rhyngddisgyblaethol
• Annog meithrin timau yn y sefydliad a thu hwnt, gyda'r bwriad o ddenu grantiau mawr.

Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes Ein Themâu Ymchwil
Mae ymchwilwyr Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn gwneud ymchwil sy'n ennill gwobrau, yn rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith. Mewn amrywiol ddisgyblaethau, rydym yn cyfuno rhagoriaeth academaidd gydag ymgysylltiad â'r gymuned, effaith ar bolisi, a chyfraniadau creadigol a diwylliannol.