Rhoddwyr o’r Unol Daleithiau
Os ydych yn drethdalwr yn yr Unol Daleithiau, mae modd gwneud rhoddion sy’n gymwys am ostyngiadau treth ar-lein neu drwy'r post.
Os ydych yn drethdalwr yn yr Unol Daleithiau ac eisiau gwneud rhodd sy’n gymwys am ostyngiad treth, gallwch wneud hynny drwy'r British Schools and Universities Foundation (BSUF) - sef sefydliad dielw a ddosbarthwyd gan Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau fel sefydliad elusennol eithriedig o dan Adran 501(c)(3).
Cyfrannu rhodd ar-lein
Gallwch gyfrannu rhodd ar-lein drwy’r BSUF gan ddefnyddio PayPal neu eich cerdyn debyd neu gredyd.
Cyfrannu rhodd drwy'r post
Os byddai'n well gennych gyfrannu drwy'r post, gallwch lawrlwytho Ffurflen rhodd y BSUF a'i hanfon, ynghyd â siec, i:
The British Schools and Universities Foundation
641 Lexington Avenue, 15th Fl.
New York, NY, 10022-4503