Bydd ein galwadau Telethon 2025 i gyn-fyfyrwyr yn cael eu cynnal rhwng 30 Hydref a 27 Tachwedd.
Bydd myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd yn eich ffonio cyn bo hir i roi diweddariad i chi am sefyllfa bresennol y Brifysgol, i ofyn i chi am eich atgofion o Fangor, ac i holi am eich hynt a’ch helynt ers i chi raddio. Rydym wrth ein bodd yn clywed sut mae eich amser yma wedi helpu i ddylanwadu ar eich taith - a sut mae’r Brifysgol yn parhau i fod yn rhan o’ch stori.
Byddant hefyd yn eich gwahodd i gefnogi Cronfa Bangor, sy’n canolbwyntio ar gyfoethogi profiad myfyrwyr trwy fentrau sy’n darparu elfen o ychwanegolrwydd - megis ysgoloriaethau, bwrsariaethau, gweithgareddau lles a chyflogadwyedd a mwy. Mae eich cefnogaeth yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr heddiw yn elwa o brofiad prifysgol sydd wedi’i lunio gan ofal, cyfle, a chyfranogiad parhaol cynfyfyrwyr.
Fel rhywun a astudiodd yn y brifysgol wych hon, rydym yn gobeithio y byddwch yn ein helpu i barhau â’r gwaith pwysig hwn. Gall eich cyfranogiad agor drysau, meithrin potensial, a grymuso cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr Prifysgol Bangor i gyflawni eu hamcanion.