Cliciwch ar un o'r cronfeydd isod i wneud eich cyfraniad ar-lein heddiw. ➜
Cliciwch ar un o'r cronfeydd isod i wneud eich cyfraniad ar-lein heddiw. ➜
Eich Effaith: Straeon a Diweddriadau!
Gweld MwyGalluogodd y grant teithio fi i gymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol a chyflwyno fy ymchwil i arbenigwyr blaenllaw ym maes Astudiaethau Celtaidd. Oherwydd y grant hwn, roeddwn yn gallu cael trafodaethau manwl gyda chyd-fyfyrwyr ac academyddion o bob cwr o'r byd. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar fy ngwaith ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y grant hwn.
Bu’r ysgoloriaeth hon yn amhrisiadwy wrth lunio fy nyfodol mewn gwyddor môr, diolch i Dr Perrin. Roedd gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr blaenllaw yn gyfle i mi ofyn cwestiynau, dysgu gan arbenigwyr, a mireinio fy nyheadau gyrfa. Dysgodd y profiad i mi fod gwyddoniaeth yn gofyn am fod yn hyblyg—mae dulliau'n newid, gall canlyniadau synnu, ac mae meddwl agored yn allweddol.
Gwneud Rhodd Cymorth (Gift Aid) – i drethdalwr cymwys Prydain
Pan rydych chi’n gwneud ‘Rhodd Cymorth’ (Gift Aid), gallwn adennill y dreth gyfradd sylfaenol a gafodd ei dalu gennych ar eich rhodd. Mae hyn yn cynyddu’ch rhodd o 25% yn rhad ac am ddim i chi.
Os ydych chi’n drethdalwr cyfradd uwch, medrwch hefyd hawlio’r gwahaniaeth rhwng y dreth gyfradd uwch a’r dreth gyfradd sylfaenol ar werth llawn eich rhodd i’r Brifysgol ar eich ffurflen treth hunanasesu.
CAF (Charities Aid Foundation)
CAF yw’r cwmni sydd yn delio gyda’n rhoddion. Am fwy o fanylion ewch i wefan CAF.
Rhoi rhodd gyda siec, cerdyn credyd neu debyd uniongyrchol
Medrwch gefnogi drwy roi rhodd mewn siec, gyda cherdyn credyd, debyd uniongyrchol, tocyn CAF neu rodd drwy restr gyflog. Ynghyd â hyn, byddwn yn hapus trafod gyda chi sut i wneud rhodd cyfranddaliadau.
I roi rhodd unwaith yn unig neu yn rheolaidd, cwblhewch y Ffurflen Rhodd a’i dychwelyd i:
Y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni
Prfysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Manylion pellach
Cysylltwch â Persida Chung, Swyddog Datblygu am ragor o wybodaeth am sut i wneud eich rhodd, ac am sut i strwythuro'ch rhodd er mwyn manteisio ar ryddhad treth i roddwyr.