Mae grant gan Gronfa Bangor wedi galluogi Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru i ddod â myfyrwyr doethurol ac ôl-ddoethurol ynghyd mewn encil preswyl yn Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd ym Mhowys. Bwriad yr encil deuddydd oedd derbyn hyfforddiant a chyfnewid gwybodaeth. Caiff Cronfa Bangor ei chynnal â rhoddion gan gyn-fyfyrwyr a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
Mae’r garfan o 14 o ymchwilwyr doethurol yn rhan greiddiol o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, ac mae pob un ohonynt yn gwneud projectau ymchwil arloesol ar amrywiaeth o themâu sy'n gysylltiedig â hanes, diwylliant a thirwedd Cymru. Gan fod yr aelodau wedi'u lleoli ym mhob cwr o’r wlad, roedd yr encil hwn yn gyfle prin i ymwneud yn ystyrlon â’i gilydd, a hynny wyneb yn wyneb, ac roedd yn gyfle amhrisiadwy i feithrin ymdeimlad o gymuned.
Dros y ddau ddiwrnod, bu’r cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol ar ysgrifennu crynodebau o bapurau cynhadledd, paratoi ar gyfer yr arholiad llafar, a gweithio ar gyhoeddiadau. Cafwyd mewnbwn gwerthfawr gan rai o gyn-fyfyrwyr y Sefydliad, a gwnaethant hefyd gymryd rhan mewn trafodaeth banel am fywyd ar ôl gorffen doethuriaeth, gan rannu eu myfyrdodau craff a’u profiadau. Mewn sesiynau dan arweiniad ymchwil a gafodd eu harwain gan fyfyrwyr doethurol presennol dangoswyd ehangder y sgiliau a'r wybodaeth sydd i’w gael o fewn y garfan, wrth iddynt rannu eu harbenigedd ymchwil o ran defnyddio a dadansoddi mathau penodol o ffynonellau gwreiddiol.
Roedd yr adborth gan y myfyrwyr yn gadarnhaol dros ben. Dywedodd un cyfranogwr:
Roedd gwybodaeth a phrofiad ymarferol y cyn-fyfyrwyr a’r myfyrwyr presennol yn amhrisiadwy o ran magu hyder a datblygu fy sgiliau ymchwil a bydd hynny o help i fi wrth gwblhau fy noethuriaeth.
Dywedodd Dr Lowri Ann Rees, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern ac yn un o gyd-arweinwyr y project ochr yn ochr â Dr Shaun Evans a Dr Mari Wiliam:
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Gronfa Bangor am ariannu'r prosiect yma, sydd wedi golygu ein bod ni wedi gallu datblygu rhaglen bwrpasol o hyfforddiant ymchwil i ôl-raddedigion." Gan fod aelodau o garfan ddoethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi'u lleoli yma ac acw ledled Cymru, a thu hwnt, peth arbennig iawn oedd gallu cwrdd wyneb yn wyneb a threulio dau ddiwrnod gyda’n gilydd mewn lleoliad mor wych yn meithrin ymdeimlad o gymuned. Rydyn ni hefyd yn hynod ffodus bod y criw cynyddol o gyn-fyfyrwyr y Sefydliad mor barod i gymryd rhan yn y prosiect, a rhannu profiadau am eu gyrfaoedd a'u bywydau ar ôl gorffen gwneud doethuriaeth.
Mae Bethan Scorey, un o ymchwilwyr doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn rhannu myfyrdodau am y gweithdy a gynhaliwyd yn Gregynog yn y blog hwn.





Hoffai Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ddiolch i Gronfa Bangor a'i gefnogwyr am wneud y gweithdy arbennig hwn yn bosibl.