Ymunwch â Dr Mari Wiliam, Darlithydd mewn Hanes Modern ar gyfer y Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
Amlygwyd ffenomenon Oes y Jazz yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae wedi gadael adladd o rwysg, crandrwydd a herio normau rhywedd. Fodd bynnag, dim ond un fersiwn o fywyd ym Mhrydain rhwng y ddau ryfel byd yw Jazz, wrth i dlodi enbydus barhau i lethu nifer o ardaloedd. Yn y sesiwn flasu yma bydd Dr Mari Elin Wiliam yn archwilio tri phrofiad gwahanol o fywyd ym Mhrydain yn ystod Oes y Jazz: slymiau a chaledi; credoau ysbrydol a seansau; flappers a hanes cwîar. Ymunwch â ni am gipolowg o gyfnod arwyddocaol mewn hanes diwylliannol a chymdeithasol. Cynhelir y sesiwn flasu hon trwy gyfrwng y Saesneg.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: