Fy ngwlad:

Technoleg Hygyrch a’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu mewn Addysg – codi’r bar o ran hygyrchedd i bawb

Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offer/adnodd hwn? 

Ed Kelly - Un o'r modiwlau newydd yr oeddwn i’n gyfrifol amdano eleni oedd modiwl yn edrych ar dechnolegau digidol a dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae'n bwnc yr ydw i wastad wedi bod yn angerddol yn ei gylch gan fy mod yn credu y gall defnyddio technoleg oresgyn llawer o rwystrau ac nid dim ond rhwystrau anghenion dysgu ychwanegol.  A dweud y gwir, mewn swydd flaenorol, roedd y rhan fwyaf o'r disgyblion yn fy nosbarth yn arddweud eu gwaith yn hytrach na’i ysgrifennu felly roeddwn wedi gweld pa mor bwerus y gall technoleg fod wrth leihau rhwystrau. 

Roeddwn i eisiau i’r modiwl gynnig dull cyfannol o gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn arbennig felly mewn perthynas â rôl technolegau digidol ymysg pethau eraill.  Yn hyn o beth roedd gen i 2 ofyniad penodol iawn: 

  • fframwaith i gefnogi gwneud y gwaith yn gynhwysol i bob dysgwr 
  • gwybodaeth gyfredol am lawer o'r technolegau digidol sydd ar gael i'n myfyrwyr. 

Beth oedd y nod wrth ddefnyddio’r offer/adnodd hwn? 

Ed Kelly – Roeddwn i’n gwybod y byddai angen rhywfaint o gefnogaeth arnaf i gyflawni’r tasgau hyn ond yn y brifysgol mae pobl ag amrywiaeth anhygoel o sgiliau sy’n gallu cynnig y fath gefnogaeth.  Cefais fanteisio ar yr adnoddau anhygoel sydd gan y Brifysgol, yn gyntaf yng Nghanolfan Dyslecsia Miles ac yna yn y Tîm Technolegau Dysgu sy’n rhan o’r Gwasanaethau Digidol. 

I gyflawni’r dasg gyntaf, fe ddefnyddion ni’r Offeryn Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ac o ran hygyrchedd digidol fe ddefnyddion ni gynifer o offer byddai’n anodd eu rhestru i gyd ond roedden nhw’n cynnwys fel enghraifft, dewis ffontiau, is-deitlo, arddweud, defnyddio penawdau, fideos, ffeiliau sain i enwi dim ond rhai!  

I ba ddiben y gwnaethoch chi ddefnyddio'r offer/adnodd? 

Ruth Elliott - Mae Canolfan Dyslecsia Miles, fel rhan o'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, yn darparu hyfforddiant i addysgwyr, i'w gwneud yn ymwybodol o faterion hygyrchedd yn yr ystafell ddosbarth, ac i fusnesau yn y gweithle. Mae’r gwaith yn deillio o'r heriau sy’n cael eu hwynebu gan unigolion â dyslecsia ac anawsterau llythrennedd gan nad ydynt yn gallu cael mynediad at ddeunyddiau ac aseiniadau addysgol, ac adnoddau yn y gweithle wrth ddefnyddio technoleg hygyrch. 

Fe wnaethom awgrymu defnyddio’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu  i osod ffrâm i’r aseiniad.  Mae’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu wedi bod yn destun cryn ddadlau yn y byd addysg yn y gorffennol ac mae rhai rhannau ohono’n parhau i hollti barn ond fel fframwaith cyffredinol, ac o’i ddefnyddio gan gadw mewn cof yr amheuon sy’n bodoli o’i amgylch, mae'n arf eithriadol ar gyfer mynd i'r afael â chynwysoldeb.  Mae’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn darparu elfen ychwanegol o hygyrchedd sy'n gofyn am fod yn hyblyg wrth feddwl sut i gyflwyno tasgau, sut i gyfleu syniadau, a sut y gellir mynegi bod gwaith wedi ei gwblhau.  Mae’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn darparu dadansoddiad clir o wahanol agweddau ar hygyrchedd a chynwysoldeb wrth ddylunio deunyddiau addysgol. Fodd bynnag, gan fod cynifer o opsiynau, gall lethu rhywun wrth ddechrau arni. Gall mabwysiadu syniadau megis 'ac un arall' wrth feddwl am hygyrchedd fod yn ffordd dda o ddechrau defnyddio'r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, trwy feddwl am un ffordd arall y gall eich adnodd, tasg, neu gyflwyniad fod yn fwy hygyrch a chynhwysol. Enghreifftiau fyddai ychwanegu ffeil sain at ddarn o destun neu ddarparu opsiynau asesu gwahanol i ganiatáu i unigolion ymchwilio i rywbeth sydd o ddiddordeb iddynt mewn ffordd sy'n cysylltu â'u hunaniaeth.  Caniataodd y cydweithio rhwng Canolfan Dyslecsia Miles a'r Ysgol Addysg i ni rannu ein sgiliau ni yn hyfforddi athrawon a’n harbenigedd yn y maes addysg gyda'r sgiliau technegol a'r wybodaeth am anawsterau llythrennedd a thechnolegau dysgu sydd i’w gael yn y ganolfan. 

Yr ail ofyniad oedd sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn oedd ar gael a thrwy ba lwyfannau.  Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn cynnal cyrsiau hyfforddi ar sawl math o feddalwedd arbenigol a thechnoleg gynorthwyol ac ar greu dogfennau hygyrch. Maent yn gweithio gan ddefnyddio meddalwedd megis Microsoft Teams, Google Classroom, a thechnolegau arbenigol. 

Mae’r Ysgol Addysg bellach wedi cyfieithu’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu i’r Gymraeg ar gyfer myfyrwyr y brifysgol hon a myfyrwyr eraill ledled Cymru. 

Sut effeithiodd yr offer/adnodd ar yr addysgu? 

Ed Kelly - Defnyddiwyd arddangosiadau ac uwchsgilio o ran sut i ddefnyddio technolegau hygyrch fel rhan o'r darlithoedd. Ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn oni bai am Bethan Jones - Uwch Dechnolegydd Dysgu yn y Gwasanaethau Digidol a lwyddodd i ddatrys bron pob un o'r problemau y gwnaethom eu hwynebu.  Mae'n dal yn rhwystredig fod rhai opsiynau hygyrchedd sy'n llawer anoddach eu darparu yn Gymraeg nag yn Saesneg.  Roedd elfen theori’r darlithoedd yn defnyddio’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu i hybu hyblygrwydd wrth feddwl yn nhermau sut i fynd ati i ddylunio tasgau, gan ystyried amrywiaeth yn y modd y gellid cwblhau tasgau, opsiynau ar gyfer cyrchu adnoddau, ffurfiau lluosog o gynrychiolaeth, a  

Ruth Elliott - I’r staff yng Nghanolfan Dyslecsia Miles roedd defnyddio’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn ein hatgoffa bod angen i'n hadnoddau ystyried croestoriadedd a'r effeithiau ar unigolion â gwahaniaethau dysgu ac anableddau. Rydym yn datblygu ein hyfforddiant i ystyried sut i wneud ein hadnoddau ein hunain yn fwy hygyrch o ran technoleg a bod yn gynhwysol i ystod ehangach o anghenion unigolion megis cof gweithredol, a gweithrediad goruchwyliol. 

Pa mor llwyddiannus oedd yr offer/adnodd? A fyddech yn ei argymell? 

Ed Kelly - Mae'r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn arf da ar gyfer agor y llygaid a'r meddwl i wahanol opsiynau ar gyfer hygyrchedd a chynwysoldeb. Yn ogystal, gall cael rhywfaint o gefnogaeth a chydweithio gyda chydweithwyr i daflu syniadau ac ystyried gwahanol ffyrdd o addysgu a dysgu fod yn ffordd wych o ddatblygu eich ymarfer. 

Ruth Elliott – Mae cyd-greu adnoddau ac aseiniadau gyda’r Ysgol Addysg yn defnyddio’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu wedi bod yn gyfle gwych i gynyddu ymwybyddiaeth o hygyrchedd i ddysgwyr â dyslecsia a niwroamrywiaeth. Bydd gwybod bod y ddealltwriaeth hon yn mynd allan i'n hysgolion lleol er budd disgyblion yn gwneud ein gwaith yn haws yn y dyfodol. Mae’r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn fan cychwyn gwych ar gyfer hygyrchedd i bawb. 

Sut groeso gafodd yr offer/adnodd gan y myfyrwyr? 

Gwnaeth y myfyrwyr yn wych ac fe wnaethon nhw ymgysylltu â'r modiwl a'r agweddau hygyrchedd.  Fe wnaethant fy herio innau hefyd i feddwl am ddulliau newydd.Roedd yn ddiddorol i mi gan ei fod wedi gwneud i mi fy herio fy hun ynghylch materion yn ymwneud â hygyrchedd a chan fy mod yn addysgu hygyrchedd cefais fy ngorfodi i’w hyrwyddo a'i fodelu.  Mae hyn wedyn wedi lledaenu i bob un o fy narlithoedd ac wrth i mi geisio gwella fy nisgyblion mae hynny wedi fy ngalluogi i wella fy hun. 

Rhannwch 'awgrym da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offer/adnodd 

Ed Kelly - O ganlyniad i addysgu modiwl ar hygyrchedd rydw i nawr yn gwneud hynny fel rhan feunyddiol o'r hyn rydw i'n ei wneud.  Os ydych yn darlithio yn Saesneg ac yn defnyddio PowerPoint peidiwch â gofyn i fyfyrwyr a ydyn nhw angen isdeitlau jest defnyddiwch nhw.  Blaenoriaethwch hygyrchedd dros estheteg, er bod y ffont ‘na'n edrych yn grêt, ydych chi eisiau ynysu rhywun yn eich dosbarth.  Yn olaf, os ydych chi eisiau gwerthuso eich hygyrchedd eich hun, rhowch gynnig ar y fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu fel lle da i ddechrau! 

Sut gellir crynhoi'r profiad hwn mewn tri gair? 

Goleuedigol, Diddorol ac (wrth gwrs) Hygyrch! 

 

Deunyddiau darllen a argymhellir:

Technoleg ac Offer Hygyrchedd | Hygyrchedd Microsoft 

Canllawiau'r fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 

Cyfeiriadau: 

Capp, M. J. (2017). The effectiveness of universal design for learning: a meta-analysis of literature between 2013 and 2016. International Journal of Inclusive Education, 21(8), 791–807. https://doi.org/10.1080/13603116.2017.1325074 

Davies, P. L., Schelly, C. L., & Spooner, C. L. (n.d.). Measuring the Effectiveness of Universal Design for Learning Intervention in Postsecondary Education. Journal of Postsecondary Education and Disability, 26(3).

 

Cyswllt am ragor o wybodaeth:

Ed Kelly - edp405@bangor.ac.uk 

Ruth Elliott - ruth.elliott@bangor.ac.uk 

Tîm Technolegau Dysgu - helpdesk@bangor.ac.uk