Taflen Wybodaeth
Gwybodaeth ar ffurf fideo
Taflen Wybodaeth i Gyfranogwr AdaptQoL – Sgript fersiwn Sain/Fideo
Hoffem eich gwahodd i ymuno â'n project ymchwil newydd o'r enw AdaptQoL. Teitl llawn y project yw: Addasu ac Ansawdd Bywyd: Datblygu mesur canlyniadau ar sail adroddiadau cleifion ar gyfer pobl sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol ac ymyriadau addasol eraill
Mae'r astudiaeth hon yn ymwneud â deall sut mae technolegau cynorthwyol yn effeithio ar iechyd ac ansawdd bywyd pobl.
Mae technoleg gynorthwyol yn derm eang sy'n cyfeirio at lawer o wahanol ddyfeisiau a chymhorthion sy'n helpu pobl i gyflawni tasgau beunyddiol a allai fod yn anodd neu'n amhosibl fel arall oherwydd nam. Mae'r mathau hyn o gymhorthion a dyfeisiau'n tueddu i berthyn i un o 5 categori:
Cymhorthion symudedd (megis cadeiriau olwyn, ffyn cerdded a breichiau neu goesau prosthetig)
Cymhorthion gwybyddiaeth (megis cymhorthion cof a chynorthwywyr digidol personol)
Cymhorthion cyfathrebu (megis meddalwedd testun-i-leferydd, apiau capsiynau a dyfeisiau tracio llygaid)
Cymhorthion hunanofal a gweithgareddau dyddiol (megis cadeiriau cawod, cyllyll a ffyrc wedi eu haddasu, a fframiau toiled)
A chymhorthion synhwyraidd (megis cymhorthion clyw, darllenwyr sgrin, a ffon wen)
Gall y term 'ansawdd bywyd' olygu llawer o bethau gwahanol, gan gynnwys hapusrwydd, boddhad bywyd a lles. Rydym eisiau gwybod beth mae ansawdd bywyd yn ei olygu i chi, a'r ffyrdd y gall technoleg gynorthwyol effeithio ar eich bywyd, a'i wella.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i helpu i greu offeryn arolwg newydd, o'r enw AdaptQoL, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr technoleg gynorthwyol, megis y GIG, i fesur manteision gwahanol ddyfeisiau a chymhorthion.
Gyda'ch help chi, byddwn yn sicrhau bod y teclyn AdaptQoL yn gywir ac yn ddibynadwy.
Rydym wedi eich gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon oherwydd bod eich darparwr technoleg gynorthwyol neu eich gwasanaeth cymorth o'r farn y gallech fod yn gymwys i gymryd rhan. Mae yna feini prawf y byddwn yn eu gwirio i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i gymryd rhan, sef:
P'un a oes gennych nam hirdymor sydd wedi arwain at ddefnyddio technoleg gynorthwyol
P'un a ydych yn gallu cyfathrebu yn Saesneg neu'n Gymraeg
A ph'un a ydych yn 18 oed neu'n hŷn, yn gallu deall y project ac yn gallu cydsynio
Os byddwch yn dychwelyd holiadur wedi'i gwblhau atom, byddwn yn gwirio eich atebion i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i gymryd rhan mewn cyfweliad. Yn anffodus, os nad ydych yn bodloni'r holl feini prawf hyn, ni fyddwn yn gallu eich cyfweld.
Yn y cyfweliad, byddwn yn siarad am yr hyn y mae ansawdd bywyd yn ei olygu i chi, sut mae technoleg gynorthwyol yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, a sut y gallwn fyn ati yn y ffordd orau i fesur manteision gwahanol gymhorthion a dyfeisiau.
Bydd y cyfweliad yn cymryd hyd at awr - gellir ei wneud ar-lein, dros y ffôn, neu hyd yn oed yn y cnawd os yw hynny'n fwy cyfleus i chi. Mae croeso i ffrind, partner, neu ofalwr ymuno â chi yn y cyfweliad.
Byddwn yn recordio'r cyfweliad os ydych yn cydsynio i hynny. Os oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol arnoch, megis iaith arwyddion, rhowch wybod i ni.
Byddwch yn derbyn taleb Amazon gwerth £20 am gymryd rhan yn y cyfweliad.
Eich dewis chi yn llwyr yw cymryd rhan - ac os ydych yn penderfynu cymryd rhan, gallwch roi'r gorau iddi ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm. Ni fydd yn effeithio ar eich gofal mewn unrhyw ffordd.
Nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw risgiau i chi os ydych yn penderfynu cymryd rhan, ond gallai rhai pynciau am eich iechyd ac ansawdd eich bywyd deimlo'n bersonol - nid oes rhaid i chi ateb unrhyw beth nad ydych yn gyfforddus ag ef.
Cymerwch eich amser i ystyried cymryd rhan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw beth yn aneglur neu os ydych eisiau gwybod mwy. Efallai yr hoffech hefyd drafod y project AdaptQoL gyda'ch teulu a'ch ffrindiau neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gwneud penderfyniad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â swyddfa AdaptQoL gan ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost adaptqol@bangor.ac.uk neu drwy ein ffonio ar 07792670053.
Os hoffech gymryd rhan, llenwch yr holiadur a'r ffurflen gydsynio a gawsoch gyda'ch gwahoddiad i'r astudiaeth - Os cawsoch holiadur papur, dylech ei bostio’n ôl yn yr amlen ragdaledig, neu gallwch gwblhau ein holiadur ar-lein gan ddefnyddio'r cod QR neu'r ddolen a ddarperir gyda'ch gwahoddiad. Bydd aelod o’n tîm wedyn yn cysylltu â chi i drefnu eich cyfweliad.
Diolch am ystyried cymryd rhan ym mhroject AdaptQoL. Gallai eich profiadau helpu i wella sut mae'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn deall ac yn cefnogi pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael gwybod mwy, gallwch anfon e-bost atom yn adaptqol@bangor.ac.uk neu ein ffonio ar 07792670 053.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!