Mae Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol (PHERG) rhan o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd, ac o dan arweiniad yr Athro Rhiannon Tudor Edwards. O fewn cynlluniau astudiaeth newydd ac arbrofol, mae ymchwil y grŵp yn mabwysiadu model cwrs bywyd ac yn cymhwyso economeg iechyd i iechyd cyhoeddus ac ataliol, llesiant a lles, yn gynyddol yng nghyd-destun cynaliadwyedd a newid hinsawdd. Rydym yn mesur effeithiolrwydd cost, gwerth cymdeithasol a lles.