Darganfod Diwylliant Tsieineaidd – Gweithdai Cinio Am Ddim!
Gweithdy Breichled Cwlwm Tsieineaidd: Gweu Lwc Da
Mynediad: Am ddim – dim angen cofrestru
Mynediad: Ar sail y cyntaf i’r felinCymerwch saib ymlaciol amser cinio a mwynhewch gyfres o weithdai creadigol sy’n dathlu harddwch celf a chrefft Tsieina. Bob wythnos, byddwch yn archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Gweithdy Breichled Cwlwm Tsieineaidd: Gweu Lwc Da
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn greadigol ac ymlaciol lle byddwch yn dysgu’r grefft draddodiadol o wneud clymau Tsieineaidd i greu eich breichled hardd eich hun. Mae clymau Tsieineaidd yn symbolau o lwc dda, undod, a chariad tragwyddol, ac fe’u rhoddir yn aml fel anrhegion ystyrlon.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
Darganfod arwyddocâd diwylliannol clymau Tsieineaidd a’u hystyr symbolaidd.
Dysgu’r technegau sylfaenol ar gyfer gweu clymau gan ddefnyddio edafedd lliwgar.
Creu eich breichled gain eich hun i fynd adref gyda chi neu i’w rhoi’n anrheg.
Mwynhewch awr o greadigrwydd tawel wrth i chi weu patrymau sy’n cysylltu traddodiad, celfyddyd a symbolaeth. Darperir yr holl ddeunyddiau, ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Cymerwch saib heddychlon o’ch diwrnod a dewch â thipyn o ddiwylliant Tsieineaidd i’ch dwylo!