Teitl y digwyddiad: Harmony Across Cultures: A Fusion of Chinese and Welsh Music
Rydym yn falch iawn o gael gwahoddiad i’r cyngerdd haf hwn. Ymunwch â ni am noson hudolus o gerddoriaeth wrth i ni ddathlu cyfoeth diwylliannol Tsieina a Chymru. Dan arweiniad Timothius Adiel Prasetyo, myfyrwraig PhD yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Sefydliad Confucius, mae’r perfformiad cerddorol hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad hyfryd o gytgord ac alaw.
Mae ein chwaraewr Guzheng hynod dalentog, Wenting Cai, wedi paratoi cyfres ddiddorol dros ben sy’n cynnwys tri darn hudolus:
"Qingchengshanxia Bai Su Zhen" - Fersiwn cyfareddol o gerddoriaeth draddodiadol Tsieina a fydd yn eich cludo i deyrnasoedd hynafol.
"Here is Love" - Cân Gymreig llawn emosiwn, sy'n ymdrin â themâu cariad a hiraeth.
"Tonghua" - Rhythm bywiog cerddoriaeth bop Tsieina, cyfuniad o rythmau modern a swyn traddodiadol.
Nodwch ddyddiad y digwyddiad arbennig hwn ar 15 Mehefin yn Eglwys Bentecostaidd AoG Bangor. Mae'n brofiad na fyddwch eisiau ei golli!