Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Sesiynau dwy awr dros 6 wythnos, ym Mangor. Gan ddechrau ar 24 Medi 2025, cynhelir sesiynau bob nos Fercher rhwng 6:00 YP a 8:00 YP am chwe wythnos. Bydd y sesiynau ar ffurf darlithoedd rhyngweithiol.
Mae'r Goncwest Normanaidd yn un o'r digwyddiadau mwyaf adnabyddus yn hanes Prydain. Daeth â newidiadau sylweddol i wleidyddiaeth a chymdeithas Prydain, ailddiffiniodd hunaniaethau, gan roi bod i chwedlau a gwaddol sy'n dal i fodoli heddiw. Bydd y cwrs byr hwn yn archwilio’r Goncwest Normanaidd a theyrnasiad Gwilym Goncwerwr (m. 1087), effaith y goncwest ar Brydain yn yr unfed ganrif ar ddeg, a sut y cofir hynny heddiw.
Bydd pob dosbarth yn edrych ar thema benodol:
1. Y Normaniaid a Lloegr cyn 1066;
2. Yr olyniaeth, Brwydr Hastings, a Thapestri Bayeux;
3. Rheolaeth a Gwrthryfel (gyda phwyslais ar yr ymgyrchoedd milwrol yng ngogledd Lloegr); 4. Effaith y Normaniaid ar Brydain: parhad a newid;
5. Llyfr Dydd y Farn;
6. Y Goncwest Normanaidd mewn llyfrau hanes a'r dychymyg poblogaidd.
Cyflwynir dysgwyr i fywyd a theyrnasiad Gwilym Goncwerwr a'r ffynonellau sy'n dweud wrthym amdano, ei goncwest, ei deyrnasiad yn Lloegr, ac ymyriadau'r Normaniaid yng Nghymru a'r Alban. Byddant yn archwilio rhai o themâu a phynciau allweddol teyrnasiad Gwilym Goncwerwr, yn cloriannu’r dadleuon yn eu cylch, ac yn ystyried y datgysylltiad rhwng safbwyntiau academaidd modern a'r rhai a ymgorfforir mewn gweithiau poblogaidd ar y pwnc.
Bydd y cwrs byr hwn yn cyflwyno dysgwyr i Gwilym Goncwerwr, ei goncwest yn Lloegr, a'i deyrnasiad fel brenin. Bydd yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o ddigwyddiad allweddol yn hanes Prydain a chymdeithas y cyfnod. Bydd hefyd yn rhoi ymdeimlad o sut mae hanes yr unfed ganrif ar ddeg wedi'i ysgrifennu, a chryfderau a chyfyngiadau'r naratifau a'r dogfennau sy'n croniclo’r hanes hwnnw.
Tiwtor
Mark Hagger

Ymunais â'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg (fel y’i gelwid bryd hynny) ym Mangor ym mis Medi 2007. Cefais fy noethuriaeth o Brifysgol St Andrews yn 1998 a bûm yn gweithio am gyfnod fel cyfreithiwr yn Ninas Llundain cyn dychwelyd i'r byd academaidd ym mis Hydref 2003. O'r adeg honno tan haf 2006 cefais fy nghyflogi yng Nghyfadran Hanes Prifysgol Rhydychen fel cynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol ar broject i olygu siarteri a gwritiau Harri I (1100–1135).
Rwy'n gymrawd o'r Royal Historical Society, yn aelod o gyngor y Pipe Roll Society, ac yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Goffa Allen Brown. Ar hyn o bryd, rwy'n Gyfarwyddwr y Gynhadledd Frwydr flynyddol ar Astudiaethau Eingl-Normanaidd ac yn olygydd trafodion y gynhadledd, Anglo-Norman Studies..
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar reolaeth a llywodraeth Normandi a Lloegr o'r ddegfed i'r ddeuddegfed ganrif. Cyhoeddais fonograff, Norman rule in Normandy, 911-1144, yn 2017, ac ar hyn o bryd rwy'n dechrau gweithio ar y cyfnod dilynol o reolaeth Angefin yn y ddugiaeth rhwng 1144 a 1204.
Mae'r ymchwil hwnnw'n mynd law yn llaw â gwaith ar reolaeth a llywodraeth brenhinoedd Normanaidd ac Angefin yn Lloegr, gyda ffocws yma ar y siarteri a'r gwritiau a gyhoeddwyd gan y gwahanol frenhinoedd, yn ogystal ag ar y rholiau siecr—cofnodion yr archwiliad blynyddol o refeniw'r brenin.